Gweithredu offer rheoledig o bell i'w ddefnyddio mewn gwaith datgomisiynu niwclear
Trosolwg
Mae'r Safon hon yn ymdrin â'r cymhwysedd sydd ei angen i weithredu offer datgomisiynu niwclear a reolir o bell gyda chyfrifoldeb wedi'i gyfyngu i weithio yn unol â manyleb fanwl ac yn dilyn gweithdrefnau wedi'u diffinio'n glir o dan amodau gweithredol ac anweithredol, yn y dilyniant penodedig ac i amserlen y cytunwyd arni.
Mae’r Safon hon yn rhoi sylw i’r canlynol:
1. Gweithredu offer rheoledig o bell i'w ddefnyddio mewn gwaith datgomisiynu niwclear
Yn ystod y gwaith hwn, rhaid i chi ystyried arferion gweithio diogel, gweithdrefnau a gofynion gweithredol perthnasol y man gwaith FEL Y MAEN NHW’N BERTHNASOL I CHI.
Mae'r gweithgaredd yn debygol o gael ei wneud gan rywun sy'n gweithio mewn amgylchedd Datgomisiynu Niwclear.
Meini prawf perfformiad
Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:
P1 gweithio’n ddiogel bob amser, gan gydymffurfio â rheoliadau iechyd a diogelwch a rheoliadau a chanllawiau perthnasol eraill
P2 gosod yr offer yn gywir ar gyfer y weithred y mae angen ei chyflawni
P3 sicrhau bod yr holl ddulliau diogelwch ar waith
P4 gwirio a sicrhau bod yr offer yn aros o fewn terfynau gweithredu diogel bob amser
P5 dilyn y gweithdrefnau gweithredu cywir a'r dilyniant o gamau gweithredu
P6 monitro a gwerthuso telemetreg newydd o ran cynnydd gweithrediadau o bell
P7 gweithredu'r offer o bell yn gywir
P8 delio a chyfarpar nad yw’n gweithio’n iawn wrth ei ddefnyddio, yn unol â’r cyfarwyddiadau
P9 adrodd a datrys anawsterau a wynebir gyda'r bobl berthnasol
P10 cyflawni a chofnodi canlyniadau'r gwiriadau ar ôl y weithred benodedig
Gwybodaeth a Dealltwriaeth
You need to know and understand:
K1 offer gweithredu a rheoli gweithdrefnau a thechnegau
K2 y dulliau diogelwch ar offer a reolir o bell
K3 dehongli adborth ar weithrediadau o delemetreg
K4 sut i adfer offer o bell nad yw'n gweithio
K5 sut i adnabod a nodi diffygion sy'n codi dro ar ôl tro
K6 gweithdrefnau a dogfennaeth adrodd
Cwmpas/ystod
Cwmpas Perfformiad
Gwybodaeth Cwmpas
Gwerthoedd
Ymddygiadau
Sgiliau
Geirfa
Mae ystyr penodol i’r termau canlynol yn yr uned hon:
Offer a reolir o bell
Offer a ddefnyddir i gynnal gweithgareddau datgomisiynu niwclear mewn sefyllfaoedd lle mae gofynion iechyd a diogelwch yn golygu bod yn rhaid i weithredwr aros yn ddigon pell oddi wrth yr eitemau sy'n cael eu datgymalu a/neu eu dadhalogi gan gynnwys tongiau, trinwyr gwas meistr - â llaw neu â phŵer, cerbyd gweithredu a reolir o bell, trinwyr â phŵer, offer monitro o bell, unedau teledu cylch cyfyng
Gweithrediadau
• Datgymalu
• Dihalogi