Pennu dosimetreg ar gyfer gwaith ymbelydredd

URN: COGN218
Sectorau Busnes (Suites): Diogelu rhag Ymbelydredd
Datblygwyd gan: Cogent
Cymeradwy ar: 30 Maw 2008

Trosolwg

Prif ganlyniad y gweithgaredd hwn yw pennu dosimetreg ar gyfer gwaith penodol.

Mae’r gweithgaredd hwn yn cynnwys cael gwybodaeth am y gwaith sy’n cael ei wneud, gan gynnwys unrhyw asesiadau risg; nodi risgiau ymbelydredd a’r deunyddiau ymbelydrol y mae pobl yn dod i gysylltiad â nhw; defnyddio dulliau priodol o gyfrifo’r lefelau derbyniol o gyswllt ag ymbelydredd ar sail dosau blaenorol unigolion; pennu terfynau ar gyfer cysylltiad ag ymbelydredd; diweddaru gwybodaeth am ddosimetreg.

Mae’r gweithgaredd hwn yn debygol o gael ei wneud gan rywun y mae ei swydd yn canolbwyntio ar ddiogelu rhag ymbelydredd.

Mae’r uned hon yn rhoi sylw i’r canlynol:

1 Pennu dosimetreg ar gyfer gwaith ymbelydredd

Yn ystod y gwaith hwn, rhaid i chi ystyried arferion gweithio diogel, gweithdrefnau a gofynion gweithredol perthnasol y man gwaith FEL Y MAEN NHW’N BERTHNASOL I CHI.

Fersiwn Flaenorol:

Addaswyd o Uned N218 y Safonau Galwedigaethol Cenedlaethol ar gyfer Diogelu rhag Ymbelydredd – fersiwn Chwefror 2006.


Meini prawf perfformiad

Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:

P1 cael gwybodaeth am y math o waith ymbelydredd sy’n cael ei wneud
P2 ystyried yr holl asesiadau risg perthnasol sy’n ymwneud â’r gwaith ymbelydredd
P3 nodi’r math o risgiau ymbelydredd sy’n gysylltiedig â’r gwaith ymbelydredd
P4 nodi’r math o ddeunyddiau ymbelydrol y gallai pobl ddod i gysylltiad â nhw yn ystod y gwaith ymbelydredd
P5 nodi lefel y cysylltiad posibl, a chael unrhyw wybodaeth berthnasol am ddosau blaenorol ar gyfer y bobl sy’n gwneud gwaith ymbelydredd
P6 defnyddio dulliau dadansoddi priodol i bennu’r math o ddosimetreg ar gyfer y gwaith ymbelydredd
P7 nodi’n glir ofynion y cyfyngiadau ar bobl sy’n gwneud y gwaith ymbelydredd
P8 sicrhau bod yr holl systemau perthnasol ar ddosimetreg yn cael eu diweddaru gyda’r gofynion newydd
P9 adolygu’r trefniadau dosimetreg ar adeg briodol
P10 cydymffurfio â’r holl reoliadau a safonau perthnasol, a chofnodi pob cam                     gweithredu a chanlyniad perthnasol yn y systemau gwybodaeth priodol


Gwybodaeth a Dealltwriaeth

You need to know and understand:

K1 dulliau cyfathrebu a chyflwyno
K2 asesiadau dosimetreg
K3 materion a gofynion iechyd a diogelwch
K4 y diwydiant niwclear: mathau o gyfleusterau, deunyddiau a phrosesau
K5 strwythurau a gweithdrefnau'r sefydliad
K6 cyfarpar monitro ymbelydredd
K7 materion diogelu rhag ymbelydredd
K8 systemau diogelu rhag ymbelydredd
K9 ymbelydredd: mathau, ffynonellau a pheryglon
K10 dulliau o adnabod peryglon ac asesu risg
K11 ffynonellau o wybodaeth ddibynadwy am ddiogelu rhag ymbelydredd
K12 safonau, rheoliadau a gofynion statudol, gan gynnwys rhai rhyngwladol, cenedlaethol a lleol


Cwmpas/ystod


Cwmpas Perfformiad


Gwybodaeth Cwmpas


Gwerthoedd


Ymddygiadau


Sgiliau


Geirfa


Dolenni I NOS Eraill


Cysylltiadau Allanol


Fersiwn rhif


Dyddiad Adolygu Dangosol

30 Maw 2010

Dilysrwydd

Ar hyn o bryd

Statws

Gwreiddiol

Sefydliad Cychwynnol

Cogent

URN gwreiddiol

N218

Galwedigaethau Perthnasol

Technoleg gweithgynhyrchu a pheirianneg, Gweithwyr Proffesiynol ym maes Peirianneg

Cod SOC

3111

Geiriau Allweddol

Dos, iechyd, ïoneiddio, niwclear, radiolegol, diogelwch, peryglon