Darparu rhaglenni hyfforddiant ar gyfer diogelu rhag ymbelydredd

URN: COGN222
Sectorau Busnes (Suites): Diogelu rhag Ymbelydredd
Datblygwyd gan: Cogent
Cymeradwy ar: 30 Maw 2008

Trosolwg

Prif ganlyniad y gweithgaredd hwn yw darparu rhaglen diogelu rhag ymbelydredd, a fydd yn rhoi sylw i elfennau perthnasol o ddiogelu rhag ymbelydredd ar gyfer gwahanol grwpiau o weithwyr.

Mae’r gweithgaredd hwn yn cynnwys cadarnhau’r canlyniadau dysgu y mae angen eu sicrhau drwy’r rhaglen hyfforddiant ar gyfer diogelu rhag ymbelydredd; dewis a chyflwyno dulliau hyfforddi; rhoi cyfleoedd dysgu i gydweithwyr; hybu datblygiad dysgwyr drwy roi adborth adeiladol; adolygu anghenion datblygu cydweithwyr, a darparu opsiynau ar gyfer gwella eu perfformiad.

Mae’r gweithgaredd hwn yn debygol o gael ei wneud gan rywun sy’n gweithio mewn amgylchedd lle mae diogelu rhag ymbelydredd yn bwysig.

Mae’r uned hon yn rhoi sylw i’r canlynol:

1 Darparu rhaglenni hyfforddiant ar gyfer diogelu rhag ymbelydredd

Yn ystod y gwaith hwn, rhaid i chi ystyried arferion gweithio diogel, gweithdrefnau a gofynion gweithredol perthnasol y man gwaith FEL Y MAEN NHW’N BERTHNASOL I CHI.

Fersiwn Flaenorol:

Addaswyd o Uned N222 y Safonau Galwedigaethol Cenedlaethol ar gyfer Diogelu rhag Ymbelydredd – fersiwn Chwefror 2006.


Meini prawf perfformiad

Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:

P1 cadarnhau’r canlyniadau dysgu y mae angen eu sicrhau drwy’r rhagle hyfforddiant ar gyfer diogelu rhag ymbelydredd
P2 dewis dulliau hyfforddi priodol i sicrhau canlyniadau dysgu penodol    ymysg cydweithwyr
P3 sicrhau bod y dulliau hyfforddi yn cydymffurfio â’r holl reoliadau a safonau perthnasol ar gyfer diogelu rhag ymbelydredd
P4 cyflwyno’r dulliau hyfforddi yn effeithiol yn unol â gofynion y rhaglen hyfforddiant ar gyfer diogelu rhag ymbelydredd
P5 rhoi cyfleoedd dysgu addas i gydweithwyr er mwyn iddyn nhw allu gwella eu gwybodaeth am ddiogelu rhag ymbelydredd, a’u dealltwriaeth o hynny
P6 annog cydweithwyr i gynnal eu gwybodaeth am ddiogelu rhag ymbelydredd
P7 rhoi adborth adeiladol i gydweithwyr ar eu perfformiad yn ystod yr hyfforddiant
P8 adolygu anghenion datblygu cydweithwyr yn rheolaidd
P9 cynnig opsiynau addas i gydweithwyr nad ydynt yn gallu gwella eu perfformiad
P10 cydymffurfio â’r holl reoliadau a safonau perthnasol, a chofnodi pob cam gweithredu a chanlyniad perthnasol yn y systemau gwybodaeth priodol


Gwybodaeth a Dealltwriaeth

You need to know and understand:

K1 dulliau cyfathrebu a chyflwyno
K2 gofynion a materion iechyd a diogelwch
K3 y diwydiant niwclear: mathau o gyfleusterau, deunyddiau a phrosesau
K4 strwythurau a gweithdrefnau'r sefydliad
K5 materion diogelu rhag ymbelydredd
K6 systemau diogelu rhag ymbelydredd
K7 ymbelydredd: mathau, ffynonellau a pheryglon
K8 ffynonellau o wybodaeth ddibynadwy am ddiogelu rhag ymbelydredd
K9 safonau, rheoliadau a gofynion statudol, gan gynnwys rhai rhyngwladol, cenedlaethol a lleol
K10 dulliau hyfforddi a datblygu


Cwmpas/ystod


Cwmpas Perfformiad


Gwybodaeth Cwmpas


Gwerthoedd


Ymddygiadau


Sgiliau


Geirfa


Dolenni I NOS Eraill


Cysylltiadau Allanol


Fersiwn rhif


Dyddiad Adolygu Dangosol

30 Maw 2010

Dilysrwydd

Ar hyn o bryd

Statws

Gwreiddiol

Sefydliad Cychwynnol

Cogent

URN gwreiddiol

N222

Galwedigaethau Perthnasol

Gweithwyr Proffesiynol ym maes Peirianneg, Technolegau gweithgynhyrchu a pheirianneg

Cod SOC

3111

Geiriau Allweddol

Iechyd, ïoneiddio, gwybodaeth, niwclear, radiolegol, adnoddau, diogelwch, sgiliau, peryglon