Rheoli Defnydd Effeithlon o Ddŵr mewn Ymarfer Busnes Cynaliadwy
Trosolwg
Mae'r safon hon yn ymwneud â chefnogi ymarfer busnes cynaliadwy trwy weithredu rhaglenni i wella effeithlonrwydd dŵr. Mae'n cynnwys gallu deall pwysigrwydd effeithlonrwydd dŵr; sefydlu a chynnal mesurau sy'n cefnogi effeithlonrwydd dŵr; hysbysu eraill am eu cyfrifoldebau; monitro arferion gwaith a nodi ac ymdrin ag unrhyw weithgareddau aneffeithlon yn effeithiol. Mae'r safon hefyd yn gofyn am gymhwyso technegau cyfathrebu effeithiol. Mae dealltwriaeth o bwysigrwydd effeithlonrwydd dŵr, ailgylchu ac ailddefnyddio dŵr yn hanfodol i'r safon hon.
Mae'r uned hon ar eich cyfer chi, os oes gennych gyfrifoldeb dros gefnogi defnydd effeithlon o ddŵr ar gyfer ardal neu broses weithredol mewn sefydliad.
Meini prawf perfformiad
Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:
cael a dehongli targedau sefydliadol y defnydd o ddŵr
hysbysu eraill yn gywir am eu cyfrifoldebau mewn perthynas â thargedau sefydliadol sydd yn hybu defnydd effeithlon o ddŵr
sicrhau bod defnydd o ddŵr yn cydymffurfio â thargedau sefydliadol, manylebau ansawdd a gofynion cyfreithiol
sicrhau bod arferion gwaith yn gwneud defnydd effeithlon o ddŵr
monitro arferion gwaith a gwerthuso defnydd ac effeithlonrwydd dŵr
cefnogi pobl eraill i osgoi gwastraffu dŵr
annog pobl eraill yn gadarnhaol i oresgyn rhwystrau a gwella arferion gwaith ac effeithlonrwydd dŵr
darparu cyfleoedd hyfforddiant a datblygu i wella effeithlonrwydd dŵr
nodi cyfleoedd i annog pobl eraill i fabwysiadu arferion gwaith sy'n defnyddio dŵr yn fwy effeithlon
nodi a chymryd camau i reoli unrhyw ffynonellau llygredd dŵr posibl o fewn maes cyfrifoldeb
datblygu a chyfathrebu argymhellion ar gyfer gwelliannau effeithlonrwydd i bobl eraill
cyflwyno argymhellion clir sy'n cefnogi datblygu effeithlonrwydd dŵr ymhellach, ar adeg briodol a chyda'r lefel gywir o fanylder
Gwybodaeth a Dealltwriaeth
You need to know and understand:
- rôl effeithlonrwydd dŵr yn cyflawni cynaliadwyedd
effaith defnydd o ddŵr ar yr amgylchedd
sut mae rheolaeth effeithiol dŵr yn cefnogi arferion busnes cynaliadwy
safonau ansawdd dŵr sefydliadol
- sut mae deddfwriaeth yn effeithio ar echdynnu, defnyddio a gwaredu dŵr yn y sefydliad
- sut caiff dŵr ei gaffael, ei drin, ei ddefnyddio a'i ryddhau gan y sefydliad
- targedau sefydliadol ar gyfer defnydd ac effeithlonrwydd dŵr
- buddion defnydd effeithlon o ddŵr i'r sefydliad
- sut a pham y caiff defnydd o ddŵr ei fonitro a'i reoli mewn maes cyfrifoldeb
- sut gall rheoli a threfnu gwaith yn effeithiol helpu i leihau'r defnydd o ddŵr
- sut gall hyfforddi a datblygu staff helpu i gynnal defnydd effeithiol o ddŵr
- gweithdrefnau sefydliadol ar gyfer echdynnu, storio, trin, ailgylchu, ailddefnyddio a rhyddhau dŵr
- sut i nodi a rheoli ffynonellau posibl llygredd dŵr mewn maes cyfrifoldeb
- sut caiff y defnydd o ddŵr ei reoli a'i leihau o fewn maes cyfrifoldeb
- sut gall camau pobl eraill effeithio ar y defnydd o ddŵr
- y rhwystrau all gyfyngu effaith rheolaeth dŵr a sut gellir goresgyn y rhwystrau hyn
- sut gall methu â bodloni manylebau ansawdd sefydliadol effeithio ar y defnydd o ddŵr
- dulliau effeithiol o gyfathrebu ar gyfer maes cyfrifoldeb
Cwmpas/ystod
Gall Rhwystrau fod yn economaidd, ymarferol, credoau personol ac agweddau pobl, cymdeithasol neu gyfreithiol
Targedau yn ymwneud â defnydd effeithlon o ddŵr, ailgylchu ac ailddefnyddio dŵr
Gall pobl eraill fod yn: gydweithwyr, cwsmeriaid a chontractwyr