Nodi gofynion y ddogfen gynhyrchu a sicrhau bod gwybodaeth am y prosiect yn cael ei rheoli a’i chynnal
Trosolwg
Mae’r safon hon yn ymwneud â phennu gofynion dogfennau cynhyrchu, monitro a rheoli’r gwaith o baratoi manylebau rhagnodol, a rheoli a chynnal gwybodaeth am brosiectau yn unol â ofynion sefydliadol cyfredol sy’n cyfateb i’r gofynion statudol a deddfwriaethol presennol neu’n rhagori arnynt
Mae’r safon hon ar gyfer pobl sy’n gweithio ym maes galwedigaethol
rheoli gweithrediadau contractio adeiladwaith a gall gweithwyr, goruchwylwyr a rheolwyr ei
defnyddio
Meini prawf perfformiad
Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:
Pennu gofynion y ddogfen gynhyrchu
P1 dewis gofynion rheoli ar gyfer gwybodaeth am y prosiect a rhaglen ddogfennau sy’n addas ar gyfer camau’r prosiect a’r adnoddau sydd ar gael
P2 nodi pwrpas a chwmpas yr wybodaeth a’r dogfennau a’r gofynion rheoli y mae angen iddynt eu bodloni a phwy fydd yn llunio’r dogfennau
P3 datblygu rhaglen gynhyrchu, sy’n bodloni’r gofynion rheoli y cytunwyd arnynt, i gynhyrchu’r holl wybodaeth a dogfennau angenrheidiol mewn trefn gynhyrchu ymarferol
P4 sicrhau bod digon o adnoddau a thargedau unigol realistig ar gael i gwblhau’r wybodaeth a’r dogfennau sy’n bodloni’r rhaglen cynhyrchu dogfennau y cytunwyd arni
P5 sicrhau bod cofrestrau, cofnodion a systemau ar gyfer monitro a rheoli’r gwaith o gynhyrchu gwybodaeth a dogfennau sy’n cynnal cydymffurfiaeth y prosiect yn cael eu gweithredu
P6 sicrhau bod cyfarwyddiadau cynhyrchu unigol yn cael eu pennu, a bod y rheini’n gywir, yn glir ac yn gyflawn
P7 nodi meini prawf ar gyfer gwerthuso gwybodaeth a dogfennau’r prosiect, cytuno ar y meini prawf gyda’r rhai sy’n gwneud penderfyniadau, a sicrhau eu bod yn cael eu dosbarthu i’r tîm cynhyrchu dogfennau
P8 datblygu a chytuno ar systemau ar gyfer gwirio, cymeradwyo ac integreiddio gwybodaeth a dogfennau
P9 datblygu a chytuno ar weithdrefnau sy'n briodol i ofynion y prosiect ac amodau'r contract, ar gyfer delio ag anghysonderau, anghysondebau, oedi a diwygiadau i wybodaeth a dogfennau'r prosiect
P10 datblygu trefniadau ar gyfer adrodd ynghylch cynnydd mewn perthynas â’r rhaglen gynhyrchu
P11 sicrhau bod gweithdrefnau ar waith i ddelio â materion sy’n ymwneud â gwybodaeth a dogfennau cynhyrchu
Monitro a rheoli'r gwaith o baratoi manylebau rhagnodol
P12 sicrhau bod y math o ddogfen fanyleb yn addas ar gyfer y diben a cham y prosiect
P13 sicrhau bod y fanyleb yn gyson â’r dyluniadau cyfredol a’r dogfennau cysylltiedig, bod y wybodaeth darddiadol yn ddilys ac nad yw dogfennau gwahanol yn cynnwys gwybodaeth ddyblyg a gwrthgyferbyniol
P14 cadarnhau cymalau technegol o ffynonellau safonol, sy’n diffinio ansawdd, math a safon y deunyddiau, y cydrannau a’r gwaith gorffenedig
Rheoli a chynnal gwybodaeth am y prosiect
P15 cadarnhau gyda rhanddeiliaid allweddol yr wybodaeth sydd ei hangen ar gyfer gwneud penderfyniadau a rheoli asedau drwy gydol camau’r prosiect
P16 nodi a chadarnhau protocolau, fformatau data a safonau ar gyfer cyfnewid gwybodaeth rhwng holl randdeiliaid perthnasol y prosiect sy’n cadw cyfrinachedd
