Arwain cyfarfodydd a gwneud penderfyniadau

URN: COSCCOMO03
Sectorau Busnes (Suites): Rheoli Gweithrediadau Contractio Adeiladwaith
Datblygwyd gan: Construction Skills
Cymeradwy ar: 31 Awst 2022

Trosolwg

​Mae'r safon hon yn ymwneud â threfnu ac arwain cyfarfodydd, hwyluso trafodaeth a gwneud penderfyniadau ym maes rheoli gweithrediadau contractio adeiladwaith yn unol â ofynion sefydliadol cyfredol sy'n cyfateb i'r gofynion statudol a deddfwriaethol presennol neu'n rhagori arnynt.

Mae'r safon hon ar gyfer pobl sy'n gweithio ym maes galwedigaethol rheoli gweithrediadau contractio adeiladwaith, a gall gweithwyr, goruchwylwyr a rheolwyr ei defnyddio.


Meini prawf perfformiad

Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:

Arwain cyfarfodydd

P1  pennu amcanion y cyfarfod a’r rhanddeiliaid sy’n gallu cyfrannu at gyflawni’r amcanion

P2  cynllunio cynnwys y cyfarfod a chreu’r agenda

P3  neilltuo amser trafod i eitemau ar yr agenda sy’n gyson â’u pwysigrwydd, eu brys a’u cymhlethdod

P4  gwahodd rhanddeiliaid penodol, gan roi digon o rybudd a gwybodaeth i’w galluogi i gyfrannu’n effeithiol

P5  gofyn am ‘Unrhyw Fater Arall’ gan wahoddedigion ymlaen llaw i’w paratoi a’u cynnwys ar gyfer trafodaeth

P6  dosbarthu agenda’r cyfarfod yn brydlon

P7  cynnal cyfarfod cynefino cychwynnol er mwyn sefydlu ac esbonio rheolau ymddygiad ac awdurdod cyfarfodydd

P8  rheoli’r cyfarfod mewn mewn ffordd sy’n hwyluso trafodaeth, gan alluogi’r rhai sy’n bresennol i gyfrannu’n ddilys a pheidio â chrwydro

P9  cyflwyno gwybodaeth a darparu crynodebau’n glir ar adegau priodol yn ystod y cyfarfod

P10  rheoli’r cyfarfod er mwyn cyflawni’r amcanion o fewn yr amser a neilltuwyd

P11  sicrhau bod penderfyniadau ac argymhellion y cytunwyd arnynt yn dod o fewn awdurdod y cyfarfodydd

P12  creu a dosbarthu cofnodion priodol o benderfyniadau a chamau gweithredu’r cyfarfod i randdeiliaid

P13  gofyn am adborth gan fynychwyr er mwyn gwella effeithiolrwydd cyfarfodydd yn y dyfodol


Gwybodaeth a Dealltwriaeth

You need to know and understand:

Meini Prawf Perfformiad 1**

K1  sut a pham mae angen pennu amcanion y cyfarfod a'r rhanddeiliaid sy'n gallu cyfrannu at gyflawni'r amcanion


**

Meini Prawf Perfformiad 2**

K2  sut a pham mae angen cynllunio cynnwys y cyfarfod a chreu'r agenda


**

Meini Prawf Perfformiad 3**

K3  sut a pham mae angen neilltuo amser trafod i eitemau ar yr agenda sy'n gyson â'u pwysigrwydd, eu brys a'u cymhlethdod


**

Meini Prawf Perfformiad 4**

K4  sut a pham mae angen gwahodd rhanddeiliaid penodol, gan roi digon o rybudd a gwybodaeth i'w galluogi i gyfrannu'n effeithiol


**

Meini Prawf Perfformiad 5**

K5  sut a pham mae angen gofyn am 'Unrhyw Fater Arall' gan wahoddedigion ymlaen llaw er mwyn eu paratoi a'u cynnwys i'w trafod


**

Meini Prawf Perfformiad 6**

K6  sut a pham mae angen dosbarthu agenda'r cyfarfod yn brydlon


**

Meini Prawf Perfformiad 7**

K7  sut a pham mae cynnal cyfarfod cynefino cychwynnol er mwyn sefydlu ac esbonio rheolau ac awdurdod cynnal cyfarfodydd


**

Meini Prawf Perfformiad 8**

K8  sut a pham mae angen rheoli'r cyfarfod mewn ffordd sy'n hwyluso trafodaeth, gan alluogi'r rhai sy'n bresennol i gyfrannu'n ddilys a pheidio â chrwydro


**

Meini Prawf Perfformiad 9**

K9  sut a pham mae angen cyflwyno gwybodaeth a darparu crynodebau'n glir ar adegau priodol yn ystod y cyfarfod


**

Meini Prawf Perfformiad 10**

K10  sut a pham mae angen rheoli'r cyfarfod er mwyn cyflawni'r amcanion o fewn yr amser a neilltuwyd


**

Meini Prawf Perfformiad 11**

K11  sut a pham mae angen sicrhau bod penderfyniadau ac argymhellion y cytunwyd arnynt yn dod o fewn awdurdod y cyfarfodydd


**

Meini Prawf Perfformiad 12**

K12  sut a pham mae angen creu a dosbarthu cofnodion priodol o benderfyniadau a chamau gweithredu'r cyfarfod i randdeiliaid


**

Meini Prawf Perfformiad 13**

K13  sut a pham mae angen gofyn am adborth gan fynychwyr er mwyn gwella effeithiolrwydd cyfarfodydd yn y dyfodol


Cwmpas/ystod


Cwmpas Perfformiad


Gwybodaeth Cwmpas


Gwerthoedd


Ymddygiadau


Sgiliau


Geirfa


Dolenni I NOS Eraill


Cysylltiadau Allanol


Fersiwn rhif


Dyddiad Adolygu Dangosol

31 Awst 2027

Dilysrwydd

Ar hyn o bryd

Statws

Gwreiddiol

Sefydliad Cychwynnol

CITB

URN gwreiddiol

COSCCOMO03

Galwedigaethau Perthnasol

Technegwyr adeiladu a pheirianneg sifil, Rheolwyr ym maes adeiladwaith, Amcangyfrifwyr, Priswyr ac aseswyr, Syrfewyr meintiau, Rheolwyr contractio

Cod SOC

1234

Geiriau Allweddol

Cyfarfodydd, arwain, gwneud penderfyniadau