Datblygu a chynnal perthnasoedd gwaith

URN: COSCCOMO04
Sectorau Busnes (Suites): Rheoli Gweithrediadau Contractio Adeiladwaith
Datblygwyd gan: Construction Skills
Cymeradwy ar: 31 Awst 2022

Trosolwg

​Mae'r safon hon yn ymwneud â datblygu a chynnal perthnasoedd gwaith ym maes rheoli gweithrediadau contractio adeiladwaith, ennyn ymddiriedaeth a chefnogaeth cydweithwyr, y rheini rydych chi'n adrodd iddyn nhw a phobl sy'n elwa o'ch gwaith. Mae hefyd yn ymwneud â sicrhau bod pob contract yn gyfreithiol a'i fod yn cydymffurfio â safonau ymddygiad moesegol a chymdeithasol ac arferion da


Mae'r safon hon ar gyfer pobl sy'n gweithio ym maes galwedigaethol rheoli gweithrediadau contractio adeiladwaith a gall gweithwyr, goruchwylwyr a rheolwyr ei defnyddio


Meini prawf perfformiad

Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:

Datblygu a chynnal perthnasoedd gwaith

P1  datblygu a chynnal perthynas waith gyda phobl sy’n hyrwyddo ewyllys da ac ymddiriedaeth

P2  darparu gwybodaeth digonol ac amser i bobl i gyflawni gweithgareddau gwaith i lefel briodol o fanylder a gyda’r lefel briodol o frys

P3  datrys gwahaniaethau barn mewn ffyrdd sy’n lleihau tramgwydd ac yn cynnal ewyllys da, ymddiriedaeth a pharch

P4  darparu arweiniad a chymorth yn sensitif i bobl berthnasol ar weithgareddau gwaith, ac annog cwestiynau, ceisiadau am eglurhad a sylwadau

P5  cyflwyno cynigion ar gyfer gweithredu yn glir i bobl ar adeg briodol a chyda’r lefel briodol o fanylder ar gyfer graddfa’r newid, y gwariant a’r risg dan sylw

P6  cydnabod gwrthwynebiadau i gynigion ac awgrymu, ystyried a chytuno ar gynigion amgen


**

Ymarfer mewn modd moesegol
**

P7  cymryd cyfrifoldeb clir dros eich penderfyniadau eich hun a pherchnogaeth ar benderfyniadau eraill yn eich sefydliad

P8  sefydlu system gyfathrebu i roi gwybod am achosion o ymddygiad anfoesegol sy’n annog cyfrifoldeb a grymuso ar bob lefel

P9  cydnabod terfynau eich cymhwysedd a’ch awdurdod a gweithio o’u mewn

P10  dosbarthu gwybodaeth a gafwyd gan randdeiliaid dim ond i’r rheini sydd â hawl ddilys i’w derbyn

P11  cadarnhau bod contractau a chytundebau ffurfiol ac anffurfiol yn cydymffurfio â gofynion cyfreithiol, safonau moesegol, gweithdrefnau cymdeithasol a chanllawiau a gymeradwywyd gan y diwydiant mewn perthynas â:

11.1  nodi meysydd lle na chydymffurfir â gweithdrefnau cyfreithiol, rheoleiddiol, moesegol a chymdeithasol

11.2  archwilio rhesymau dros beidio â chydymffurfio â gweithdrefnau

11.3  gwneud argymhellion ar gyfer cywiro i sicrhau cydymffurfiaeth â gweithdrefnau

P12  cyfathrebu mewn arddull a modd sy’n cynnal annibyniaeth broffesiynol ac yn cynyddu ewyllys da ac ymddiriedaeth

P13  rheoli systemau i indemnio partïon pan fo’r cyngor a roddir yn arwain at golled neu ddifrod

P14  hyrwyddo diwylliant o onestrwydd a thegwch gyda phobl, nodi meysydd gwan ac argymell neu weithredu gwelliannau


Gwybodaeth a Dealltwriaeth

You need to know and understand:

Datblygu a chynnal perthnasoedd gwaith**

Meini Prawf Perfformiad 1

K1  sut a pham mae angen datblygu a chynnal perthynas waith gyda phobl sy’n hyrwyddo ewyllys da ac ymddiriedaeth 

K2  sut mae cynnal perthynas waith gyda phobl sy’n hyrwyddo ewyllys da ac ymddiriedaeth

