Nodi a lleihau peryglon a risgiau
Trosolwg
Mae’r safon hon yn rhoi sylw i’r canlynol:
1. Nodi ac ymdrin â pheryglon a risgiau sy'n deillio o argyfyngau mewn ardaloedd dan oruchwyliaeth a rhai rheoledig – mae hyn yn cwmpasu'r cymhwysedd sydd ei angen i sicrhau bod peryglon yn cael eu cydnabod a bod y risgiau cysylltiedig, gan gynnwys y rhai sy'n deillio o argyfyngau, yn cael eu lleihau
2. Lleihau'r risgiau i fywyd, eiddo a'r amgylchedd mewn ardaloedd dan oruchwyliaeth a rhai rheoledig – mae hyn yn cwmpasu'r cymhwysedd sydd ei angen i sicrhau bod gweithdrefnau sefydliadol a gynlluniwyd i ddiogelu bywyd, eiddo a'r amgylchedd mewn ardaloedd dan oruchwyliaeth a rhai rheoledig yn cael eu gweithredu'n llawn ac yn gyson
Yn ystod y gwaith hwn, rhaid i chi ystyried arferion gweithio diogel, gweithdrefnau a gofynion gweithredol perthnasol y man gwaith FEL Y MAEN NHW’N BERTHNASOL I CHI.
Mae'r gweithgaredd yn debygol o gael ei wneud gan rywun sy'n gweithio mewn amgylchedd Datgomisiynu Niwclear.
Meini prawf perfformiad
Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:
P1 gweithio’n ddiogel bob amser, gan gydymffurfio â rheoliadau iechyd a diogelwch a rheoliadau a chanllawiau perthnasol eraill
P2 adnabod prosesau, offer, cyfarpar a deunyddiau diwydiannol sydd â'r potensial i achosi niwed
P3 chwilio am beryglon yn y gweithle yn unol â gweithdrefnau y cytunwyd arnynt ac a gymeradwywyd
P4 nodi peryglon ac asesu lefel a difrifoldeb y risg sy'n gysylltiedig â'ch maes cyfrifoldeb
P5 blaenoriaethu'r rhain a chymryd camau i leihau'r risg a gweithredu mesurau rheoli o fewn yr amserlenni gofynnol y cytunwyd arnynt P6 galw am gymorth arbenigol os bydd argyfyngau'n digwydd, gan ddefnyddio systemau rhybuddio fel y bo'n briodol
P7 cymryd camau prydlon a phriodol i leihau'r risg o anaf personol a thrydydd parti fel blaenoriaeth gyntaf ac yna difrod i eiddo ac offer
P8 dilyn gweithdrefnau cau a gwacáu yn brydlon ac yn gywir
P9 ymdrin yn ddiogel â pheryglon y gellir eu hatal gan ddefnyddio offer a deunyddiau priodol, yn unol â pholisi a gweithdrefnau sefydliadol
P10 rhoi gwybod am unrhyw beryglon a nodwyd ac unrhyw gamau yr ydych wedi'u cymryd
P11 rhoi gwybod i bawb yr effeithir arnynt o'r mesurau rheoli risg sydd ar waith ac egluro unrhyw oblygiadau iddynt yn ôl y gofyn
P12 sicrhau bod yr wybodaeth a ddarperir ar gyfer cofnodion y system ddiogelwch yn glir, yn gywir ac yn gyfoes
P13 monitro effeithiolrwydd y mesurau rheoli risg a chymryd camau ychwanegol prydlon lle bo angen
Gwybodaeth a Dealltwriaeth
You need to know and understand:
K1 deddfwriaeth, rheoliadau ac arferion a gweithdrefnau iechyd a diogelwch
K2 y dulliau y cytunwyd arnynt i fynd i mewn/gadael ardaloedd dan reolaeth/dan oruchwyliaeth
K3 egwyddorion halogi a rheoli ymbelydredd
K4 egwyddorion rheoli dos ymbelydredd
K5 gweithdrefnau'r ystafell newid a'r gweithdrefnau rhwystrau
K6 y dulliau a'r technegau a ddefnyddir wrth sylwi ar beryglon ac asesu diogelwch
K7 y mathau o beryglon sy'n cynnwys prosesau, offer, cyfarpar a deunyddiau
K8 effeithiau peryglon ar bobl, eiddo a'r amgylchedd
K9 y camau gweithredu i leihau'r risg o beryglon
K10 gweithdrefnau a dogfennau adrodd am ddiogelwch
K11 llinellau a gweithdrefnau adrodd
K12 gweithdrefnau cymorth cyntaf
K13 gweithdrefnau gwacáu
K14 dogfennau a systemau adrodd wrth gefn
K15 gweithdrefnau argyfwng safleoedd ac adeiladau
K16 achosion argyfwng o fewn yr ardal weithio
Cwmpas/ystod
Cwmpas Perfformiad
Gwybodaeth Cwmpas
Gwerthoedd
Ymddygiadau
Sgiliau
Geirfa
Mae ystyr penodol i’r termau canlynol yn yr uned hon:
Peryglon a risgiau
• Y rhai sy'n deillio o ddefnyddio adnoddau neu o nodweddion o fewn yr amgylchedd gwaith uniongyrchol
• Y rhai sy'n deillio o ddefnyddio offer, cyfarpar a deunyddiau i ddatgymalu a dadhalogi eitemau a delio â gwastraff
Cynlluniau wrth gefn
• Y rhai a ddiffinnir yn y Rheoliadau Ymbelydriadau Ïoneiddio (IRRs)
• Y rhai a ddiffinnir yn lleol ar gyfer ardaloedd mynediad cyfyngedig gan gynnwys gollyngiadau cemegol, tân, amlygiad i ymbelydredd, halogiadau â llwch ymbelydrol ac anaf personol