Pennu Ôl Troed Carbon ar gyfer Sefydliad i Gefnogi Ymarfer Busnes Cynaliadwy
Trosolwg
Mae'r safon hon yn ymwneud ag olrhain ôl troed carbon i gefnogi ymarfer busnes cynaliadwy. Ôl troed carbon yw'r term a ddefnyddir i ddisgrifio faint o allyriadau nwyon tŷ gwydr (GHG) a achosir gan weithgaredd neu endid penodol, ac felly mae'n ffordd i sefydliadau fonitro eu cyfraniad i newid hinsawdd.
Mae pennu'r ôl troed carbon yn cael ei ystyried fel cam cyntaf yn lleihau allyriadau yn fewnol ac yn y sefydliad a hefyd ar draws y gadwyn gyflenwi i gyd. Mae'n gofyn bod yr ystod lawn o nwyon tŷ gwydr yn cael eu hystyried fel rhan o'r broses, yn cynnwys nwyon fel CO2, methan a CFC.* *
Mae'r rôl a ddisgrifir gan y safon hon yn cynnwys datblygu ôl troed carbon ar gyfer sefydliad. Mae'n gofyn am y gallu i ddechrau'r ymchwil, casglu data ac adrodd ar ganlyniadau gwirioneddol. Mae'r gallu i gyfathrebu gyda mathau gwahanol o bobl i gael cymeradwyaeth am y gweithgaredd ac i hybu canlyniadau ymchwil yn rhan bwysig o'r safon hon.
Mae'n gofyn am gymhwyso prosesau a thechnegau olrhain ôl troed carbon er mwyn pennu'r canlyniadau ôl troed carbon ar gyfer y sefydliad yn gyffredinol.
* *
Gr*ŵ*p Targed
Mae'r safon hon ar gyfer y rheiny sydd yn gysylltiedig â datblygu ymarfer busnes cynaliadwy trwy reoli allyriadau nwyon tŷ gwydr. Mae'n debygol o fod yn berthnasol i staff technegol mewn sefydliadau, y rheiny sy'n gyfrifol am weithredu rhaglenni amgylcheddol.
Meini prawf perfformiad
Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:
- nodi cynllun prosiect i gefnogi'r broses o olrhain ôl troed carbon
- ymgysylltu eraill er mwyn sicrhau cefnogaeth ar gyfer y broses olrhain ôl troed carbon
- cael yr adnoddau sy'n ofynnol i weithredu'r broses o olrhain ôl troed carbon
- gweithredu'r broses o olrhain ôl troed carbon i bennu ôl troed carbon y sefydliad
- nodi cyfleoedd ar gyfer lleihau ôl troed carbon y sefydliad
- adrodd ar y canlyniadau ymchwil gan nodi'r ôl troed carbon ar gyfer y sefydliad a chyfleoedd i leihau ôl troed carbon
- sicrhau bod canlyniadau ac argymhellion ymchwil yn cydymffurfio â gofynion cyfreithiol
- cyflwyno canlyniadau ac argymhellion ymchwil ar gyfer lleihau carbon i wneuthurwyr penderfyniadau
- cyfathrebu'n effeithiol gyda phawb sydd yn gysylltiedig â'r broses olrhain ôl troed carbon
- cael cymeradwyaeth a chefnogaeth ar gyfer cynigion ac argymhellion
Gwybodaeth a Dealltwriaeth
You need to know and understand:
y ddeddfwriaeth, y safonau diwydiant a'r codau gwirfoddol sy'n cefnogi olrhain ôl troed carbon
effaith yr ôl troed carbon ar egwyddorion economaidd, cymdeithasol ac amgylcheddol cynaliadwyedd ac ymarfer busnes cynaliadwy
sut mae ôl troed carbon sefydliadol yn cefnogi datblygiad ymarfer busnes cynaliadwy
y nwyon tŷ gwydr gwahanol sy'n cyfrannu at ôl troed carbon y sefydliad
sut mae allyriadau nwyon tŷ gwydr yn cyfrannu at newid amgylcheddol
potensial cynhesu byd-eang y nwyon sydd wedi eu dosbarthu fel nwyon tŷ gwydr
sut mae olion troed carbon yn cysylltu â gwyddoniaeth newid hinsawdd
pam y mae'n bwysig cynnwys gwneuthurwyr penderfyniadau, cydweithwyr sefydliadol, cwsmeriaid a chyflenwyr yn y broses olrhain ôl troed carbon
cynllunio a gweithredu prosiect
- yr adnoddau sy'n ofynnol i gefnogi proses olrhain ôl troed carbon sefydliadol
- ffynonellau cyngor a chymorth olrhain ôl troed carbon
- dadansoddi sensitifrwydd a sut a pham y caiff ei ddefnyddio i ymchwilio i ffiniau ar gyfer prosesau olrhain ôl troed carbon
- unedau gweithredol a'u rôl yn olrhain ôl troed carbon
- egwyddorion arweiniol y broses olrhain ôl troed carbon
- sut gall deunyddiau crai a chadwyni cyflenwi gyfrannu at ôl troed carbon sefydliadol
- sut i gwblhau camau'r broses o olrhain ôl troed carbon
- y cyfleoedd sydd ar gael ar gyfer lleihau ôl troed carbon sefydliad
- mathau, ffynonellau, a dulliau ar gyfer casglu a threfnu data carbon
- y technegau a ddefnyddir i ddilysu ansawdd data carbon
- y technegau dadansoddi data carbon a ddefnyddir i gyfrifo olion troed carbon ar gyfer sefydliad
- y dulliau a ddefnyddir i ddilysu olion troed carbon
- y cyfleoedd sydd ar gael ar gyfer lleihau olion troed carbon yn cynnwys lleddfu, gwrthbwyso a storio
- sut i gysylltu olion troed carbon â rheolaeth nwyon tŷ gwydr
- sut i gyfathrebu canlyniadau'r gweithgareddau olrhain ôl troed carbon
Cwmpas/ystod
Cynllun y prosiect yn disgrifio:
dewis cynnyrch/gwasanaethau
uned swyddogaeth
cwmpas prosiect
amcanion ymchwil
sensitifrwydd
methodoleg ymchwil
Adnoddau yn cynnwys:
Proses olrhain ôl troed carbon yn cynnwys:
Cyfleoedd lleihau carbon yn cynnwys: