Gweithredu polisi diogelu rhag ymbelydredd

URN: COGTRM15
Sectorau Busnes (Suites): Diogelu rhag Ymbelydredd
Datblygwyd gan: Cogent
Cymeradwy ar: 30 Maw 2008

Trosolwg

Prif ganlyniad y gweithgaredd hwn yw gweithredu polisi diogelu rhag ymbelydredd sy'n bodoli'n barod, neu un newydd, ar gyfer sefydliad. Gall sefydliad amrywio o gwmni cyfan sydd â mwy nag un safle, neu gwmni bach, adran neu un safle.

Mae'r gweithgaredd hwn yn cynnwys sefydlu cynllun gweithredu, hyrwyddo'r polisi diogelu rhag ymbelydredd a lledaenu gwybodaeth amdano, adolygu effeithiolrwydd y cynllun gweithredu a gwella'r polisi diogelu rhag ymbelydredd.

Mae'r gweithgaredd hwn yn debygol o gael ei wneud gan rywun sy'n gweithio mewn amgylchedd lle mae diogelu rhag ymbelydredd yn bwysig.

Mae'r uned hon yn rhoi sylw i'r canlynol:

1 Gweithredu polisi diogelu rhag ymbelydredd

Gall deunydd ymbelydrol achosi niwed i bobl, eiddo a'r amgylchedd, felly mae'n hollbwysig eich bod yn cymryd pob cam diogelu sy'n angenrheidiol.

Yn ystod y gwaith hwn, rhaid i chi ystyried yr arferion gweithio diogel a'r gofynion gweithredol perthnasol FEL Y MAEN NHW'N BERTHNASOL I CHI.

Fersiwn Flaenorol:

 **

Addaswyd o Uned N212 y Safonau Galwedigaethol Cenedlaethol ar gyfer Diogelu rhag Ymbelydredd – fersiwn Chwefror 2006.


Meini prawf perfformiad

Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:

P1 sefydlu cynllun ar gyfer gweithredu’r polisi diogelu rhag ymbelydredd
P2 enwi’r bobl y mae angen iddyn nhw fod yn rhan o’r broses o weithredu’r polisi diogelu rhag ymbelydredd
P3 nodi cyfleoedd addas i hyrwyddo’r polisi diogelu rhag ymbelydredd
P4 lledaenu gwybodaeth i’r holl bobl berthnasol am fodolaeth a gofynion y polisi diogelu rhag ymbelydredd
P5 adolygu ar adeg addas pa mor effeithiol yw’r broses o weithredu’r polisi diogelu rhag ymbelydredd
P6 sicrhau bod y broses o weithredu’r polisi diogelu rhag ymbelydredd yn cydymffurfio â’r holl reoliadau a safonau perthnasol
P7 nodi cyfleoedd addas i wella’r broses o weithredu’r polisi diogelu rhag ymbelydredd
P8 cydymffurfio â’r holl reoliadau a safonau perthnasol, a chofnodi pob cam gweithredu a chanlyniad perthnasol yn y systemau gwybodaeth priodol


Gwybodaeth a Dealltwriaeth

You need to know and understand:

K1 dulliau cyfathrebu a chyflwyno
K2 gofynion a materion iechyd a diogelwch
K3 y diwydiant niwclear: mathau o gyfleusterau, deunyddiau a phrosesau
K4 strwythurau a gweithdrefnau'r sefydliad
K5 materion diogelu rhag ymbelydredd
K6 systemau diogelu rhag ymbelydredd
K7 ymbelydredd: mathau, ffynonellau a pheryglon
K8 ffynonellau o wybodaeth ddibynadwy am ddiogelu rhag ymbelydredd
K9 safonau, rheoliadau a gofynion statudol, gan gynnwys rhai rhyngwladol, cenedlaethol a lleol


Cwmpas/ystod


Cwmpas Perfformiad


Gwybodaeth Cwmpas


Gwerthoedd


Ymddygiadau


Sgiliau


Geirfa


Dolenni I NOS Eraill


Cysylltiadau Allanol


Fersiwn rhif


Dyddiad Adolygu Dangosol

30 Maw 2010

Dilysrwydd

Ar hyn o bryd

Statws

Gwreiddiol

Sefydliad Cychwynnol

Cogent

URN gwreiddiol

TRM15

Galwedigaethau Perthnasol

Technoleg gweithgynhyrchu a pheirianneg, Gweithwyr Proffesiynol ym maes Peirianneg

Cod SOC

3111

Geiriau Allweddol

gweithredu, ymbelydredd, diogelu, polisi, bodoli’n barod, newydd, adolygu, effeithiolrwydd, peryglon, iechyd, radiolegol, ïoneiddio, niwclear, diogelwch