Paratoi offer peirianyddol i'w ddefnyddio mewn amgylchedd a reolir gan ymbelydredd/halogiad
Trosolwg
Mae'r safon hon yn cwmpasu'r cymhwysedd sydd ei angen i baratoi offer ar gyfer gweithgareddau peirianyddol o fewn ardal a reolir gan ymbelydredd neu halogiad fel y'i diffinnir yn y Rheoliadau Ymbelydriadau Ïoneiddio cyfredol.
Mae’r safon hon yn rhoi sylw i’r canlynol:
- Paratoi offer peirianyddol i'w ddefnyddio mewn amgylchedd a reolir gan ymbelydredd/halogiad
Yn ystod y gwaith hwn, rhaid i chi ystyried arferion gweithio diogel, gweithdrefnau a gofynion gweithredol perthnasol y man gwaith FEL Y MAEN NHW’N BERTHNASOL I CHI.
Mae'r gweithgaredd yn debygol o gael ei wneud gan rywun sy'n gweithio mewn amgylchedd Datgomisiynu Niwclear.
Meini prawf perfformiad
Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:
P1 gweithio’n ddiogel bob amser, gan gydymffurfio â rheoliadau iechyd a diogelwch a rheoliadau a chanllawiau perthnasol eraill
P2 dilyn a gwneud defnydd priodol o'r manylebau ar gyfer y cynnyrch neu'r ased sy'n cael ei wirio
P3 defnyddio'r holl offer a chyfarpar arolygu cywir a gwneud yn siŵr eu bod mewn cyflwr y mae modd eu defnyddio
P4 cynnal y gwiriadau mewn dilyniant priodol gan ddefnyddio dulliau a gweithdrefnau cymeradwy
P5 nodi ac asesu unrhyw ddiffygion neu amrywiadau o'r fanyleb a chymryd camau priodol
P6 adrodd am gwblhau gweithgareddau cydymffurfio yn unol â gweithdrefnau sefydliadol
Gwybodaeth a Dealltwriaeth
You need to know and understand:
K1 deddfwriaeth, rheoliadau ac arferion a gweithdrefnau iechyd a diogelwch
K2 dulliau a gweithdrefnau paratoi offer
K3 mathau o offer a chyfarpar
K4 y cyflenwad gwasanaeth a’r gweithdrefnau cysylltu
K5 gweithdrefnau gofal a rheoli offer a chyfarpar
K6 llinellau a gweithdrefnau adrodd
Cwmpas/ystod
Cwmpas Perfformiad
Gwybodaeth Cwmpas
Gwerthoedd
Ymddygiadau
Sgiliau
Geirfa
Mae ystyr penodol i’r termau canlynol yn yr uned hon:
Offer
• Offer cludadwy ac offer llaw a ddefnyddir wrth ddatgomisiynu peirianwaith, strwythurau
a chyfarpar
• Offer sydd ei angen i alluogi’r broses o reoli gwastraff ymbelydrol
• Offer a ddefnyddir wrth godi a datgymalu strwythurau a ddefnyddir i ddarparu mynediad
a diogelwch tra bo gwaith yn cael ei wneud
Gweithdrefnau i'w dilyn
• Newid gosodiadau neu raddnodi offer
• Gwiriadau rheolaidd ar gyflwr, gweithrediad a diogelwch