Hyrwyddo Defnydd Effeithlon o Ddŵr mewn Ymarfer Busnes Cynaliadwy

URN: COGSBP19
Sectorau Busnes (Suites): Rheoli Amaethyddol,Ymarfer Busnes Cynaliadwy
Datblygwyd gan: Lantra
Cymeradwy ar: 31 Hyd 2011

Trosolwg

Mae'r safon hon yn ymwneud â datblygu polisïau a chanllawiau fydd yn gwella'r defnydd effeithiol o ddŵr ar gyfer sefydliad. Mae hefyd yn cynnwys gallu pennu lefelau'r defnydd o ddŵr, nodi cyfleoedd ar gyfer gwella effeithlonrwydd y defnydd o ddŵr, a hyrwyddo rhaglenni i wella effeithlonrwydd y defnydd o ddŵr mewn sefydliad. Mae'r safon yn hyrwyddo'r defnydd effeithlon o ailgylchu ac ailddefnyddio dŵr.

Byddai'r safon hon yn briodol ar gyfer:

  1. Rheolwr sy'n gyfrifol am y defnydd o ddŵr
  2. Perchennog/rheolwr busnes sydd yn ceisio gwella effeithlonrwydd y defnydd o ddŵr ar gyfer y sefydliad
  3. Unigolyn â briff penodol i leihau'r defnydd o ddŵr
  4. Ymgynghorydd sydd yn rhoi cyngor ar effeithlonrwydd a'r defnydd

Meini prawf perfformiad

Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:

  1. nodi'r gofynion cyfreithiol sydd yn rheoli echdynnu, defnyddio a rhyddhau dŵr

  2. sefydlu lefelau presennol y defnydd o ddŵr ar gyfer gweithgareddau a wneir gan y sefydliad

  3. meincnodi defnydd sefydliadol o ddŵr i bennu effeithlonrwydd

  4. nodi targedau effeithlonrwydd ar gyfer pob ardal defnyddio dŵr

  5. nodi rhwystrau posibl a allai gyfyngu effeithlonrwydd dŵr

  6. cynghori ar ddyluniad prosesau a chynnyrch i helpu i leihau neu ddileu'r defnydd o ddŵr
  7. hyrwyddo a chefnogi gweithredu mesurau effeithlonrwydd ac ailgylchu dŵr ar gyfer gweithgareddau a wnaed gan y sefydliad
  8. diffinio a dyrannu rolau/cyfrifoldebau unigol a thîm i gefnogi mesurau i wella effeithlonrwydd dŵr
  9. sefydlu anghenion hyfforddiant a threfnu hyfforddiant ar gyfer y rheiny sy'n gyfrifol am wella effeithlonrwydd dŵr
  10. datblygu a gweithredu strategaethau i oresgyn rhwystrau sy'n cyfyngu effaith mesurau effeithlonrwydd dŵr

  11. sefydlu dulliau i werthuso effaith mesurau i wella effeithlonrwydd dŵr

  12. cefnogi gweithredu gweithdrefnau monitro a rheoli i gefnogi effeithlonrwydd dŵr
  13. gwerthuso effaith mesurau i wella effeithlonrwydd dŵr
  14. nodi effaith amgylcheddol a buddion a gyflawnir trwy fesurau effeithlonrwydd

Gwybodaeth a Dealltwriaeth

You need to know and understand:

  1. y gofynion cyfreithiol sydd yn rheoli echdynnu, defnyddio, trin a rhyddhau dŵr

  2. targedau'r llywodraeth ar gyfer defnydd cynaliadwy o ddŵr

  3. effaith y defnydd o ddŵr ar yr amgylchedd a chynaliadwyedd 
  4. effaith y defnydd o ddŵr ar faterion amgylcheddol fel newid hinsawdd
  5. buddion defnydd effeithlon o ddŵr i'r sefydliad
  6. defnydd o ddŵr fel rhan o weithgareddau sefydliadol yn cynnwys dŵr wedi ei sefydlu
  7. argaeledd cyflenwad dŵr; dulliau ac ansawdd triniaeth
  8. sut i sefydlu lefelau presennol y defnydd o ddŵr yn ymwneud â'r holl weithgareddau sefydliadol
  9. sut i ddadansoddi data defnydd sefydliadol o ddŵr
  10. gwerth mesurydd a monitro dŵr
  11. egwyddorion meincnodi fel dull o nodi cyfleoedd ar gyfer gwella defnydd effeithlon o ddŵr
  12. y prosesau a ddefnyddir i gefnogi rheolaeth echdynnu, trin, ailgylchu, ailddefnyddio a rhyddhau dŵr
  13. y ffactorau sydd yn cyfyngu ailgylchu ac ailddefnyddio dŵr sefydliadol
  14. rhyddhau dŵr, yn cynnwys dulliau trin a manylebau ansawdd 
  15. achosion/ffynonellau posibl llygredd dŵr a'u goblygiadau cysylltiedig
  16. y cyfleoedd sydd ar gael ar gyfer lleihau'r defnydd o ddŵr a gwella effeithlonrwydd dŵr
  17. y rhwystrau sydd yn gallu cyfyngu effeithlonrwydd dŵr a sut gellir goresgyn y rhwystrau hyn
  18. sut gall proses a dylunio cynnyrch effeithio ar ddefnydd effeithlon o ddŵr
  19. sut gall rheoli proses a sicrhau ansawdd effeithiol gefnogi defnydd effeithlon o ddŵr
  20. sut i asesu effaith defnydd o ddŵr ar y sefydliad 
  21. dulliau o hybu defnydd effeithlon o ddŵr
  22. sut i fonitro a rheoli defnydd o ddŵr
  23. sut i ddiffinio a dyrannu rolau/cyfrifoldebau ar gyfer pawb sydd yn gysylltiedig â gwella defnydd effeithlon o ddŵr
  24. sut i sefydlu anghenion hyfforddiant a threfnu hyfforddiant staff i gefnogi defnydd effeithlon o ddŵr
  25. sut i werthuso effaith y mesurau a ddefnyddir i wella defnydd effeithlon o ddŵr

Cwmpas/ystod

Gall Rhwystrau fod yn economaidd, ymarferol, cymdeithasol neu gydymffurfio cyfreithiol

Mae Gweithgareddau yn ymgorffori er enghraifft: prynu, cyflenwi, cynhyrchu, storio, pecynnu, cludo a phob agwedd ar gymorth busnes
Gall Buddion fod yn gymdeithasol, economaidd ac amgylcheddol

Meincnodi – mesur cymharol sefydliad yn erbyn arfer gorau diwydiant

Gofynion cyfreithiol: Cenedlaethol ac Ewropeaidd


Cwmpas Perfformiad


Gwybodaeth Cwmpas


Gwerthoedd


Ymddygiadau


Sgiliau


Geirfa


Dolenni I NOS Eraill


Cysylltiadau Allanol


Fersiwn rhif


Dyddiad Adolygu Dangosol

31 Hyd 2014

Dilysrwydd

Ar hyn o bryd

Statws

Gwreiddiol

Sefydliad Cychwynnol

Cogent

URN gwreiddiol

COGSBP04

Galwedigaethau Perthnasol

Cyfarwyddwr, Rheolwr, Ffermwr, Rheolwr Fferm, Rheolwr Uned, Perchennog/Rheolwr, Ymgynghorydd

Cod SOC

5111

Geiriau Allweddol

effeithlon; dŵr; defnydd; cynaliadwy; busnes; ymarfer