*
*

Meini Prawf Perfformiad 2

K3  sut mae rhoi gwybod i bobl am weithgareddau gwaith gyda’r lefel briodol o fanylder a chyda’r lefel briodol o frys

*
*

Meini Prawf Perfformiad 3

K4  sut mae datrys gwrthdaro a gwahaniaethau barn mewn ffyrdd sy’n lleihau tramgwydd ac yn cynnal ewyllys da, ymddiriedaeth a pharch

*
*

Meini Prawf Perfformiad 4

K5  sut a pham mae angen rhoi arweiniad a chymorth i bobl ynghylch gweithgareddau gwaith mewn ffordd sensitif 

K6  sut mae annog cwestiynau, ceisiadau am eglurhad a sylwadau 

*
*

Meini Prawf Perfformiad 5

K7  sut mae cyflwyno cynigion ar gyfer gweithredu i bobl ar adeg briodol a chyda’r lefel briodol o fanylder ar gyfer graddfa’r newid, y gwariant a’r risg dan sylw

*
*

Meini Prawf Perfformiad 6

K8  sut mae cydnabod gwrthwynebiadau i gynigion 

K9  sut a pham mae angen awgrymu cynigion amgen pan fo gwrthwynebiadau wedi cael eu mynegi am y cynigion presennol 

K10  sut a pham mae angen datrys gwrthdaro a gwahaniaethau barn mewn ffyrdd sy’n lleihau tramgwydd ac yn cynnal ewyllys da, ymddiriedaeth a pharch 


Ymarfer mewn modd moesegol

Meini Prawf Perfformiad 7

K11  sut a pham mae angen cymryd cyfrifoldeb clir dros eich penderfyniadau eich hun a pherchnogaeth ar benderfyniadau eraill yn eich sefydliad 

*
*

Meini Prawf Perfformiad 8

K12  sut a pham mae angen sefydlu system gyfathrebu i roi gwybod am achosion o ymddygiad anfoesegol sy’n annog cyfrifoldeb a grymuso ar bob lefel 

*
*

Meini Prawf Perfformiad 9

K13  sut a pham mae angen cydnabod terfynau eich cymhwysedd a’ch awdurdod a gweithio o’u mewn 

*
*

Meini Prawf Perfformiad 10

K14  sut a pham mae angen dosbarthu gwybodaeth a gafwyd gan randdeiliaid dim ond i’r rheini sydd â hawl ddilys i’w derbyn 

*
*

Meini Prawf Perfformiad 11

K15  sut mae gwirio bod contractau a chytundebau ffurfiol ac anffurfiol ar gyfer gwasanaethau cynghori a datrys problemau yn cydymffurfio â gofynion cyfreithiol, safonau moesegol ac arferion da cydnabyddedig a bod darparwyr gwasanaethau yn glynu wrth yr amodau perthnasol 

*
*

Meini Prawf Perfformiad 12

K16  sut mae cyfathrebu mewn arddull a modd sy’n cynnal annibyniaeth broffesiynol ac yn cynyddu ewyllys da ac ymddiriedaeth 

*
*

Meini Prawf Perfformiad 13

K17  sut a pham mae angen rheoli systemau i ddiogelu unigolion a buddiannau cymdeithas ac i indemnio cleientiaid pan fo’r cyngor a roddir yn arwain at golled neu ddifrod i’r cleient 

*
*

Meini Prawf Perfformiad 14

K18  sut mae hyrwyddo diwylliant o onestrwydd a thegwch gyda phobl, nodi meysydd gwan ac argymell neu weithredu gwelliannau


Cwmpas/ystod


Cwmpas Perfformiad


Gwybodaeth Cwmpas


Gwerthoedd


Ymddygiadau


Sgiliau


Geirfa


Dolenni I NOS Eraill


Cysylltiadau Allanol


Fersiwn rhif


Dyddiad Adolygu Dangosol

31 Awst 2027

Dilysrwydd

Ar hyn o bryd

Statws

Gwreiddiol

Sefydliad Cychwynnol

CITB

URN gwreiddiol

COSCCOMO04

Galwedigaethau Perthnasol

Rheolwyr, Technegwyr adeiladu a pheirianneg sifil, Rheolwyr ym maes adeiladwaith, Amcangyfrifwyr, Priswyr ac aseswyr, Syrfewyr meintiau

Cod SOC

1234

Geiriau Allweddol

Perthnasoedd gwaith, perfformiad, moesegol