Gwneud yn siŵr bod offer a chyfarpar monitro radiolegol mewn cyflwr da

URN: COGN417
Sectorau Busnes (Suites): Datgomisiynu Niwclear
Datblygwyd gan: Cogent
Cymeradwy ar: 30 Maw 2021

Trosolwg

Mae'r safon hon yn rhoi sylw i’r gallu sydd ei angen i gadw cyflwr adnoddau radiolegol. Rhaid i ymgeiswyr ddangos dealltwriaeth glir o’r gofynion ar gyfer storio, darparu, archwilio, profi, cynnal a chadw a chofnodion.

Mae’r Safon hon yn rhoi sylw i’r canlynol:

1. Gwneud yn siŵr bod offer a chyfarpar monitro radiolegol mewn cyflwr da

Yn ystod y gwaith hwn, rhaid i chi ystyried arferion gweithio diogel, gweithdrefnau a gofynion gweithredol perthnasol y man gwaith FEL Y MAEN NHW’N BERTHNASOL I CHI.

Mae'r gweithgaredd yn debygol o gael ei wneud gan rywun sy'n gweithio mewn amgylchedd Datgomisiynu Niwclear.


Meini prawf perfformiad

Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:

​P1 gweithio’n ddiogel bob amser, gan gydymffurfio â rheoliadau iechyd a diogelwch a rheoliadau a chanllawiau perthnasol eraill
P2 cael gafael a gwirio adnoddau ac offer sy'n briodol i'r gweithgaredd a gaiff ei fonitro a'r maes yn unol â gweithdrefnau a osodwyd
P3 labelu adnoddau nad ydynt yn gweithio, wedi'u difrodi ac wedi gwisgo'n glir a'u rhoi i'r bobl berthnasol i weithredu arnynt
P4 trin ffynonellau’n ddiogel a’u dychwelyd i gael eu storio’n ddiogel, yn unol â’r cyfarwyddiadau
P5 sefydlu bod statws radiolegol adnoddau ac offer yn ddiogel cyn eu dychwelyd i'w storio
P6 llenwi dogfennau yn glir ac yn gywir
P7 gofyn am gyngor arbenigol priodol gan bobl berthnasol lle cyrhaeddir eich cyfyngiadau technegol eich hun


Gwybodaeth a Dealltwriaeth

You need to know and understand:

K1 gweithdrefnau gofal a rheoli, a gweithredu cyfarpar
K2 egwyddorion profi swyddogaeth y broses monitro adnoddau ac offer
K3 y gofynion labelu ar gyfer offer nad yw’n gweithio, sydd wedi’i ddifrodi ac sydd wedi gwisgo
K4 y ffactorau allweddol i’w hystyried wrth drin ffynonellau’n ddiogel, a’u dychwelyd yn ddiogel i'w storio
K5 y pwyntiau allweddol i'w hystyried wrth benderfynu a yw statws radiolegol adnoddau yn ddiogel cyn dychwelyd i'r storfa
K6 gweithdrefnau a dogfennau adrodd
K7 sut mae canfod a chael gafael ar ffynonellau cyngor arbenigol
K8 egwyddorion ymbelydredd a halogi
K9 egwyddorion rheoli a phennu ffiniau ardaloedd gwaith  
K10 egwyddorion lleihau risg
K11 technegau diheintio
K12 cyfarpar mesur dosau/rheoli dos personol


Cwmpas/ystod


Cwmpas Perfformiad


Gwybodaeth Cwmpas


Gwerthoedd


Ymddygiadau


Sgiliau


Geirfa

Mae ystyr penodol i’r termau canlynol yn y safon hon:

Offer a chyfarpar monitro
• Monitorau ymbelydredd
• Monitorau halogiad

Pobl berthnasol
• Goruchwyliwr ardal
• Goruchwyliwr llinell
• Arbenigwyr diogelu rhag ymbelydredd gan gynnwys cynghorwyr diogelu rhag ymbelydredd (RPAs), goruchwylwyr diogelu rhag ymbelydredd (RPSs) a staff ffiseg iechyd


Dolenni I NOS Eraill


Cysylltiadau Allanol


Fersiwn rhif


Dyddiad Adolygu Dangosol

30 Maw 2026

Dilysrwydd

Ar hyn o bryd

Statws

Gwreiddiol

Sefydliad Cychwynnol

Cogent

URN gwreiddiol

N417

Galwedigaethau Perthnasol

Galwedigaethau Proffesiynol, Peiranneg, Gweithwyr Proffesiynol ym maes Peirianneg, Technolegau gweithgynhyrchu a pheirianneg

Cod SOC

8149

Geiriau Allweddol

monitro, offer, cyfarpar, pobl