Paratoi ardaloedd a reolir gan halogiad ar gyfer datgomisiynu niwclear
Trosolwg
Mae'r Safon hon yn ymdrin â'r cymhwysedd sydd ei angen i baratoi meysydd gwaith ymbelydredd alffa, beta, gama neu ardaloedd gwaith a reolir gan halogiad a gellir eu cymhwyso i’r gwaith Glanhau ar ôl Gweithrediad (POCO).
Yn gyffredinol, dylid cymhwyso'r uned hon i'r gwaith a wneir i baratoi'r ardal waith ar gyfer gweithgaredd sy'n helpu’r gwaith datgomisiynu niwclear ac na fydd yn cynnwys lleoli ac adeiladu cyfarpar.
Mae’r Safon hon yn rhoi sylw i’r canlynol:
1. Paratoi ardaloedd gwaith rheoli ymbelydredd/halogiad alffa, beta a gama
Yn ystod y gwaith hwn, rhaid i chi ystyried arferion gweithio diogel, gweithdrefnau a gofynion gweithredol perthnasol y man gwaith FEL Y MAEN NHW’N BERTHNASOL I CHI.
Mae'r gweithgaredd yn debygol o gael ei wneud gan rywun sy'n gweithio mewn amgylchedd Datgomisiynu Niwclear.
Meini prawf perfformiad
Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:
P1 gweithio’n ddiogel bob amser, gan gydymffurfio â rheoliadau iechyd a diogelwch a rheoliadau a chanllawiau perthnasol eraill
P2 sicrhau nad yw’r amgylchedd gwaith yn cynnwys peryglon na rhwystrau a'i fod yn addas ar gyfer ymgymryd â'r gwaith
P3 sicrhau bod yr holl gyflenwadau gwasanaeth angenrheidiol wedi'u cysylltu ac yn barod i'w defnyddio
P4 paratoi'r meysydd gwaith fel eu bod yn barod i'r gweithgareddau peirianneg gael eu cyflawni
P5 sicrhau bod y trefniadau diogelwch sydd eu hangen ar waith er mwyn diogelu gweithwyr eraill rhag unrhyw weithgareddau sy'n debygol o amharu ar waith arferol
P6 rhoi gwybod i'r bobl briodol pan fydd paratoadau ardal waith yn cael eu cwblhau
P7 delio'n brydlon ac yn effeithiol â phroblemau o fewn eich rheolaeth ac adrodd ar y rhai na ellir eu datrys
Gwybodaeth a Dealltwriaeth
You need to know and understand:
K1 deddfwriaeth, rheoliadau ac arferion a gweithdrefnau iechyd a diogelwch
K2 y gofynion a'r dulliau ar gyfer paratoi'r ardal waith
K3 canlyniadau peidio â pharatoi ardaloedd gwaith yn gywir
K4 gweithdrefnau cyflenwi a chysylltiadau gwasanaeth
K5 sut i adnabod deunyddiau a gweld diffygion
K6 trin deunyddiau a dulliau a thechnegau paratoi
K7 y priodweddau a'r peryglon sy'n gysylltiedig â gweithio mewn ardaloedd ymbelydredd alffa beta a gama
K8 defnyddio 'terfynau amser gweithio' wrth reoli amlygiad i ymbelydredd beta/gama
K9 gweithdrefnau gofal a rheoli offer a chyfarpar
K10 llinellau a gweithdrefnau adrodd
Cwmpas/ystod
Cwmpas Perfformiad
Gwybodaeth Cwmpas
Gwerthoedd
Ymddygiadau
Sgiliau
Geirfa
Mae ystyr penodol i’r termau canlynol yn yr uned hon:
Paratoi
• Gorchuddion llawr
• Gwasanaethau cefnogi
• Cynwysyddion gwaredu
• Rhwystrau a hysbysiadau