Cynllunio rhaglenni hyfforddiant ar gyfer diogelu rhag ymbelydredd
Trosolwg
Prif ganlyniad y gweithgaredd hwn yw cynllunio rhaglen diogelu rhag ymbelydredd, a fydd yn rhoi sylw i elfennau perthnasol o ddiogelu rhag ymbelydredd ar gyfer gwahanol grwpiau o weithwyr.
Mae’r gweithgaredd hwn yn cynnwys nodi hyd a lled, pwrpas a chanlyniadau dysgu’r rhaglen hyfforddiant ar gyfer diogelu rhag ymbelydredd; cynllunio datblygiad y rhaglen hyfforddiant a’r broses o’i chyflwyno; neilltuo cyfrifoldeb dros gyflwyno’r rhaglen hyfforddiant; cyflwyno’r rhaglen i randdeiliaid; sicrhau bod y rhaglen hyfforddiant yn cydymffurfio â’r holl ofynion.
Mae’r gweithgaredd hwn yn debygol o gael ei wneud gan rywun sy’n gweithio mewn amgylchedd lle mae diogelu rhag ymbelydredd yn bwysig.
Mae’r uned hon yn rhoi sylw i’r canlynol:
1 Cynllunio rhaglenni hyfforddiant ar gyfer diogelu rhag ymbelydredd
Yn ystod y gwaith hwn, rhaid i chi ystyried arferion gweithio diogel, gweithdrefnau a gofynion gweithredol perthnasol y man gwaith FEL Y MAEN NHW’N BERTHNASOL I CHI.
Fersiwn Flaenorol:
Addaswyd o Uned N211 y Safonau Galwedigaethol Cenedlaethol ar gyfer Diogelu rhag Ymbelydredd – fersiwn Chwefror 2006.
Meini prawf perfformiad
Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:
P1 nodi hyd a lled a phwrpas y rhaglen hyfforddiant ar gyfer diogelu rhag ymbelydredd
P2 pennu canlyniadau dysgu clir y rhaglen hyfforddiant ar gyfer diogelu rhag ymbelydredd
P3 nodi’r gweithgareddau a’r adnoddau sydd eu hangen i ddatblygu a chyflwyno’r rhaglen hyfforddiant ar gyfer diogelu rhag ymbelydredd
P4 adolygu’r opsiynau i ddatblygu a chyflwyno’r rhaglen hyfforddiant ar gyfer diogelu rhag ymbelydredd
P5 pennu’r cyfrifoldebau i ddatblygu a chyflwyno gwahanol rannau o'r rhaglen hyfforddiant ar gyfer diogelu rhag ymbelydredd
P6 cyflwyno’r rhaglen hyfforddiant ar gyfer diogelu rhag ymbelydredd i randdeiliaid perthnasol mewn fformat addas, a gyda digon o wybodaeth i'r rhaglen gael ei gwerthuso
P7 sicrhau bod y rhaglen hyfforddiant ar gyfer diogelu rhag ymbelydredd yn cydymffurfio â’r holl reoliadau a safonau perthnasol
P8 cydymffurfio â’r holl reoliadau a safonau perthnasol, a chofnodi pob cam gweithredu a chanlyniad perthnasol yn y systemau gwybodaeth priodol
Gwybodaeth a Dealltwriaeth
You need to know and understand:
K1 dulliau cyfathrebu a chyflwyno
K2 gofynion a materion iechyd a diogelwch
K3 y diwydiant niwclear: mathau o gyfleusterau, deunyddiau a phrosesau
K4 strwythurau a gweithdrefnau'r sefydliad
K5 materion diogelu rhag ymbelydredd
K6 systemau diogelu rhag ymbelydredd
K7 ymbelydredd: mathau, ffynonellau a pheryglon
K8 ffynonellau o wybodaeth ddibynadwy am ddiogelu rhag ymbelydredd
K9 safonau, rheoliadau a gofynion statudol, gan gynnwys rhai rhyngwladol, cenedlaethol a lleol K10 dulliau hyfforddi a datblygu