P17 cadarnhau gofynion y rhanddeiliaid o ran rheoli a storio gwybodaeth a dogfennau sy’n cadw cyfrinachedd
P18 cadarnhau statws yr wybodaeth am baramedrau dylunio, a sicrhau ei bod yn cael ei throsglwyddo i’r rheini sydd ei hangen er mwyn cael gwybodaeth am y prosiect a llunio dogfennau, gan nodi unrhyw ystyriaethau a chyfyngiadau arbennig o ran ei defnyddio
P19 sicrhau bod gwybodaeth a dogfennau’n cael eu coladu pan fyddant wedi cael eu llunio
P20 nodi unrhyw anghysonderau ac anghysondebau yn yr wybodaeth a’r dogfennau, a chyfeirio unrhyw broblemau’n ôl at yr awduron gwreiddiol i’w hegluro a’u datrys
P21 sicrhau bod unrhyw anghysonderau ac anghysondebau rhwng gwybodaeth, dogfennau a manylebau’r prosiect yn cael eu datrys a bod y diwygiadau y cytunwyd arnynt yn cael eu dosbarthu
P22 sicrhau bod gwybodaeth gyfoes a chywir am gynnydd yn cael ei chynhyrchu a’i rhoi i’r bobl y mae angen y wybodaeth arnynt er mwyn bodloni gofynion y prosiect
P23 sicrhau bod cofrestrau, cofnodion, gwybodaeth a dogfennau cywir a chyflawn yn cael eu cynnal yn unol â rheoliadau cyfredol
Gwybodaeth a Dealltwriaeth
You need to know and understand:
Pennu gofynion y ddogfen gynhyrchu
Meini Prawf Perfformiad 1
**
K1 sut a pham mae angen dewis gofynion rheoli ar gyfer yr wybodaeth am y prosiect a’r rhaglen ddogfennau sy’n addas ar gyfer camau’r prosiect a’r adnoddau sydd ar gael
*
*
Meini Prawf Perfformiad 2
K2 sut a pham mae angen nodi pwrpas a chwmpas y wybodaeth a’r dogfennau a’r gofynion rheoli y mae angen iddynt eu bodloni a phwy fydd yn llunio’r dogfennau
*
*
Meini Prawf Perfformiad 3
K3 sut a pham mae angen datblygu rhaglen gynhyrchu, sy’n bodloni’r gofynion rheoli y cytunwyd arnynt, i lunio’r holl wybodaeth a’r dogfennau gofynnol mewn trefn gynhyrchu ymarferol
*
*
Meini Prawf Perfformiad 4
K4 sut a pham mae angen sicrhau bod digon o adnoddau a thargedau unigol realistig ar gael i gwblhau’r wybodaeth a’r dogfennau sy’n bodloni’r rhaglen cynhyrchu dogfennau y cytunwyd arni
*
*
Meini Prawf Perfformiad 5
K5 sut a pham mae angen sicrhau bod cofrestrau, cofnodion a systemau ar gyfer monitro a rheoli’r gwaith o gynhyrchu gwybodaeth a dogfennau sy’n cynnal cydymffurfiad prosiectau yn cael eu gweithredu
*
*
Meini Prawf Perfformiad 6
K6 sut a pham mae angen sicrhau bod cyfarwyddiadau cynhyrchu unigol a bennwyd yn gywir, yn glir ac yn gyflawn
*
*
Meini Prawf Perfformiad 7
K7 sut a pham mae angen nodi meini prawf ar gyfer gwerthuso gwybodaeth a dogfennau’r prosiect
K8 sut a pham mae angen cytuno ar y meini prawf ar gyfer gwerthuso gwybodaeth a dogfennau’r prosiect gyda’r rhai sy’n gwneud penderfyniadau
K9 sut mae angen dosbarthu’r meini prawf ar gyfer gwerthuso gwybodaeth a dogfennau’r prosiect i’r tîm cynhyrchu
*
*
Meini Prawf Perfformiad 8
K10 sut a pham mae angen datblygu a chytuno ar systemau ar gyfer gwirio, cymeradwyo ac integreiddio gwybodaeth a dogfennau
*
*
Meini Prawf Perfformiad 9
K11 sut a pham mae angen datblygu gweithdrefnau sy'n briodol i ofynion y prosiect ac amodau'r contract, ar gyfer delio ag anghysonderau ac anghysondebau, oedi a diwygio gwybodaeth a dogfennau'r prosiect
