Cyfrannu at arweinyddiaeth dechnegol ar weithgareddau datgomisiynu niwclear
Trosolwg
Mae'r safon hon yn cwmpasu'r cymhwysedd sydd ei angen i gymryd rôl arweiniol wrth gyfrannu syniadau ar gyfer rheoli a gweithredu gwaith ac i ddangos dealltwriaeth drylwyr o arferion datgomisiynu niwclear.
Mae’r safon hon yn rhoi sylw i’r canlynol:
1. Cyfrannu at arweinyddiaeth dechnegol ar weithgareddau datgomisiynu niwclear
Yn ystod y gwaith hwn, rhaid i chi ystyried arferion gweithio diogel, gweithdrefnau a gofynion gweithredol perthnasol y man gwaith FEL Y MAEN NHW’N BERTHNASOL I CHI.
Mae'r gweithgaredd yn debygol o gael ei wneud gan rywun sy'n gweithio mewn amgylchedd Datgomisiynu Niwclear.
Meini prawf perfformiad
Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:
P1 gweithio’n ddiogel bob amser, gan gydymffurfio â rheoliadau iechyd a diogelwch a rheoliadau a chanllawiau perthnasol eraill
P2 asesu dulliau a gweithdrefnau gwaith ar gyfer eu haddasrwydd a'u dichonoldeb technegol
P3 rhagweld problemau posibl a dewis pa gamau i'w cymryd i ddelio â nhw
P4 rhoi gwybodaeth, cyngor ac arweiniad dilys a diweddaraf i gydweithwyr yn ôl yr angen
P5 dadansoddi problemau'n llawn a dewis atebion effeithiol a fydd yn cynnal ansawdd a chynnydd y gwaith
Gwybodaeth a Dealltwriaeth
You need to know and understand:
K1 deddfwriaeth, rheoliadau ac arferion a gweithdrefnau iechyd a diogelwch
K2 dulliau a thechnegau cynllunio
K3 sut i adnabod a datrys problemau
K4 sut i gyflwyno gwybodaeth
K5 sut i bennu gweithdrefnau a chanllawiau
K6 gweithdrefnau rheoli ymbelydredd a halogi
K7 y mathau, y dulliau a'r defnydd o PPE
K8 egwyddorion a chymhwyso ALARP
K9 symud deunydd ymbelydrol halogedig
K10 mesur a rheoli dosau ymbelydrol
K11 Llinellau a gweithdrefnau adrodd
Cwmpas/ystod
Cwmpas Perfformiad
Gwybodaeth Cwmpas
Gwerthoedd
Ymddygiadau
Sgiliau
Geirfa
Mae ystyr penodol i'r termau canlynol yn y Safon hon:
Cydweithwyr
• Y rhai sy'n gweithio i'r un sefydliad â'r ymgeisydd
• Y rhai sy'n gweithio i sefydliad arall (ee isgontractwyr)
Darparu gwybodaeth
• Ar lafar
• Drwy ddogfennau
• Drwy gofnodion electronig a systemau negeseua
Problemau
Yr anawsterau hynny sy'n codi mewn rhyw agwedd ar y gwaith ac y mae angen cyngor ac arweinyddiaeth dechnegol yn hytrach na goruchwylio i'w datrys