Lleihau a phecynnu gwastraff ymbelydrol mewn amgylchedd datgomisiynu niwclear
Trosolwg
Mae'r safon hon yn rhoi sylw i'r canlynol:
1. Lleihau gwastraff ymbelydrol – mae hyn yn cwmpasu'r cymhwysedd sydd ei angen i sicrhau bod sgil-gynhyrchion gwastraff ymbelydrol yn cael eu lleihau fel sy'n ofynnol gan drwyddedau safleoedd niwclear a rheolau lleol
2. Pecynnu gwastraff ymbelydrol – mae hyn yn cwmpasu'r cymhwysedd sydd ei angen i sicrhau defnydd effeithlon o ddeunyddiau pacio yn unol â chyfarwyddiadau gweithredu a gymeradwywyd yn ffurfiol
Yn ystod y gwaith hwn, rhaid i chi ystyried arferion gweithio diogel, gweithdrefnau a gofynion gweithredol perthnasol y man gwaith FEL Y MAEN NHW'N BERTHNASOL I CHI.
Mae'r gweithgaredd yn debygol o gael ei wneud gan rywun sy'n gweithio mewn amgylchedd Datgomisiynu Niwclear.
Meini prawf perfformiad
Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:
P1 gweithio’n ddiogel bob amser, gan gydymffurfio â rheoliadau iechyd a diogelwch a rheoliadau a chanllawiau perthnasol eraill
P2 gadael eitemau nad ydynt yn hanfodol y tu allan i ardaloedd gweithredol
P3 dilyn dilyniannau gwaith sy'n lleihau faint o wastraff a gynhyrchir
P4 defnyddio offer, cyfarpar amddiffynnol, dulliau gweithio a'r broses gyfyngiant fel y nodir ar gyfer y swydd
P5 defnyddio technegau gweithio sy'n lleihau croeshalogi a gweithgarwch a drosglwyddir drwy’r awyr
P6 defnyddio technegau lleihau maint priodol yn ôl nodweddion gwastraff
P7 cadw gwastraff ymbelydrol a gwastraff nad yw'n ymbelydrol ar wahân
P8 nodi cyfleoedd i ailddefnyddio offer halogedig a dod â nhw at sylw'r bobl berthnasol
P9 trafod a datrys yr anawsterau a gafwyd a’r gwelliannau posibl i ddulliau penodol gyda'r bobl berthnasol
P10 defnyddio'r cyfyngiant cywir ar gyfer lefel yr halogiad dan sylw a maint a graddfa ffisegol y gwastraff
P11 gwahanu gwastraff yn gywir i'r ffrydiau gwastraff priodol, yn ôl ei fath
P12 defnyddio deunydd pacio sy'n gydnaws â'r gwastraff dan sylw ac sydd wedi'i gadarnhau fel bod yn addas i'r diben cyn ei ddefnyddio
P13 cyflawni ffactor pacio uchel a defnyddio technegau cywasgu grym isel lle nodir
P14 bodloni’r holl ofynion penodol o ran symud gwastraff
P15 defnyddio technegau codi a symud diogel i drosglwyddo gwastraff
P16 nodi pecynnau'n glir ac yn gywir gan ddefnyddio'r system adnabod ofynnol
P17 rhoi gwybod i'r bobl berthnasol yn brydlon ac yn gywir am ddiffygion ac annormaleddau deunydd pacio ac offer ac anawsterau eraill y byddwch yn dod ar eu traws
Gwybodaeth a Dealltwriaeth
You need to know and understand:
K1 pam ei bod yn bwysig gadael eitemau nad ydynt yn hanfodol y tu allan i ardaloedd gweithredol
K2 sut i bennu'r dilyniannau gwaith mwyaf priodol i'w dilyn er mwyn lleihau gwastraff
K3 yr offer, y cyfarpar amddiffynnol, y dulliau gweithio a'r prosesau cadw i'w defnyddio ar gyfer gwahanol fathau o swyddi
K4 y technegau sy'n lleihau croeshalogi a gweithgarwch a drosglwyddir drwy’r awyr
K5 y technegau lleihau maint a ddefnyddir ar gyfer gwahanol nodweddion gwastraff
K6 ffactorau sy'n penderfynu a ellir ail-ddefnyddio offer halogedig ai peidio
K7 yr anawsterau nodweddiadol y gellir dod ar eu traws a phwy ddylai fod yn rhan o drafodaethau i'w goresgyn
K8 y ffactorau allweddol i'w hystyried wrth bennu'r dull cywir i'w ddefnyddio ar gyfer gwahanol lefelau o halogiad a dimensiynau gwastraff
K9 mathau o wastraff ymbelydrol, eu gwahanu a'u hadnabod
K10 defnyddio deunyddiau pecynnu (sylfaenol ac eilaidd) gyda gwahanol wastraff
K11 y prif resymau dros sicrhau ffactor pacio uchel a defnyddio technegau cywasgu grym isel
K12 gofynion symud gwastraff
K13 technegau codi a symud diogel a ddefnyddir wrth drosglwyddo gwastraff
K14 gweithdrefnau a dogfennaeth adrodd
K15 egwyddorion ac arfer cynhyrchu gwastraff a’i osgoi
K16 egwyddorion ymbelydredd a halogiad
K17 egwyddorion rheoli a phennu ffiniau ardaloedd gwaith
K18 egwyddorion a thechnegau lleihau risg
K19 dulliau pecynnu gwastraff ymbelydrol
Cwmpas/ystod
Cwmpas Perfformiad
Gwybodaeth Cwmpas
Gwerthoedd
Ymddygiadau
Sgiliau
Geirfa
Mae ystyr penodol i'r termau canlynol yn yr uned hon:
Hierarchaeth Wastraff
Nodweddion gwastraff
Y math y mae modd ei gywasgu; nad oes modd ei gywasgu; ymyl miniog; peryglus heblaw ymbelydrol
Pecynnu
• Sylfaenol
• Eilaidd
System adnabod
Hynny sy'n benodol i'r sefydliad ac a fydd yn nodi tarddiad, cyrchfan a lefel ymbelydredd