Cynnal gweithdrefnau cynnal a chadw ataliol wedi'u cynllunio ar offer a ddefnyddir mewn prosesau datgomisiynu niwclear
Trosolwg
Mae'r safon hon yn cwmpasu'r cymhwysedd sydd ei angen i weithredu gweithdrefnau penodedig ar gyfer cynnal a chadw peiriannau ac offer peirianyddol yn unol â'r amserlenni cynnal a chadw perthnasol, yn y dilyniant penodedig ac ar amserlen y cytunwyd arni.
Mae’r Safon hon yn rhoi sylw i’r canlynol:
1. Cynnal gweithdrefnau cynnal a chadw ataliol wedi'u cynllunio ar offer a ddefnyddir mewn prosesau datgomisiynu niwclear
Yn ystod y gwaith hwn, rhaid i chi ystyried arferion gweithio diogel, gweithdrefnau a gofynion gweithredol perthnasol y man gwaith FEL Y MAEN NHW’N BERTHNASOL I CHI.
Mae'r gweithgaredd yn debygol o gael ei wneud gan rywun sy'n gweithio mewn amgylchedd Datgomisiynu Niwclear.
Meini prawf perfformiad
Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:
P1 gweithio’n ddiogel bob amser, gan gydymffurfio â rheoliadau iechyd a diogelwch a rheoliadau a chanllawiau perthnasol eraill
P2 dilyn y rhestrau cynnal a chadw perthnasol i gyflawni'r gwaith gofynnol
P3 cyflawni'r gweithgareddau cynnal a chadw arfaethedig o fewn terfynau eich awdurdod personol
P4 cyflawni'r gweithgareddau cynnal a chadw arfaethedig yn y dilyniant penodedig ac yn unol ag amserlen y cytunwyd arni
P5 rhoi gwybod am unrhyw achosion ble nad oes modd cwblhau'r gweithgareddau cynnal a chadw sydd wedi’u cynllunio neu os bydd diffygion sydd y tu hwnt i'r amserlen oedd wedi'i chynllunio
P6 cwblhau cofnodion cynnal a chadw perthnasol wedi'u cynllunio'n gywir a'u trosglwyddo i'r unigolyn priodol
P7 cael gwared ar ddeunyddiau gwastraff yn unol ag arferion gwaith diogel a gweithdrefnau cymeradwy
Gwybodaeth a Dealltwriaeth
You need to know and understand:
K1 deddfwriaeth, rheoliadau ac arferion a gweithdrefnau iechyd a diogelwch
K2 yr amserlenni cynnal a chadw a’r manylebau cysylltiedig
K3 y dulliau a'r gweithdrefnau cynnal a chadw
K4 sut i gael gafael a defnyddio'r cofnodion cynnal a chadw a'r gweithdrefnau dogfennaeth
K5 offer gweithredu a gweithdrefnau gofal a rheoli
K6 terfynau awdurdodi a gallu
K7 llinellau a gweithdrefnau adrodd
Cwmpas/ystod
Cwmpas Perfformiad
Gwybodaeth Cwmpas
Gwerthoedd
Ymddygiadau
Sgiliau
Geirfa
Mae ystyr penodol i'r termau canlynol yn y safon hon:
Cofnodion
• Dogfennol
• Seiliedig ar gyfrifiadur