Cynnal iechyd, diogelwch a lles mewn systemau adeiladu
Trosolwg
Mae'r safon hon yn ymwneud â sefydlu, gweithredu a chynnal diwylliant o iechyd, diogelwch, lles a llesiant. Sicrhau bod staff yn ymgymryd â'u cyfrifoldebau drwy gynllunio, rheoli a monitro, datblygu, gweithredu ac adolygu'r safle yn unol â ofynion sefydliadol cyfredol sy'n cyfateb i'r gofynion statudol a deddfwriaethol presennol neu'n rhagori arnynt. Sicrhau bod peryglon yn cael eu nodi, a phan fo angen, bod asesiadau risg yn cael eu cwblhau
Mae'r safon hon ar gyfer pobl sy'n gweithio ym maes galwedigaethol rheoli gweithrediadau contractio adeiladwaith, a gall gweithwyr, goruchwylwyr a rheolwyr ei defnyddio
Meini prawf perfformiad
Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:
Cynnal iechyd, diogelwch a lles yn y gweithle
P1 sefydlu diwylliant o iechyd, diogelwch, lles a llesiant yn y gweithle, a nodi a gweithredu cyfleoedd ar gyfer gwelliannau
P2 sicrhau bod system neu weithdrefn sefydliadol yn cael ei rhoi ar waith ar gyfer dewis staff, a bod y rhai a ddewisir yn gymwys ar gyfer y rôl
P3 rhoi systemau ar waith sy’n bodloni gofynion sefydliadol a statudol ar gyfer nodi a lleihau peryglon, rhoi gwybod am ddamweiniau ac argyfyngau a’u hatal rhag digwydd eto
P4 archwilio systemau iechyd, diogelwch a lles yn rheolaidd, yn unol â gofynion sefydliadol a statudol er mwyn nodi a chofnodi unrhyw amodau neu sefyllfaoedd arbennig yn y gweithle nad ydynt yn cydymffurfio, a chymryd camau priodol
P5 gwneud argymhellion ar gyfer gwella’r amgylchedd gwaith yn glir ac yn brydlon i’r bobl briodol
Nodi peryglon ac ases*u risgiau yn y gweithle*
P6 nodi'r peryglon yn y gweithle sy’n deillio o offer, prosesau a chynnyrch adeiladwaith
P7 cael ac adolygu gwybodaeth am unrhyw ffactorau sy’n ymwneud â’r peryglon
P8 nodi arwyddocâd y peryglon
P9 asesu’r risgiau arwyddocaol
P10 cymhwyso egwyddorion atal ac amddiffyn
P11 nodi’r risgiau gweddillol
P12 gwirio bod gwybodaeth sy’n deillio o hynny am risgiau gweddilliol arwyddocaol yn cael ei darparu i’r bobl briodol
Nodi a gweithredu dulliau a gweithdrefnau i leihau risg
P13 nodi gofynion y cynllun iechyd a diogelwch priodol yn y gweithle
P14 nodi’r adnoddau a’r gweithgareddau sy’n angenrheidiol i roi’r dulliau lleihau risg ar waith
P15 gweithredu a chynnal dulliau a gweithdrefnau lleihau risg
P16 defnyddio cyfleoedd i hyrwyddo gweithrediad y dulliau a’r gweithdrefnau lleihau risg
P17 cofnodi’r dulliau a’r gweithdrefnau lleihau risg yn y systemau gwybodaeth priodol
Gwybodaeth a Dealltwriaeth
You need to know and understand:
Cynnal iechyd, diogelwch a lles yn y gweithle**
Meini Prawf Perfformiad 1**
K1 sut mae sefydlu diwylliant o iechyd, diogelwch, lles a llesiant yn y gweithle
K2 beth i’w nodi a’i weithredu fel cyfleoedd i wella iechyd, diogelwch a lles yn y gweithle
Meini Prawf Perfformiad 2**
K3 sut mae sicrhau bod system neu weithdrefn sefydliadol yn cael ei rhoi ar waith ar gyfer dewis staff a sicrhau bod y rhai a ddewisir yn gymwys ar gyfer y rôl
Meini Prawf Perfformiad 3**
K4 sut mae rhoi systemau ar waith sy’n bodloni gofynion sefydliadol a statudol ar gyfer nodi a lleihau peryglon, rhoi gwybod am ddamweiniau ac argyfyngau a’u hatal rhag digwydd eto
Meini Prawf Perfformiad 4**
K5 sut mae archwilio systemau iechyd, diogelwch a lles yn rheolaidd, yn unol â gofynion sefydliadol a gofynion statudol
K6 beth i’w ystyried yn amodau a sefyllfaoedd arbennig yn y gweithle nad ydynt yn cydymffurfio
K7 sut mae cofnodi unrhyw amodau a sefyllfaoedd arbennig yn y gweithle nad ydynt yn cydymffurfio
K8 sut mae cymryd camau priodol pan nad yw amodau a sefyllfaoedd arbennig yn y gweithle yn cydymffurfio
Meini Prawf Perfformiad 5**
K9 sut a pham mae angen gwneud argymhellion ar gyfer gwella’r amgylchedd gwaith yn glir ac yn brydlon i’r bobl briodol
Nodi peryglon ac asesu risgiau yn y gweithle**
Meini Prawf Perfformiad 6**
K10 beth i’w nodi fel y peryglon yn y gweithle sy’n deillio o gynnyrch, prosesau a chyfarpar gwaith adeiladu
**
Meini Prawf Perfformiad 7**
K11 sut mae cael gwybodaeth am unrhyw ffactorau sy’n ymwneud â’r peryglon
K12 sut a pham mae angen adolygu gwybodaeth am unrhyw ffactorau sy’n ymwneud â’r peryglon
**
Meini Prawf Perfformiad 8**
K13 beth i’w nodi fel arwyddocâd y peryglon
**
Meini Prawf Perfformiad 9**
K14 sut a pham mae angen asesu’r risgiau arwyddocaol
**
Meini Prawf Perfformiad 10**
K15 sut mae cymhwyso egwyddorion atal ac amddiffyn
**
Meini Prawf Perfformiad 11**
K16 beth i’w nodi fel y peryglon gweddillol
**
Meini Prawf Perfformiad 12**
K17 sut mae gwirio bod gwybodaeth am risgiau gweddillol
arwyddocaol yn cael ei darparu i’r bobl briodol
**
Nodi a gweithredu dulliau a gweithdrefnau i leihau risg**
Meini Prawf Perfformiad 13**
K18 sut mae nodi gofynion y cynllun iechyd a diogelwch priodol yn y gweithle
Meini Prawf Perfformiad 14**
K19 beth i’w nodi fel yr adnoddau a’r gweithgareddau sy’n angenrheidiol i roi’r dulliau lleihau risg ar waith
**
Meini Prawf Perfformiad 15**
K20 sut mae gweithredu a chynnal dulliau a gweithdrefnau lleihau risg
**
Meini Prawf Perfformiad 16**
K21 sut mae defnyddio cyfleoedd i hyrwyddo gweithrediad y dulliau a’r gweithdrefnau lleihau risg
**
Meini Prawf Perfformiad 17**
K22 sut mae cofnodi’r dulliau a’r gweithdrefnau lleihau risg yn y systemau gwybodaeth priodol