Gweithredu systemau mynediad diogel mewn amgylchedd a reolir gan ymbelydredd/halogiad
Trosolwg
Mae'r safon hon yn cwmpasu'r cymhwysedd sydd ei angen i weithredu systemau mynediad diogel mewn amgylchedd a reolir gan ymbelydredd/halogiad lle mae cyfrifoldeb yr ymgeisydd wedi'i gyfyngu i weithio yn unol â manylebau manwl a gweithdrefnau wedi'u diffinio'n glir.
Mae'r safon hon yn rhoi sylw i'r canlynol:
1. Gweithredu systemau mynediad diogel mewn amgylchedd a reolir gan ymbelydredd/halogiad
Yn ystod y gwaith hwn, rhaid i chi ystyried arferion gweithio diogel, gweithdrefnau a gofynion gweithredol perthnasol y man gwaith FEL Y MAEN NHW'N BERTHNASOL I CHI.
Mae'r gweithgaredd yn debygol o gael ei wneud gan rywun sy'n gweithio mewn amgylchedd Datgomisiynu Niwclear.
Meini prawf perfformiad
Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:
P1 gweithio’n ddiogel bob amser, gan gydymffurfio â rheoliadau iechyd a diogelwch a rheoliadau a chanllawiau perthnasol eraill
P2 gosod dulliau rheoli mynediad i fodloni gweithdrefnau system y cytunwyd arnynt ac a gymeradwywyd
P3 gwneud yn siŵr bod cofnodion y system yn gywir, yn gyfoes ac yn gyflawn a'u bod yn cael eu storio'n gywir
P4 cyfleu gofynion y system a chyfrifoldebau unigolion i'r bobl briodol
P5 adolygu gweithrediadau'r system yn rheolaidd ac anfon awgrymiadau ar gyfer gwella at y bobl briodol
Gwybodaeth a Dealltwriaeth
You need to know and understand:
K1 deddfwriaeth, rheoliadau ac arferion a gweithdrefnau iechyd a diogelwch
K2 y dulliau a'r technegau asesu diogelwch
K3 gweithdrefnau a chanllawiau System Waith Ddiogel
K4 egwyddorion halogi a rheoli ymbelydredd
K5 sut i gyflwyno gwybodaeth
K6 systemau a gweithdrefnau gwybodaeth sefydliadol
K7 llinellau a gweithdrefnau adrodd
Cwmpas/ystod
Cwmpas Perfformiad
Gwybodaeth Cwmpas
Gwerthoedd
Ymddygiadau
Sgiliau
Geirfa
Mae ystyr penodol i'r termau canlynol yn yr uned hon:
Adolygu
• Dadansoddiad
• Darparu adborth