Asesu cydweithwyr yn erbyn gofynion diogelu rhag ymbelydredd

URN: COGN223
Sectorau Busnes (Suites): Diogelu rhag Ymbelydredd
Datblygwyd gan: Cogent
Cymeradwy ar: 30 Maw 2008

Trosolwg

Prif ganlyniad y gweithgaredd hwn yw asesu cydweithwyr yng nghyswllt
diogelu rhag ymbelydredd, fel rhan o raglen hyfforddi ffurfiol neu ar gyfer gweithgareddau rheoleiddio.

Mae’r gweithgaredd hwn yn cynnwys dod o hyd i gyfleoedd asesu a chael gwybodaeth berthnasol; asesu cydweithwyr yn wrthrychol; nodi ffactorau sy’n effeithio ar berfformiad cydweithwyr; darparu adborth adeiladol a chymhelliant; cynnwys canlyniadau mewn cynlluniau datblygu personol, a rhoi gwybod i’r bobl briodol.

Mae’r gweithgaredd hwn yn debygol o gael ei wneud gan rywun y mae ei swydd yn canolbwyntio ar ddiogelu rhag ymbelydredd.

Mae’r uned hon yn rhoi sylw i’r canlynol:

1 Asesu cydweithwyr yn erbyn gofynion diogelu rhag ymbelydredd

Yn ystod y gwaith hwn, rhaid i chi ystyried arferion gweithio diogel, gweithdrefnau a gofynion gweithredol perthnasol y man gwaith FEL Y MAEN NHW’N BERTHNASOL I CHI.

Fersiwn Flaenorol:

Addaswyd o Uned N223 y Safonau Galwedigaethol Cenedlaethol ar gyfer Diogelu rhag Ymbelydredd – fersiwn Chwefror 2006.


Meini prawf perfformiad

Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:

P1 dod o hyd i gyfleoedd addas i asesu cydweithwyr yn erbyn gofynion diogelu rhag ymbelydredd
P2 cael gwybodaeth berthnasol i helpu i asesu cydweithwyr
P3 asesu cydweithwyr drwy ddefnyddio dulliau addas sydd wedi’u diffinio’n glir a meini prawf ac amcanion perthnasol
P4 sicrhau bod yr asesiadau’n wrthrychol, nad ydynt yn gwahaniaethu, a’u bod yn seiliedig ar wybodaeth briodol a dibynadwy
P5 sicrhau bod asesiadau’n dangos pa gydweithwyr sy’n cyflawni’r gofynion diogelu rhag ymbelydredd yn effeithiol, a pha gydweithwyr nad ydynt yn gwneud hynny
P6 nodi unrhyw ffactorau sy’n effeithio ar ansawdd perfformiad
P7 rhoi adborth adeiladol ar berfformiad i gydweithwyr a phobl berthnasol
P8 cymell cydweithwyr i wella eu perfformiad yn y dyfodol
P9 cynnwys canlyniadau asesiadau mewn cynlluniau datblygu personol ac yng ngweithdrefnau eraill y sefydliad ar gyfer delio â materion perfformiad
P10 rhoi gwybod i’r bobl briodol am ganlyniadau’r asesiad
P11 cydymffurfio â’r holl reoliadau a safonau perthnasol, a chofnodi pob cam gweithredu a chanlyniad perthnasol yn y systemau gwybodaeth priodol


Gwybodaeth a Dealltwriaeth

You need to know and understand:

K1 dulliau cyfathrebu a chyflwyno
K2 gofynion a materion iechyd a diogelwch
K3 y diwydiant niwclear: mathau o gyfleusterau, deunyddiau a phrosesau
K4 strwythurau a gweithdrefnau'r sefydliad
K5 materion diogelu rhag ymbelydredd
K6 systemau diogelu rhag ymbelydredd
K7 ymbelydredd: mathau, ffynonellau a pheryglon
K8 ffynonellau o wybodaeth ddibynadwy am ddiogelu rhag ymbelydredd
K9 safonau, rheoliadau a gofynion statudol, gan gynnwys rhai rhyngwladol, cenedlaethol a lleol
K10 dulliau hyfforddi a datblygu


Cwmpas/ystod


Cwmpas Perfformiad


Gwybodaeth Cwmpas


Gwerthoedd


Ymddygiadau


Sgiliau


Geirfa


Dolenni I NOS Eraill


Cysylltiadau Allanol


Fersiwn rhif


Dyddiad Adolygu Dangosol

30 Maw 2010

Dilysrwydd

Ar hyn o bryd

Statws

Gwreiddiol

Sefydliad Cychwynnol

Cogent

URN gwreiddiol

N223

Galwedigaethau Perthnasol

Technoleg gweithgynhyrchu a pheirianneg, Gweithwyr Proffesiynol ym maes Peirianneg

Cod SOC

3111

Geiriau Allweddol

Iechyd, ïoneiddio, gwybodaeth, niwclear, radiolegol, adnoddau, diogelwch, sgiliau, peryglon