Awdurdodi cydweithwyr i wneud gwaith ymbelydredd
Trosolwg
Prif ganlyniad y gweithgaredd hwn yw awdurdodi gwaith sy’n cynnwys peryglon posibl o ran ymbelydredd.
Mae’r gweithgaredd hwn yn cynnwys cael gwybodaeth am y cydweithwyr a’r gwaith sy’n cael ei wneud; adolygu’r holl wybodaeth berthnasol sy’n ymwneud â’r gwaith, y peryglon a’r risgiau; pennu’r gwaith a’r dulliau y gellir eu defnyddio; awdurdodi cydweithwyr i wneud y gwaith; adolygu’r broses o wneud y gwaith.
Mae’r gweithgaredd hwn yn debygol o gael ei wneud gan rywun y mae ei swydd yn canolbwyntio ar ddiogelu rhag ymbelydredd.
Mae’r uned hon yn rhoi sylw i’r canlynol:
1 Awdurdodi cydweithwyr i wneud gwaith ymbelydredd
Yn ystod y gwaith hwn, rhaid i chi ystyried arferion gweithio diogel, gweithdrefnau a gofynion gweithredol perthnasol y man gwaith FEL Y MAEN NHW’N BERTHNASOL I CHI.
Fersiwn Flaenorol:
Addaswyd o Uned N224 y Safonau Galwedigaethol Cenedlaethol ar gyfer Diogelu rhag Ymbelydredd – fersiwn Chwefror 2006.
Meini prawf perfformiad
Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:
P1 adolygu gweithdrefnau a meini prawf y sefydliad ar gyfer awdurdodi cydweithwyr i wneud gwaith ymbelydredd
P2 cael gwybodaeth gywir am y cydweithiwr a’r gwaith ymbelydredd sy’n cael ei wneud
P3 adolygu’r holl asesiadau risg perthnasol sy’n ymwneud â’r gwaith ymbelydredd
P4 sicrhau bod yr holl beryglon ymbelydredd yn cael eu nodi, a bod systemau diogelu rhag ymbelydredd yn cael eu defnyddio’n gywir
P5 ymgynghori â’r holl bobl berthnasol ynghylch y gwaith ymbelydredd
P6 pennu’r gwaith ymbelydredd y bydd y cydweithiwr yn ei wneud, gan gynnwys y dulliau i’w defnyddio a’u hyd
P7 awdurdodi’r cydweithiwr i wneud y gwaith ymbelydredd, yn unol â gweithdrefnau’r sefydliad
P8 adolygu’r gwaith ymbelydredd sydd wedi’i wneud, ar adeg briodol
P9 cydymffurfio â’r holl reoliadau a safonau perthnasol, a chofnodi pob cam gweithredu a chanlyniad perthnasol yn y systemau gwybodaeth priodol
Gwybodaeth a Dealltwriaeth
You need to know and understand:
K1 dulliau cyfathrebu a chyflwyno
K2 gofynion a materion iechyd a diogelwch
K3 y diwydiant niwclear: mathau o gyfleusterau, deunyddiau a phrosesau
K4 strwythurau a gweithdrefnau'r sefydliad
K5 materion diogelu rhag ymbelydredd
K6 systemau diogelu rhag ymbelydredd
K7 ymbelydredd: mathau, ffynonellau a pheryglon
K8 ffynonellau o wybodaeth ddibynadwy am ddiogelu rhag ymbelydredd
K9 safonau, rheoliadau a gofynion statudol, gan gynnwys
rhai rhyngwladol, cenedlaethol a lleol
K10 dulliau hyfforddi a datblygu