Monitro cyflyrau radiolegol yn weithredol
Trosolwg
Mae'r safon hon yn cwmpasu'r cymhwysedd sydd ei angen i fonitro cyflyrau radiolegol sy'n bodoli eisoes mewn ardal dan oruchwyliaeth neu dan reolaeth a sicrhau bod yr amodau radiolegol cywir yn cael eu sefydlu bob amser yn unol â'r cyfarwyddiadau a ddarperir.
Mae’r Safon hon yn rhoi sylw i’r canlynol:
1. Monitro cyflyrau radiolegol yn weithredol
Yn ystod y gwaith hwn, rhaid i chi ystyried arferion gweithio diogel, gweithdrefnau a gofynion gweithredol perthnasol y man gwaith FEL Y MAEN NHW’N BERTHNASOL I CHI.
Mae'r gweithgaredd yn debygol o gael ei wneud gan rywun sy'n gweithio mewn amgylchedd Datgomisiynu Niwclear.
Meini prawf perfformiad
Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:
P1 gweithio’n ddiogel bob amser, gan gydymffurfio â rheoliadau iechyd a diogelwch a rheoliadau a chanllawiau perthnasol eraill
P2 defnyddio adnoddau ac offer sy'n briodol i'r gweithgaredd a gaiff ei fonitro a'r maes yn unol â gweithdrefnau a osodwyd
P3 sefydlu amodau radiolegol yn unol â'r cyfarwyddiadau
P4 nodi unrhyw ofynion monitro ychwanegol a rhoi gwybod amdanyn nhw i’r bobl berthnasol
P5 cael asesiad cywir o ddata monitro a chymryd camau priodol i gynnal amodau diogel
P6 pecynnu, labelu a throsglwyddo sylweddau heb oedi i’r bobl berthnasol
P7 delio a chyfarpar nad yw’n gweithio’n iawn wrth ei ddefnyddio, yn unol â’r cyfarwyddiadau
P8 adrodd am ganlyniadau monitro i'r bobl berthnasol mewn modd amserol
P9 gofyn am gyngor arbenigol priodol pan gyrhaeddwch eich cyfyngiadau technegol eich hun
Gwybodaeth a Dealltwriaeth
You need to know and understand:
K1 gweithdrefnau gofal a rheoli, a gweithredu cyfarpar
K2 nodweddion allweddol cyflyrau radiolegol y mae angen eu sefydlu
K3 sut i nodi unrhyw ofynion monitro ychwanegol, ac i bwy y dylid rhoi gwybod iddynt
K4 y ffactorau allweddol i'w hystyried wrth asesu data monitro, a chamau gweithredu nodweddiadol a allai ddeillio o hyn
K5 y gofynion adnabod, labelu a phecynnu ar gyfer sylweddau i'w dadansoddi ymhellach ac i bwy y dylid eu trosglwyddo
K6 yr arwyddion nad yw cyfarpar yn gweithio’n iawn, a sut mae delio â hynny
K7 gweithdrefnau a dogfennau rhoi gwybod
K8 sut mae canfod a chael gafael ar ffynonellau cyngor arbenigol
K9 egwyddorion rheoli a phennu ffiniau ardaloedd gwaith
K10 egwyddorion lleihau risg
K11 technegau dadhalogi
K12 cyfarpar mesur dosau/rheoli dos personol
Cwmpas/ystod
Cwmpas Perfformiad
Gwybodaeth Cwmpas
Gwerthoedd
Ymddygiadau
Sgiliau
Geirfa
Mae ystyr penodol i'r termau canlynol yn yr uned hon:
Offer a chyfarpar monitro
• Monitorau ymbelydredd
• Monitorau halogiad
Gweithgareddau sy'n cael eu monitro
• Datgymalu cyfarpar a pheiriannau
• Pecynnu a symud deunyddiau ymbelydrol
• Adeiladu strwythurau (h.y. Cyfyngiant, llwyfannau a sgaffaldiau)
• Dihalogi
Pobl berthnasol
• Goruchwyliwr ardal
• Goruchwyliwr llinell
• Arbenigwyr diogelu ymbelydredd gan gynnwys cynghorwyr diogelu ymbelydredd (RPAs), goruchwylwyr diogelu ymbelydredd (RPSs) a staff ffiseg iechyd