Datgymalu offer a ddefnyddir mewn prosesau datgomisiynu niwclear
Trosolwg
Mae'r safon hon yn cwmpasu'r cymhwysedd sydd ei angen i ddatgymalu a thynnu offer sydd wedi'i ddefnyddio mewn prosesau datgomisiynu niwclear ac sydd i'w gymhwyso i'r broses o ddadadeiladu elfennau neu gydosodiadau sydd wedi'u lleoli a'u codi i gynorthwyo gwaith datgomisiynu niwclear.
Ni ellir cymhwyso'r uned i'r broses o ddatgomisiynu, datgymalu, gwaredu na dileu asedau.
Mae’r safon hon yn rhoi sylw i’r canlynol:
- Datgymalu offer a ddefnyddir mewn prosesau datgomisiynu niwclear
Yn ystod y gwaith hwn, rhaid i chi ystyried arferion gweithio diogel, gweithdrefnau a gofynion gweithredol perthnasol y man gwaith FEL Y MAEN NHW’N BERTHNASOL I CHI.
Mae'r gweithgaredd yn debygol o gael ei wneud gan rywun sy'n gweithio mewn amgylchedd Datgomisiynu Niwclear.
Meini prawf perfformiad
Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:
P1 gweithio'n ddiogel bob amser, gan gydymffurfio â rheoliadau iechyd a diogelwch a rheoliadau a chanllawiau perthnasol eraill
P2 sefydlu, a lle bo angen, cefnogi cydrannau cyn cael gwared ar ddyfeisiau diogelu
P3 tynnu'r cydrannau yn y dilyniant cywir gan ddefnyddio offer, dulliau a thechnegau cymeradwy
P4 nodi a delio â difrod a diffygion mewn unrhyw elfennau y gellir eu hailddefnyddio a'u storio i'w hail-ddefnyddio mewn lleoliad priodol
P5 cael gwared ar elfennau diangen yn unol â gweithdrefnau y cytunwyd arnynt ac a gymeradwywyd
P6 rhoi gwybod i'r bobl briodol pan fydd y gwaith datgymalu wedi'i gwblhau
P7 delio'n brydlon ac yn effeithiol â phroblemau o fewn eich rheolaeth ac adrodd ar y rhai na ellir eu datrys
Gwybodaeth a Dealltwriaeth
You need to know and understand:
K1 deddfwriaeth, rheoliadau ac arferion a gweithdrefnau iechyd a diogelwch
K2 mathau a chymhwyso elfennau adeiladu
K3 dulliau a thechnegau datgymalu elfennau adeiladu
K4 dulliau o ddarparu cymorth dros dro yn ystod prosesau datgymalu
K5 gweithdrefnau gofal a rheoli offer a chyfarpar
K6 llinellau a gweithdrefnau adrodd
Cwmpas/ystod
Cwmpas Perfformiad
Gwybodaeth Cwmpas
Gwerthoedd
Ymddygiadau
Sgiliau
Geirfa
Mae ystyr penodol i'r termau canlynol yn yr uned hon:
Cydrannau
Unrhyw eitem sy'n rhan o'r offer sy'n cael eu datgymalu