Rheoli Addasu i Newid Amgylcheddol i Gefnogi Ymarfer Busnes Cynaliadwy
Trosolwg
Mae'r safon hon yn ymwneud ag addasu i newid amgylcheddol i gefnogi ymarfer busnes cynaliadwy. Mae'n bwysig bod sefydliadau yn ystyried rhagfynegiadau yn ymwneud â newid amgylcheddol ac yn gweithredu i addasu ac felly lleihau effaith y newid ar eu gweithgareddau. Mewn geiriau eraill, helpu i sicrhau cynaliadwyedd parhaus ymarfer busnes.
Mae'r safon yn gofyn am y gallu i gwblhau ymchwil, casglu a dadansoddi data i ragfynegi sut y gallai newid amgylcheddol effeithio ar y sefydliad. Yna mae angen i risg a nodir gael ei feintioli a'r camau gael eu nodi fydd yn cyfyngu ar eu heffaith posibl ar y sefydliad. Mae'r safon hefyd yn gofyn am ddatblygu a gweithredu strategaeth addasu ar gyfer y sefydliad.
Mae'r gallu i gyfathrebu gyda mathau gwahanol o bobl i gael cymeradwyaeth a chefnogaeth ar gyfer y strategaeth addasu yn hanfodol.
Gr*ŵ*p Targed
Mae'r safon hon ar gyfer y rheiny sy'n gyfrifol am ddatblygu ymarfer busnes cynaliadwy. Mae'n debygol o fod yn berthnasol i uwch reolwyr amgylcheddol mewn sefydliadau mawr a pherchnogion/rheolwyr mewn BBaCh.
Meini prawf perfformiad
Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:
ymchwilio i effeithiau tebygol newid amgylcheddol ar weithgareddau sefydliadol
meintioli'r risg a gyflwynir gan ragfynegiadau newid amgylcheddol i bennu bregusrwydd sefydliadol
meintioli effaith bosibl yr ysgogwyr a'r rhwystrau **i addasu sefydliadol
nodi cyfleoedd addasu posibl ar gyfer y sefydliad
gwerthuso a blaenoriaethu cyfleoedd addasu posibl
datblygu strategaeth i'r sefydliad gyflwyno cyfleoedd addasu i gefnogi amcanion cynaliadwyedd sefydliadol
ymgynghori gyda gwneuthurwyr penderfyniadau i sicrhau bod y strategaeth addasu yn briodol i natur a graddfa'r sefydliad
cael cymeradwyaeth a chefnogaeth ar gyfer y strategaeth addasu gan wneuthurwyr penderfyniadau
nodi a chael yr adnoddau sy'n ofynnol i gefnogi arloesi sydd wedi ei gynllunio
cadw cofrestr risg i gefnogi addasu
defnyddio cynlluniau wrth gefn i gywiro amrywiadau o'r addasu a gynlluniwyd
cefnogi gweithredu cyfleoedd addasu wedi eu cynllunio
monitro ac adrodd ar weithredu'r strategaeth addasu
cyfathrebu buddion addasu'r strategaeth i randdeiliaid
Gwybodaeth a Dealltwriaeth
You need to know and understand:
- egwyddorion addasu
- y ddeddfwriaeth, safonau'r diwydiant a'r codau gwirfoddol sy'n cefnogi addasu i newid hinsawdd
- sut mae egwyddorion economaidd, cymdeithasol ac amgylcheddol datblygu cynaliadwy yn cefnogi'r angen i addasu i newid amgylcheddol
- rhagfynegiadau newid amgylcheddol sydd yn gysylltiedig â newid hinsawdd
- sut i feintioli'r risg sydd yn gysylltiedig â newid hinsawdd i bennu bregusrwydd sefydliadol
- sut gall addasu sefydliadol gyfyngu effaith newid hinsawdd
- yr ysgogwyr a'r rhwystrau o ran addasu sefydliadol
- ffynonellau cyngor a chymorth newid amgylcheddol
- sut i ddatblygu strategaeth addasu
- addasu cyfleoedd sydd ar gael i'r sefydliad
sut i werthuso a blaenoriaethu cyfleoedd addasu
sut i integreiddio addasu i weithgareddau sefydliadol fel mater o drefn
- sut i fonitro ac adrodd ar strategaeth addasu sefydliad
- sut i gyfathrebu'r angen i addasu
- sut i ymgysylltu â rhanddeiliaid gwahanol
Cwmpas/ystod
Risg i gynnwys y rheiny:
Ysgogwyr a rhwystrau i gynnwys:
Cyfleoedd addasu yn ymwneud â:
Amcanion cynaliadwyedd yn cynnwys rhai:
Adnoddau yn cynnwys:
pobl
cyllid
technoleg
gwybodaeth
Rhanddeiliaid yn cynnwys:
gwneuthurwyr penderfyniadau
cydweithwyr sefydliadol
cwsmeriaid
cyflenwyr