Cydlynu dyluniadau prosiectau

URN: COSCCOMO08
Sectorau Busnes (Suites): Rheoli Gweithrediadau Contractio Adeiladwaith
Datblygwyd gan: Construction Skills
Cymeradwy ar: 31 Awst 2022

Trosolwg

Mae'r safon hon yn ymwneud â chydlynu dyluniadau prosiectau ym maes rheoli gweithrediadau contractio adeiladwaith yn unol â ofynion sefydliadol cyfredol sy'n cyfateb i'r gofynion statudol a deddfwriaethol presennol neu'n rhagori arnynt

Mae'r safon hon ar gyfer pobl sy'n gweithio ym maes galwedigaethol rheoli gweithrediadau contractio adeiladwaith a gall gweithwyr, goruchwylwyr a rheolwyr ei defnyddio


Meini prawf perfformiad

Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:

Nodi a chydlynu'r dulliau ar gyfer paratoi dyluniadau cychwynnol

P1  nodi pa rannau o’r prosiect sydd angen dyluniad manwl

P2  nodi gwrthdaro posibl rhwng rhannau o ddyluniad y prosiect a chytuno ar atebion

P3  asesu pa mor addas yw’r datrysiadau dylunio presennol a allai fodloni meini prawf y prosiect

P4  cadarnhau’r meini prawf adeiladu a chynaliadwyedd sy’n bwysig i’r dyluniad cyffredinol a pha gyfleoedd a chyfyngiadau posibl a allai godi wrth eu bodloni

P5  cadarnhau’r dulliau ar gyfer datblygu dyluniadau manwl a gwybodaeth gysylltiedig yn unol â chodau ymarfer perthnasol

P6  cadarnhau gyda rhanddeiliaid y paramedrau y cytunwyd arnynt ar gyfer dyluniadau’r prosiect


Dewis deunyddiau, cydrannau a systemau

P7  ymchwilio ac asesu pa mor addas yw deunyddiau, cydrannau a systemau presennol sy’n bodloni meini prawf tebyg ar gyfer adeiladwaith a chynaliadwyedd

P8  dewis deunyddiau, cydrannau a systemau cymeradwy sy’n bodloni’r meini prawf ar gyfer dylunio, adeiladu a chynaliadwyedd sy’n cydbwyso cost ac ansawdd

P9  cadarnhau’r deunyddiau, y cydrannau a’r systemau sy’n bodloni’r meini prawf adeiladu a chynaliadwyedd, a chofnodi’r rheini


Dadansoddi, dewis a chyflwyno atebion dylunio manwl

P10  nodi ffactorau sy’n debygol o ddylanwadu ar ddatrysiadau dylunio

P11  dadansoddi a blaenoriaethu'r ffactorau a fydd yn dylanwadu ar y datrysiad dylunio ac yn datrys unrhyw wrthdaro rhyngddynt

P12  cytuno ar feini prawf ar gyfer dewis datrysiadau, a’u defnyddio

P13  dadansoddi a phrofi’r datrysiadau dylunio mewn perthynas â’r holl ffactorau perthnasol

P14  cofnodi ymchwiliadau a dadansoddiadau, gan gynnwys gwybodaeth ategol a’u pasio ymlaen i’w cymeradwyo gan berson awdurdodedig

P15  dewis y dyluniad a ffefrir, a’i gyflwyno’n briodol i randdeiliaid

P16  cadarnhau gyda rhanddeiliaid yr amcangyfrif o’r gost a’r amser adeiladu ar gyfer y dyluniad dan sylw

P17  cadarnhau a chofnodi cytundeb ynghylch y datrysiad dylunio gyda’r rhai sy’n gwneud penderfyniadau, gan alluogi’r prosiect i symud ymlaen i’r cam nesaf


Gwybodaeth a Dealltwriaeth

You need to know and understand:

Nodi a chydlynu'r dulliau ar gyfer paratoi dyluniadau cychwynnol

Meini Prawf Perfformiad 1
**

K1  sut, pam a beth i’w nodi fel rhannau o’r prosiect cyffredinol y mae angen dyluniad manwl ar eu cyfer

*
*

Meini Prawf Perfformiad 2

K2  sut, pam a beth i'w ystyried yn wrthdaro posibl rhwng rhannau o ddyluniad y prosiect, gan gynnwys y canlynol, ond heb fod yn gyfyngedig i'r rhain:

  • agweddau gweledol a gofodol
  • perfformiad gweithredol
  • perfformiad technegol
  • safonau ansawdd
  • deddfwriaeth a chodau ymarfer perthnasol
  • darfodiad/oes y dyluniad
  • iechyd a diogelwch
  • ffactorau amgylcheddol
  • adeiladwyedd/datgymaliad
  • gweithredu, cynnal a chadw a defnyddio

Meini Prawf Perfformiad 3

K3  sut a pham mae angen asesu pa mor addas yw’r datrysiadau dylunio presennol a allai fodloni meini prawf y prosiect

*
*

Meini Prawf Perfformiad 4

K4  sut mae cadarnhau’r meini prawf adeiladu a chynaliadwyedd sy’n bwysig i’r dyluniad cyffredinol, a pha gyfleoedd a chyfyngiadau posibl a allai godi wrth eu bodloni

