Archwilio’r ffordd mae systemau diogelu rhag ymbelydredd yn gweithio
Trosolwg
Prif ganlyniad y gweithgaredd hwn yw archwilio system diogelu rhag ymbelydredd. Mae’n debygol y bydd y system yn cynnwys gweithdrefnau a chyfarpar (un darn, neu fwy nag un darn).
Mae’r gweithgaredd hwn yn cynnwys cadarnhau hyd a lled yr archwiliad; cynllunio’r archwiliad; cael gwybodaeth am y system diogelu rhag ymbelydredd; asesu’r system; darparu canlyniadau ac argymell gwelliannau.
Mae’r gweithgaredd hwn yn debygol o gael ei wneud gan rywun y mae ei swydd yn canolbwyntio ar ddiogelu rhag ymbelydredd.
Mae’r uned hon yn rhoi sylw i’r canlynol:
1 Archwilio’r ffordd mae systemau diogelu rhag ymbelydredd yn gweithio
Yn ystod y gwaith hwn, rhaid i chi ystyried arferion gweithio diogel, gweithdrefnau a gofynion gweithredol perthnasol y man gwaith FEL Y MAEN NHW’N BERTHNASOL I CHI.
Fersiwn Flaenorol:
Addaswyd o Uned N213 y Safonau Galwedigaethol Cenedlaethol ar gyfer Diogelu rhag Ymbelydredd – fersiwn Chwefror 2006.
Meini prawf perfformiad
Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:
P1 cadarnhau hyd a lled a diben y system diogelu rhag ymbelydreddm sy'n cael ei harchwilio
P2 creu amserlen i archwilio’r system diogelu rhag ymbelydredd
P3 sicrhau bod y gofynion a’r meini prawf archwilio perthnasol a chyfredol yn cael eu defnyddio
P4 dod o hyd i gyfleoedd addas i archwilio’r system diogelu rhag ymbelydredd
P5 cael gwybodaeth i helpu i archwilio’r system diogelu rhag ymbelydredd
P6 archwilio’r system diogelu rhag ymbelydredd yn unol â gofynion yr archwiliad
P7 asesu a yw’r system diogelu rhag ymbelydredd yn cydymffurfio â holl ofynion y sefydliad
P8 darparu canlyniadau’r archwiliad i’r bobl berthnasol
P9 argymell newidiadau i’r system diogelu rhag ymbelydredd a fydd yn gwneud y system yn fwy effeithiol
P10 cydymffurfio â’r holl reoliadau a safonau perthnasol, a chofnodi pob cam gweithredu a chanlyniad perthnasol yn y systemau gwybodaeth priodol
Gwybodaeth a Dealltwriaeth
You need to know and understand:
K1 dulliau cyfathrebu a chyflwyno
K2 gofynion a materion iechyd a diogelwch
K3 dulliau archwilio
K4 y diwydiant niwclear: mathau o gyfleusterau, deunyddiau a phrosesau
K5 strwythurau a gweithdrefnau'r sefydliad
K6 materion diogelu rhag ymbelydredd
K7 systemau diogelu rhag ymbelydredd
K8 ymbelydredd: mathau, ffynonellau a pheryglon
K9 ffynonellau o wybodaeth ddibynadwy am ddiogelu rhag ymbelydredd
K10 safonau, rheoliadau a gofynion statudol, gan gynnwys rhai rhyngwladol, cenedlaethol a lleol