Pennu cyflwr eiddo
Trosolwg
Mae'r safon hon yn ymwneud â gwerthuso a chymeradwyo proses arolwg cyflwr, arolygu cyflwr eiddo yn yr amgylchedd adeiledig, llunio cofnodion ac adroddiadau, a chyflwyno canfyddiadau deilliannol i randdeiliaid perthnasol, a hynny yn unol â gofynion sefydliadol cyfredol sy'n cyfateb i'r gofynion statudol a deddfwriaethol presennol neu'n rhagori arnynt
Mae'r safon hon ar gyfer pobl sy'n gweithio ym maes galwedigaethol rheoli gweithrediadau contractio adeiladwaith a gall gweithwyr, goruchwylwyr a rheolwyr ei defnyddio
Meini prawf perfformiad
Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:
Argymell a chytuno ar broses arolwg cyflwr
P1 casglu gwybodaeth er mwyn gallu nodi amcanion a phwrpas yr arolwg cyflwr
P2 gwerthuso gwybodaeth a chyngor perthnasol i nodi ffactorau arwyddocaol a allai ddylanwadu ar yr arolwg cyflwr
P3 nodi’r cyngor y gallai fod ei angen, a sicrhau bod crynodebau clir a chywir o wybodaeth yn cael eu darparu i randdeiliaid
P4 penderfynu ar broses arolwg cyflwr, a rhoi gwybod i randdeiliaid perthnasol mewn ffordd sy’n hyrwyddo ewyllys da ac ymddiriedaeth
P5 cadarnhau dulliau a thechnegau ar gyfer y broses arolwg cyflwr
P6 cadarnhau’r cyfarwyddiadau a’r cytundebau ar gyfer yr arolwg cyflwr cyn i’r gwaith ddechrau
Arolygu'r eiddo o ran cyflwr
P7 cadarnhau pwrpas yr arolwg, adolygu’r holl wybodaeth sydd ar gael a chael yr offer, yr adnoddau a’r cyngor arbenigol y bydd ei angen
P8 nodi unrhyw fylchau yn yr wybodaeth gyfredol, a chael gafael ar wybodaeth ychwanegol y bydd ei hangen ynghylch defnyddio’r eiddo
P9 cyn dechrau’r arolwg cyflwr, gwirio bod yr holl ymweliadau, trwyddedau, caniatâd a threfniadau mynediad perthnasol wedi’u cadarnhau
P10 cymryd arsylwadau a mesuriadau cywir sy’n angenrheidiol ar gyfer yr arolwg cyflwr a’u cofnodi’n glir, yn gywir ac yn gyflawn gan ddefnyddio fformatau a chonfensiynau cyfredol
P11 gwneud ymchwiliadau pellach pan fo canlyniadau’r arolwg cyflwr yn anghyson â’r canfyddiadau disgwyliedig, a chanfod yn gywir beth yw’r rheswm/rhesymau dros unrhyw anghysondebau
P12 archwilio beth yw’r rhesymau posibl dros fethiant, dirywiad a dadfeiliad
P13 nodi’r rhannau o’r eiddo nad ydynt yn cydymffurfio â gofynion statudol, a dosbarthu’r canfyddiadau i randdeiliaid
Paratoi a chyflwyno adroddiadau a chofnodion arolwg cy*flwr*
P14 casglu canlyniadau’r arolwg cyflwr
P15 sicrhau bod y dystiolaeth a ddewiswyd yn gywir, yn gyflawn ac yn berthnasol i ofynion proses yr arolwg cyflwr
P16 dadansoddi tystiolaeth ddethol gan ddefnyddio dulliau a thechnegau priodol i asesu cyflwr eiddo a nodi achosion o fethiant, dirywiad a dadfeiliad
P17 paratoi adroddiad arolwg cyflwr sy’n gywir, yn gyflawn ac yn cwrdd â chodau ymarfer perthnasol a safonau sefydliadol
P18 nodi’n glir beth yw cyflwr yr eiddo, ac argymell unrhyw waith adfer angenrheidiol
P19 nodi’n glir lle nad yw arolwg a mesur cywir wedi bod yn bosibl, ac esbonio pam
P20 cyflwyno adroddiad yr arolwg cyflwr i randdeiliaid
P21 egluro ymholiadau rhanddeiliaid am adroddiad yr arolwg cyflwr, ac ymateb yn briodol
P22 cadw cofnodion sy’n glir, yn gywir ac yn gyflawn, a chydymffurfio â gofynion sefydliadol
Gwybodaeth a Dealltwriaeth
You need to know and understand:
Argymell a chytuno ar broses arolwg cyflwr
Meini Prawf Perfformiad 1
**
K1 beth i'w nodi fel amcanion a phwrpas yr arolwg cyflwr
K2 sut mae coladu’r wybodaeth sydd ar gael
*
*
Meini Prawf Perfformiad 2