*
*
Meini Prawf Perfformiad 10
K12 sut a pham mae angen datblygu trefniadau ar gyfer adrodd ynghylch cynnydd mewn perthynas â’r rhaglen gynhyrchu
*
*
Meini Prawf Perfformiad 11
K13 sut mae rheoli materion cynhyrchu gwybodaeth a dogfennau
Monitro a rheoli'r gwaith o baratoi manylebau rhagnodol*
*
*Meini Prawf Perfformiad 12*
K14 sut a pham mae angen sicrhau bod y math o ddogfen fanyleb yn addas ar gyfer y diben a cham y prosiect
*
*
Meini Prawf Perfformiad 13
K15 sut mae angen sicrhau bod y fanyleb yn gyson â’r dyluniadau cyfredol a’r dogfennau cysylltiedig, bod yr wybodaeth darddiadol yn ddilys ac nad yw dogfennau ar wahân yn cynnwys gwybodaeth ddyblyg a gwrthgyferbyniol
K16 sut mae diweddaru’r system yn brydlon pan fydd y dyluniad yn newid
*
*
Meini Prawf Perfformiad 14
K17 sut a pham mae angen cadarnhau cymalau technegol o ffynonellau safonol, sy’n diffinio ansawdd, math a safon y deunyddiau, y cydrannau a’r gwaith gorffenedig
Rheoli a chynnal gwybodaeth am y prosiect
*Meini Prawf Perfformiad 15
*
K18 sut mae cadarnhau gyda rhanddeiliaid allweddol yr wybodaeth sydd ei hangen ar gyfer gwneud penderfyniadau a rheoli asedau drwy gydol camau’r prosiect
*
*
Meini Prawf Perfformiad 16
K19 sut a pham mae angen nodi a chadarnhau protocolau, fformatau data a safonau ar gyfer cyfnewid gwybodaeth rhwng holl randdeiliaid perthnasol y prosiect sy’n cadw cyfrinachedd
*
*
Meini Prawf Perfformiad 17
K20 sut mae cadarnhau gofynion y rhanddeiliaid o ran rheoli a storio gwybodaeth a dogfennau sy’n cadw cyfrinachedd
*
*
Meini Prawf Perfformiad 18
K21 sut a pham mae angen cadarnhau statws yr wybodaeth am baramedrau'r dyluniad
K22 sut mae cadarnhau statws yr wybodaeth am baramedrau dylunio, a sicrhau ei bod yn cael ei throsglwyddo i’r rheini sydd ei hangen er mwyn cael gwybodaeth am y prosiect a llunio dogfennau, gan nodi unrhyw ystyriaethau a chyfyngiadau arbennig o ran ei defnyddio
*
*
Meini Prawf Perfformiad 19
K23 sut a pham mae angen sicrhau bod gwybodaeth a dogfennau’n cael eu coladu pan fyddant wedi cael eu llunio
*
*
Meini Prawf Perfformiad 20
K24 sut a pham mae angen nodi unrhyw anghysonderau ac anghysondebau yn yr wybodaeth a’r dogfennau, a chyfeirio unrhyw broblemau’n ôl at yr awduron gwreiddiol i’w hegluro a’u datrys
Meini Prawf Perfformiad 21
K25 sut a pham mae angen sicrhau bod unrhyw anghysonderau ac anghysondebau rhwng gwybodaeth, dogfennau a manylebau’r prosiect yn cael eu datrys a bod y diwygiadau y cytunwyd arnynt yn cael eu dosbarthu
*
*
Meini Prawf Perfformiad 22
K26 sut a pham mae angen sicrhau bod gwybodaeth gyfoes a chywir am gynnydd yn cael ei llunio a’i rhoi i’r bobl y mae angen y wybodaeth arnynt er mwyn bodloni gofynion y prosiect
*
*
Meini Prawf Perfformiad 23
K27 sut a pham mae angen sicrhau bod cofrestrau, cofnodion, gwybodaeth a dogfennau cywir a chyflawn yn cael eu cynnal yn unol â gwarantau rheoliadau cyfredol
K28 pam mae’n bwysig cadw cofrestrau, cofnodion, gwybodaeth a dogfennau yn gywir a chyfoes