*
*

Meini Prawf Perfformiad 5

K5  sut a gyda phwy y dylid cadarnhau’r dulliau ar gyfer datblygu dyluniadau manwl a gwybodaeth gysylltiedig yn unol â chodau ymarfer perthnasol

*
*

Meini Prawf Perfformiad 6

K6  sut mae cadarnhau gyda rhanddeiliaid y paramedrau y cytunwyd arnynt ar gyfer dyluniadau’r prosiect


Dewis deunyddiau, cydrannau a systemau

*Meini Prawf Perfformiad 7
*

K7  sut a pham mae angen asesu pa mor addas yw deunyddiau, cydrannau a systemau presennol sy'n bodloni meini prawf tebyg ar gyfer adeiladwaith a chynaliadwyedd:

  • perfformiad
  • edrychiad
  • argaeledd
  • adeiladwyedd
  • effeithlonrwydd
  • gwydnwch
  • oes
  • cost

*
*

Meini Prawf Perfformiad 8

K8  sut a pham mae angen dewis deunyddiau, cydrannau a systemau cymeradwy sy’n bodloni’r meini prawf ar gyfer dylunio, adeiladu a chynaliadwyedd sy’n cydbwyso cost ac ansawdd

*
*

Meini Prawf Perfformiad 9

K9  sut a pham mae angen cadarnhau’r deunyddiau, y cydrannau a’r systemau sy’n bodloni’r meini prawf adeiladu a chynaliadwyedd, a chofnodi’r rheini


Dadansoddi, dewis a chyflwyno atebion dylunio manwl

Meini Prawf Perfformiad 10*
*

K10  sut, pam a beth i’w nodi fel ffactorau sy’n debygol o ddylanwadu ar atebion dylunio gan gynnwys y canlynol, ond heb fod yn gyfyngedig i’r rhain:

  • amodau ffisegol
  • technegol

    • perfformiad
    • edrychiad
    • argaeledd
    • adeiladwyedd
    • effeithlonrwydd
    • gwydnwch
  • cost

    • cyfalaf
    • oes gyfan
  • iechyd a diogelwch

  • cynaliadwyedd
  • amgylcheddol
  • adnoddau

    • dynol
    • deunyddiau
    • cyfarpar
    • amser
    • cyllid
    • logisteg
  • gwybodaeth ddylunio y cytunwyd arni o'r cam blaenorol


**

Meini Prawf Perfformiad 11**

K11  sut a pham mae angen dadansoddi a blaenoriaethu'r ffactorau a fydd yn dylanwadu ar y datrysiad dylunio ac yn datrys unrhyw wrthdaro rhyngddynt

*
*

Meini Prawf Perfformiad 12

K12  sut a pham mae angen cytuno ar feini prawf ar gyfer dewis datrysiadau, a’u defnyddio

*
*

Meini Prawf Perfformiad 13

K13  sut a pham mae angen dadansoddi a phrofi'r datrysiadau dylunio mewn perthynas â'r holl ffactorau perthnasol, gan gynnwys y canlynol, ond heb fod yn gyfyngedig i'r rhain:

  • amodau ffisegol
  • technegol

    • perfformiad
    • edrychiad
    • argaeledd
    • adeiladwyedd
    • effeithlonrwydd
    • gwydnwch
  • cost

    • cyfalaf
    • oes gyfan
  • iechyd a diogelwch

  • cynaliadwyedd
  • amgylcheddol
  • adnoddau

    • dynol
    • deunyddiau
    • cyfarpar
    • amser
    • cyllid
    • logisteg
  • gwybodaeth ddylunio y cytunwyd arni o'r cam blaenorol

*
*

Meini Prawf Perfformiad 14

K14  sut mae cofnodi ymchwiliadau a dadansoddiadau, gan gynnwys gwybodaeth ategol a’u pasio ymlaen i’w cymeradwyo gan berson awdurdodedig

*
*

Meini Prawf Perfformiad 15

K15  sut mae cyflwyno’r dyluniadau a ffefrir yn briodol i randdeiliaid

*
*

Meini Prawf Perfformiad 16

K16  sut mae cadarnhau gyda rhanddeiliaid yr amcangyfrif o’r gost a’r amser adeiladu ar gyfer y dyluniad dan sylw

*
*

Meini Prawf Perfformiad 17

K17  sut mae cadarnhau a chofnodi cytundeb ynghylch y datrysiad dylunio gyda’r rhai sy’n gwneud penderfyniadau, gan alluogi’r prosiect i symud ymlaen i’r cam nesaf


Cwmpas/ystod


Cwmpas Perfformiad


Gwybodaeth Cwmpas


Gwerthoedd


Ymddygiadau


Sgiliau


Geirfa


Dolenni I NOS Eraill


Cysylltiadau Allanol


Fersiwn rhif


Dyddiad Adolygu Dangosol

31 Awst 2027

Dilysrwydd

Ar hyn o bryd

Statws

Gwreiddiol

Sefydliad Cychwynnol

CITB

URN gwreiddiol

COSCCOMO08

Galwedigaethau Perthnasol

Rheolwyr, Technegwyr adeiladu a pheirianneg sifil, Rheolwyr ym maes adeiladwaith, Amcangyfrifwyr, Priswyr ac aseswyr, Syrfewyr meintiau

Cod SOC

1234

Geiriau Allweddol

Dyluniad manwl; adeiladu; gosod; brîff prosiect