Cofnodi gwybodaeth am ddiogelu rhag ymbelydredd
Trosolwg
Prif ganlyniad y gweithgaredd hwn yw cofnodi gwybodaeth ynghylch
diogelu rhag ymbelydredd.
Mae’r gweithgaredd hwn yn cynnwys dweud pa wybodaeth y mae angen ei chofnodi; creu a chynnal cofnodion; diogelu cofnodion, a chyfyngu mynediad atynt.
Mae’r gweithgaredd hwn yn debygol o gael ei wneud gan rywun sy’n gweithio mewn amgylchedd lle mae diogelu rhag ymbelydredd yn bwysig.
Mae’r uned hon yn rhoi sylw i’r canlynol:
1 Cofnodi gwybodaeth am ddiogelu rhag ymbelydredd
Yn ystod y gwaith hwn, rhaid i chi ystyried arferion gweithio diogel, gweithdrefnau a gofynion gweithredol perthnasol y man gwaith FEL Y MAEN NHW’N BERTHNASOL I CHI.
Fersiwn Flaenorol:
Addaswyd o Uned N232 y Safonau Galwedigaethol Cenedlaethol ar gyfer Diogelu rhag Ymbelydredd – fersiwn Chwefror 2006.
Meini prawf perfformiad
Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:
P1 dweud pa wybodaeth sy’n berthnasol i ddiogelu rhag ymbelydredd y mae angen ei chofnodi
P2 creu cofnodion ar ddiogelu rhag ymbelydredd sy’n glir, yn gyflawn, ac yn ddarllenadwy
P3 cynnal a diogelu cofnodion ar ddiogelu rhag ymbelydredd, yn unol â gofynion y systemau rheoli gwybodaeth
P4 cyfyngu mynediad at y cofnodion ar ddiogelu rhag ymbelydredd, yn unol â gofynion y systemau rheoli gwybodaeth
P5 dod o hyd i unrhyw broblemau ynghylch diogelu a chynnal a chadw cofnodion, a rhoi gwybod i’r bobl berthnasol
P6 cydymffurfio â’r holl reoliadau a safonau perthnasol, a chofnodi pob cam gweithredu a chanlyniad perthnasol yn y systemau gwybodaeth priodol
Gwybodaeth a Dealltwriaeth
You need to know and understand:
K1 dulliau cyfathrebu a chyflwyno
K2 gofynion a materion iechyd a diogelwch
K3 systemau gwybodaeth
K4 y diwydiant niwclear: mathau o gyfleusterau, deunyddiau a phrosesau
K5 strwythurau a gweithdrefnau'r sefydliad
K6 materion diogelu rhag ymbelydredd
K7 systemau diogelu rhag ymbelydredd
K8 ymbelydredd: mathau, ffynonellau a pheryglon
K9 ffynonellau o wybodaeth ddibynadwy am ddiogelu rhag ymbelydredd
K10 safonau, rheoliadau a gofynion statudol, gan gynnwys rhai rhyngwladol, cenedlaethol a lleol