Canfod a meintioli peryglon ymbelydredd yn y gweithle
Trosolwg
Prif ganlyniad y gweithgaredd hwn yw canfod a meintioli peryglon ymbelydredd. Gallai’r peryglon fod yn gysylltiedig â’r gweithgareddau, y cyfarpar neu’r deunyddiau yn y gweithle.
Mae’r gweithgaredd hwn yn cynnwys canfod peryglon posibl o ran ymbelydredd; cael gwybodaeth am y peryglon, gan gynnwys eu mesur; meintioli’r peryglon, a nodi’r rheini na ellir eu mesur. Mae’r gweithgaredd hwn yn debygol o gael ei wneud gan rywun y mae ei swydd yn canolbwyntio ar ddiogelu rhag ymbelydredd.
Mae’r uned hon yn rhoi sylw i’r canlynol:
1 Canfod a meintioli peryglon ymbelydredd yn y gweithle
Gall deunydd ymbelydrol achosi niwed i bobl, eiddo a’r amgylchedd, felly mae’n hollbwysig eich bod yn cymryd pob cam diogelu angenrheidiol.
Yn ystod y gwaith hwn, rhaid i chi ystyried yr arferion gweithio diogel a'r gofynion gweithredol perthnasol FEL Y MAEN NHW’N BERTHNASOL I CHI.
Fersiwn Flaenorol:
Addaswyd o Uned N215 y Safonau Galwedigaethol Cenedlaethol ar gyfer Diogelu rhag Ymbelydredd – fersiwn Chwefror 2006.
Meini prawf perfformiad
Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:
P1 canfod peryglon posibl o ran ymbelydredd sy’n codi yn y gweithle
P2 nodi cyfarpar mesur priodol i feintioli’r peryglon ymbelydredd
P3 cael yr holl gofnodion a gwybodaeth briodol ynghylch y peryglon ymbelydredd
P4 manteisio ar gymorth yr holl adnoddau a phobl berthnasol wrth fesur y peryglon ymbelydredd
P5 meintioli’r peryglon ymbelydredd yn unol â gofynion systemau’r sefydliad ar gyfer diogelu rhag ymbelydredd
P6 canfod unrhyw beryglon ymbelydredd na ellir eu mesur, a chymryd y camau priodol
P7 sicrhau bod unrhyw broblemau o ran mesur peryglon ymbelydredd yn cael eu
eu canfod a’u datrys ar unwaith
P8 cydymffurfio â’r holl reoliadau a safonau perthnasol, a chofnodi pob cam gweithredu a chanlyniad perthnasol yn y systemau gwybodaeth priodol
Gwybodaeth a Dealltwriaeth
You need to know and understand:
K1 dulliau cyfathrebu a chyflwyno
K2 gofynion a materion iechyd a diogelwch
K3 y diwydiant niwclear: mathau o gyfleusterau, deunyddiau a phrosesau
K4 strwythurau a gweithdrefnau'r sefydliad
K5 cyfarpar monitro ymbelydredd
K6 materion diogelu rhag ymbelydredd
K7 systemau diogelu rhag ymbelydredd
K8 ymbelydredd: mathau, ffynonellau a pheryglon
K9 ffynonellau o wybodaeth ddibynadwy am ddiogelu rhag ymbelydredd
K10 safonau, rheoliadau a gofynion statudol, gan gynnwys rhai rhyngwladol, cenedlaethol a lleol