Profi ac addasu offer a ddefnyddir mewn gwaith datgomisiynu niwclear i fodloni gofynion gweithredol
Trosolwg
Mae'r safon hon yn cwmpasu'r cymhwysedd sydd ei angen i weithredu gweithdrefnau cynnal a chadw gyda chyfrifoldeb wedi'i gyfyngu i weithio yn unol â manyleb fanwl ac yn dilyn gweithdrefnau wedi'u diffinio'n glir o dan amodau gweithredol ac anweithredol, yn y dilyniant penodedig ac i amserlen y cytunwyd arni.
Mae’r safon hon yn rhoi sylw i’r canlynol:
1. Addasu offer a ddefnyddir mewn gwaith datgomisiynu niwclear i fodloni gofynion gweithredol
2. Profi offer a ddefnyddir mewn gwaith datgomisiynu niwclear i fodloni gofynion gweithredol
Yn ystod y gwaith hwn, rhaid i chi ystyried arferion gweithio diogel, gweithdrefnau a gofynion gweithredol perthnasol y man gwaith FEL Y MAEN NHW’N BERTHNASOL I CHI.
Mae'r gweithgaredd yn debygol o gael ei wneud gan rywun sy'n gweithio mewn amgylchedd Datgomisiynu Niwclear.
Meini prawf perfformiad
Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:
P1 gweithio’n ddiogel bob amser, gan gydymffurfio â rheoliadau iechyd a diogelwch a rheoliadau a chanllawiau perthnasol eraill
P2 dilyn y manylebau gweithredu priodol ar gyfer yr offer sy'n cael ei gynnal a'i gadw
P3 cyflawni addasiadau o fewn terfynau eich awdurdod personol
P4 gwneud yr addasiadau gofynnol yn y dilyniant penodedig ac i amserlen y cytunwyd arni
P5 cadarnhau bod yr offer wedi'i addasu yn bodloni'r fanyleb weithredu ofynnol drwy brofi
P6 adrodd am unrhyw achosion lle mae'r offer yn methu bodloni'r perfformiad gofynnol ar ôl addasiadau neu lle nodir diffygion y tu allan i'r addasiadau gofynnol
P7 cynnal a chadw dogfennaeth yn unol â’r gofynion sefydliadol
Gwybodaeth a Dealltwriaeth
You need to know and understand:
K1 deddfwriaeth, rheoliadau ac arferion a gweithdrefnau iechyd a diogelwch
K2 amserlenni cynnal a chadw a manylebau cysylltiedig
K3 dulliau a gweithdrefnau cynnal a chadw a phrofi
K4 sut i gael gafael ar y cofnodion cynnal a chadw a'r gweithdrefnau dogfennaeth, a'u defnyddio
K5 offer gweithredu a gweithdrefnau gofal a rheoli
K6 gweithdrefnau awdurdodi gwaith cynnal a chadw a therfynau cyfrifoldeb ac awdurdod
K7 llinellau a gweithdrefnau adrodd
Cwmpas/ystod
Cwmpas Perfformiad
Gwybodaeth Cwmpas
Gwerthoedd
Ymddygiadau
Sgiliau
Geirfa
Mae ystyr penodol i’r termau canlynol yn yr uned hon:
Offer
Unrhyw offer a ddefnyddir i ddatgymalu a dadhalogi peirianwaith, strwythurau ac offer mewn cyfleuster niwclear gan gynnwys offer llaw, offer cludadwy â phŵer, teclynnau codi, trolïau, offer awyru, offer robotig a chywasgwyr