Profi cyfarpar diogelu rhag ymbelydredd
Trosolwg
Prif ganlyniad y gweithgaredd hwn yw profi cyfarpar diogelu rhag ymbelydredd
i wneud yn siŵr ei fod yn gweithio’n iawn. Mae’n debygol mai cyfarpar monitro sefydlog neu symudol fydd y cyfarpar.
Mae’r gweithgaredd hwn yn cynnwys cael gwybodaeth am y cyfarpar; archwilio’r cyfarpar a dilyn gweithdrefnau profi; dod o hyd i unrhyw broblemau a chadarnhau ei fod yn gweithio’n iawn.
Mae’r gweithgaredd hwn yn debygol o gael ei wneud gan rywun sy’n gweithio mewn amgylchedd lle mae diogelu rhag ymbelydredd yn bwysig.
Mae’r uned hon yn rhoi sylw i’r canlynol:
1 Profi cyfarpar diogelu rhag ymbelydredd
Yn ystod y gwaith hwn, rhaid i chi ystyried arferion gweithio diogel, gweithdrefnau a gofynion gweithredol perthnasol y man gwaith FEL Y MAEN NHW’N BERTHNASOL I CHI.
Fersiwn Flaenorol:
Addaswyd o Uned N230 y Safonau Galwedigaethol Cenedlaethol ar gyfer Diogelu rhag Ymbelydredd – fersiwn Chwefror 2006.
Meini prawf perfformiad
Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:
P1 dweud pa gyfarpar a swyddogaethau diogelu rhag ymbelydredd y mae angen eu profi
P2 cael gwybodaeth am y gweithdrefnau a’r amserlen a sefydlwyd i brofi'r cyfarpar diogelu rhag ymbelydredd
P3 profi'r cyfarpar diogelu rhag ymbelydredd i wneud yn siŵr ei fod yn gweithio’n iawn, yn unol â'r gweithdrefnau profi a sefydlwyd
P4 penderfynu a yw’r cyfarpar diogelu rhag ymbelydredd yn gweithio yn unol â’r paramedrau a nodwyd
P5 dod o hyd i unrhyw broblemau gyda’r cyfarpar diogelu rhag ymbelydredd, a chymryd y camau priodol
P6 nodi unrhyw welliannau posibl y gellid eu gwneud i’r amserlen neu’r gweithdrefnau profi
P7 gofyn am gyngor i ddelio ag unrhyw ofynion sydd y tu hwnt i’ch gallu technegol eich hun
P8 cydymffurfio â’r holl reoliadau a safonau perthnasol, a chofnodi pob cam gweithredu a chanlyniad perthnasol yn y systemau gwybodaeth priodol
Gwybodaeth a Dealltwriaeth
You need to know and understand:
K1 materion a gofynion iechyd a diogelwch
K2 gweithdrefnau cynnal a chadw ar gyfer cyfarpar diogelu rhag ymbelydredd
K3 y diwydiant niwclear: mathau o gyfleusterau, deunyddiau a phrosesau
K4 strwythurau a gweithdrefnau'r sefydliad
K5 systemau diogelu rhag ymbelydredd
K6 ymbelydredd: mathau, ffynonellau a pheryglon
K7 ffynonellau o wybodaeth ddibynadwy am ddiogelu rhag ymbelydredd
K8 safonau, rheoliadau a gofynion statudol, gan gynnwys rhai rhyngwladol, cenedlaethol a lleol