K3 sut a pham mae angen dewis gwybodaeth ddilys, gywir a pherthnasol ar gyfer y broses arolwg cyflwr
Meini Prawf Perfformiad 3
K4 beth i’w nodi fel y lefelau a’r mathau o gyngor ychwanegol y gallai fod eu hangen
*
*
Meini Prawf Perfformiad 4
K5 sut mae briffio cynghorwyr gyda chrynodebau clir a chywir o’r wybodaeth sydd ar gael
K6 sut a pham mae angen gwerthuso gwybodaeth a chyngor perthnasol i nodi ffactorau arwyddocaol a allai ddylanwadu ar yr arolwg cyflwr
*
*
Meini Prawf Perfformiad 5
K7 sut a pham mae angen dewis dulliau a thechnegau ar gyfer y broses arolwg cyflwr
K8 sut a pham mae angen argymell proses arolwg cyflwr
K9 sut a pham mae angen asesu dilysrwydd barn rhanddeiliaid sydd wedi’u cynnwys yn yr argymhelliad
K10 sut mae cyflwyno ac esbonio'r broses arolwg cyflwr i'r cleient
*
*
Meini Prawf Perfformiad 6
K11 sut a pham mae angen cytuno a chadarnhau cyfarwyddiadau ar gyfer yr arolwg cyflwr cyn i’r gwaith ddechrau
Arolygu'r eiddo o ran cyflwr
*Meini Prawf Perfformiad 7
*
K12 sut mae cadarnhau pwrpas yr arolwg cyflwr
K13 sut a pham mae angen adolygu’r wybodaeth sydd ar gael
*
*
Meini Prawf Perfformiad 8
K14 beth i'w nodi fel bylchau yn yr wybodaeth sydd ar gael
K15 sut mae cael gafael ar wybodaeth ychwanegol sydd ei hangen am yr eiddo a sut i'w defnyddio
Meini Prawf Perfformiad 9
K16 sut a pham mae angen gwirio a chadarnhau presenoldebau, trwyddedau, caniatâd a threfniadau mynediad perthnasol cyn dechrau’r arolwg cyflwr
K17 sut mae cael gafael ar y cyfarpar, yr adnoddau ac unrhyw gyngor arbenigol y bydd ei angen
*
*
Meini Prawf Perfformiad 10
K18 sut mae cymryd a chofnodi arsylwadau a mesuriadau cywir sy’n angenrheidiol ar gyfer yr arolwg cyflwr gan ddefnyddio fformatau a chonfensiynau cyfredol
*
*
Meini Prawf Perfformiad 11
K19 sut a pham mae angen gwneud ymchwiliadau pellach pan fo arsylwadau’n anghyson â’r wybodaeth bresennol a’r canfyddiadau disgwyliedig i ganfod beth yw’r rheswm/rhesymau dros unrhyw anghysondebau
K20 beth i'w nodi fel rhannau o'r eiddo nad ydynt yn cydymffurfio â gofynion statudol
*
*
Meini Prawf Perfformiad 12
K21 sut a pham mae angen archwilio beth yw’r rhesymau posibl dros fethiant, dirywiad a dadfeiliad
*
*
Meini Prawf Perfformiad 13
K22 sut mae cofnodi’r rhannau hynny o’r eiddo nad ydynt yn cydymffurfio â gofynion statudol a dosbarthu’r canfyddiadau i randdeiliaid
Paratoi a chyflwyno adroddiadau a chofnodion arolwg cyflwr
Meini Prawf Perfformiad 14
K23 sut mae cadarnhau canlyniadau’r arolwg cyflwr
*
*
Meini Prawf Perfformiad 15
K24 sut a pham mae angen dethol tystiolaeth o ganlyniadau’r arolwg cyflwr sy’n gywir, yn gyflawn ac yn berthnasol
*
*
Meini Prawf Perfformiad 16
K25 sut a pham mae angen dadansoddi tystiolaeth
ddethol gan ddefnyddio dulliau a thechnegau priodol i asesu cyflwr eiddo a nodi achosion o fethiant, dirywiad a dadfeiliad
*
*
Meini Prawf Perfformiad 17
K26 sut mae paratoi adroddiad arolwg cyflwr, gan gynnwys argymhellion ar gyfer gwaith adfer sy’n bodloni’r codau ymarfer perthnasol a safonau’r sefydliad
*
*
Meini Prawf Perfformiad 18
K27 sut mae nodi lle nad yw canlyniadau arolwg cywir wedi bod yn bosibl, ac esbonio pam
*
*
Meini Prawf Perfformiad 19
K28 sut mae cyflwyno adroddiad yr arolwg cyflwr i randdeiliaid
*
*
Meini Prawf Perfformiad 20
K29 sut mae egluro ymholiadau rhanddeiliaid am adroddiad yr arolwg cyflwr ac ymateb yn briodol
Meini Prawf Perfformiad 21
K30 sut mae cadw cofnodion sy’n glir, yn gywir ac yn gyflawn ac yn cydymffurfio â chodau ymarfer perthnasol a safonau’r sefydliad