Canfod, asesu a gwerthuso gofynion prosiectau
Trosolwg
Mae'r safon hon yn ymwneud â chanfod, asesu, gwerthuso a chytuno ar ofynion prosiectau ac o ran adnoddau gyda rhanddeiliaid yn unol â ofynion sefydliadol cyfredol sy'n cyfateb i'r gofynion statudol a deddfwriaethol presennol neu'n rhagori arnynt
Mae'r safon hon ar gyfer pobl sy'n gweithio ym maes galwedigaethol rheoli gweithrediadau contractio adeiladwaith a gall gweithwyr, goruchwylwyr a rheolwyr ei defnyddio
Meini prawf perfformiad
Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:
Nodi, asesu a chytuno ar ofynion prosiect a dewisiadau rhanddeiliaid
P1 nodi a chytuno gyda rhanddeiliaid beth yw eu hamcanion a’u blaenoriaethau cyffredinol ar gyfer y prosiect
P2 casglu ac adolygu gwybodaeth sy’n berthnasol i ofynion y prosiect
P3 nodi opsiynau, cyfleoedd a chyfyngiadau posibl ac yna asesu’r effaith y gallai’r rhain ei chael ar ba mor ymarferol ac effeithlon yw cyflawni’r prosiect
P4 gwerthuso cynaliadwyedd cylch bywyd y prosiect
P5 nodi gofynion prosiect nad oes modd eu cyflawni, a hysbysu rhanddeiliaid
P6 cytuno ar unrhyw amrywiadau sy’n angenrheidiol i gyflawni gofynion y prosiect gyda rhanddeiliaid a chadarnhau’r rheini
Nodi, asesu a gwerthuso ffactorau caffael adnoddau
P7 ymchwilio i elfennau’r prosiect lle bydd angen adnoddau, cynllunio proses i fesur yr adnoddau hynny a nodi lle i gael gafael arnynt
P8 cytuno ar gostau, rhaglenni a briff clir ar gyfer y broses gyda rhanddeiliaid
P9 nodi a gwerthuso’r ffactorau a fydd yn dylanwadu ar gaffael a defnyddio adnoddau
P10 gwerthuso’r adnoddau sydd eu hangen a sut y bydd y rhain yn effeithio ar y gyllideb ac ar gyflawni’r prosiect
P11 cyflwyno’r gwerthusiad i’r rhai sy’n gwneud y penderfyniadau a chofnodi’r adborth a gafwyd
P12 llunio adroddiad ar gaffael a defnyddio adnoddau a fydd yn golygu bod modd gweithredu strategaeth gaffael
Gwybodaeth a Dealltwriaeth
You need to know and understand:
Nodi, asesu a chytuno ar ofynion prosiect a dewisiadau rhanddeiliaid
Meini Prawf Perfformiad 1
**
K1 pwy yw’r rhanddeiliaid perthnasol ar gyfer y prosiect
K2 sut a pham mae angen nodi a chytuno gyda rhanddeiliaid ar y nodau a’r blaenoriaethau ar gyfer y prosiect
*
*
Meini Prawf Perfformiad 2
K3 sut mae casglu ac adolygu gwybodaeth sy’n berthnasol i ofynion y prosiect
*
*
Meini Prawf Perfformiad 3
K4 sut a pham mae angen nodi opsiynau, cyfleoedd a chyfyngiadau posibl, ac yna asesu’r effaith y gallai’r rhain ei chael ar ba mor ymarferol ac effeithlon yw cyflawni’r prosiect
*
*
Meini Prawf Perfformiad 4
K5 sut a pham mae angen gwerthuso cynaliadwyedd y prosiect
*
*
Meini Prawf Perfformiad 5
K6 sut a pham mae angen nodi gofynion prosiect nad oes modd eu cyflawni
K7 sut mae rhoi gwybod i randdeiliaid mewn ffordd sy’n hyrwyddo ewyllys da ac ymddiriedaeth
*
*
Meini Prawf Perfformiad 6
K8 sut a pham mae angen cytuno a chadarnhau unrhyw amrywiadau sy’n angenrheidiol i gyflawni gofynion y prosiect gyda rhanddeiliaid
Nodi, asesu a gwerthuso ffactorau caffael adnoddau
*Meini Prawf Perfformiad 7
*
K9 sut mae ymchwilio i elfennau’r prosiect lle bydd angen adnoddau
K10 sut mae cynllunio proses i fesur yr adnoddau hynny a nodi lle i gael gafael arnynt
*
*
Meini Prawf Perfformiad 8
K11 sut a pham mae angen cytuno ar gostau, rhaglenni a briff clir ar gyfer y broses gyda rhanddeiliaid
*
*
Meini Prawf Perfformiad 9
K12 sut a pham mae angen canfod a gwerthuso’r ffactorau a fydd yn dylanwadu ar gaffael a defnyddio adnoddau
*
*
Meini Prawf Perfformiad 10
K13 sut a pham mae angen gwerthuso’r adnoddau sydd eu hangen a sut y bydd y rhain yn effeithio ar y gyllideb ac ar gyflawni’r prosiect
*
*
Meini Prawf Perfformiad 11
K14 sut mae cyflwyno’r gwerthusiad i’r rhai sy’n gwneud penderfyniadau, a chofnodi’r adborth a gafwyd mewn fformat priodol
*
*
Meini Prawf Perfformiad 12
K15 sut mae llunio adroddiad ar gaffael a defnyddio adnoddau a fydd yn golygu bod modd gweithredu strategaeth gaffael