Gweithredu systemau diogelu rhag ymbelydredd
Trosolwg
Prif ganlyniad y gweithgaredd hwn yw gweithredu system diogelu rhag ymbelydredd. Mae’n debygol y bydd y system yn cynnwys gweithdrefnau a chyfarpar (un darn, neu fwy nag un darn).
Mae’r gweithgaredd hwn yn cynnwys cael gwybodaeth am y system diogelu rhag ymbelydredd a’r broses o’i chynnal a’i chadw; lledaenu gwybodaeth am y system; sicrhau bod y cyfarpar a’r gweithdrefnau’n cael eu profi; dod o hyd i unrhyw broblemau a chadarnhau bod y system yn gweithio’n iawn.
Mae’r gweithgaredd hwn yn debygol o gael ei wneud gan rywun sy’n gweithio mewn amgylchedd lle mae diogelu rhag ymbelydredd yn bwysig.
Mae’r uned hon yn rhoi sylw i’r canlynol:
1 Gweithredu systemau diogelu rhag ymbelydredd
Yn ystod y gwaith hwn, rhaid i chi ystyried arferion gweithio diogel, gweithdrefnau a gofynion gweithredol perthnasol y man gwaith FEL Y MAEN NHW’N BERTHNASOL I CHI.
Fersiwn Flaenorol:
Addaswyd o Uned N214 y Safonau Galwedigaethol Cenedlaethol ar gyfer Diogelu rhag Ymbelydredd – fersiwn Chwefror 2006.
Meini prawf perfformiad
Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:
P1 cael yr holl wybodaeth berthnasol am y cyfarpar a’r gweithdrefnau a ddefnyddir yn y system diogelu rhag ymbelydredd
P2 lledaenu gwybodaeth am y system diogelu rhag ymbelydredd i’r holl bobl berthnasol
P3 sicrhau bod y cyfarpar diogelu rhag ymbelydredd yn cael ei brofi a’i gynnal a’i gadw, yn unol â’r gweithdrefnau cynnal a chadw perthnasol
P4 profi pa mor effeithiol yw gweithdrefnau diogelu rhag ymbelydredd ar adegau priodol neu mewn ymateb i newid mewn amgylchiadau
P5 cadarnhau bod y gweithdrefnau diogelu rhag ymbelydredd, a ddefnyddir gyda’r cyfarpar diogelu rhag ymbelydredd, yn effeithiol
P6 dod o hyd i unrhyw broblemau gyda’r system diogelu rhag ymbelydredd, a sicrhau bod camau priodol yn cael eu cymryd
P7 adolygu ar adeg addas pa mor effeithiol yw’r broses o weithredu’r system diogelu rhag ymbelydredd
P8 cydymffurfio â’r holl reoliadau a safonau perthnasol, a chofnodi pob cam gweithredu a chanlyniad perthnasol yn y systemau gwybodaeth priodol
Gwybodaeth a Dealltwriaeth
You need to know and understand:
K1 materion a gofynion iechyd a diogelwch
K2 gweithdrefnau cynnal a chadw ar gyfer cyfarpar diogelu rhag ymbelydredd
K3 y diwydiant niwclear: mathau o gyfleusterau, deunyddiau a phrosesau
K4 strwythurau a gweithdrefnau'r sefydliad
K5 systemau diogelu rhag ymbelydredd
K6 ymbelydredd: mathau, ffynonellau a pheryglon
K7 ffynonellau o wybodaeth ddibynadwy am ddiogelu rhag ymbelydredd
K8 safonau, rheoliadau a gofynion statudol, gan gynnwys rhai rhyngwladol, cenedlaethol a lleol