Asesu’r risgiau wrth ymgymryd â gwaith yn gysylltiedig ag ymbelydredd

URN: COGN207
Sectorau Busnes (Suites): Datgomisiynu Niwclear
Datblygwyd gan: Cogent
Cymeradwy ar: 30 Maw 2021

Trosolwg

Mae'r safon hon yn ymdrin â'r cymhwysedd sydd ei angen i asesu'r risgiau lle mae peryglon ymbelydredd posibl. Gallai’r risgiau i bobl a’r amgylchedd yn y gweithle a thu hwnt ddeillio o beryglon sy’n ymwneud â’r gweithgareddau, y cyfarpar neu’r deunyddiau yn y gweithle.

Mae’r gweithgaredd hwn yn cynnwys cael gwybodaeth a thystiolaeth ar gyfer yr asesiad risg; defnyddio dulliau o asesu risg; nodi unrhyw oblygiadau sy’n deillio o’r asesiad risg; darparu gwybodaeth am yr asesiad risg, a’i adolygu’n nes ymlaen.

Mae’r gweithgaredd hwn yn debygol o gael ei wneud gan rywun y mae ei swydd yn canolbwyntio ar ddiogelu rhag ymbelydredd.

Mae’r safon hon yn rhoi sylw i’r canlynol:

1 Asesu’r risgiau wrth wneud gwaith ymbelydredd

Yn ystod y gwaith hwn, rhaid i chi ystyried arferion gweithio diogel, gweithdrefnau a gofynion gweithredol perthnasol y man gwaith FEL Y MAEN NHW’N BERTHNASOL I CHI.

Mae'r gweithgaredd yn debygol o gael ei wneud gan rywun sy'n gweithio mewn amgylchedd Datgomisiynu Niwclear.


Meini prawf perfformiad

Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:

P1 cael yr holl wybodaeth berthnasol am y gwaith sy’n cael ei wneud, a’r peryglon ymbelydredd cysylltiedig
P2 defnyddio’r dulliau priodol i asesu risg yn gywir, yn unol â gweithdrefnau sefydliadol
P3 cael y dystiolaeth sydd ei hangen ar gyfer yr asesiad risg
P4 gwerthuso’r holl dystiolaeth berthnasol ar ddiogelwch y gwaith
P5 asesu’n gywir ac yn realistig lefel a graddfa'r risgiau ymbelydredd o ymgymryd â'r gweithgaredd
P6 nodi unrhyw oblygiadau i bolisïau a systemau diogelu rhag ymbelydredd sy’n deillio o’r asesiad risg
P7 nodi a datrys unrhyw broblemau gyda'r asesiad risg
P8 darparu gwybodaeth am yr asesiad risg i'r bobl briodol
P9 adolygu'r asesiadau risg ar adeg briodol yn ôl polisi diogelu ymbelydredd y sefydliad
P10 cydymffurfio â’r holl reoliadau a safonau perthnasol, a chofnodi pob cam gweithredu a chanlyniad perthnasol yn y systemau gwybodaeth priodol


Gwybodaeth a Dealltwriaeth

You need to know and understand:

K1 gweithgareddau a gynhaliwyd yn ystod prosesau ymbelydrol
K2 dulliau cyfathrebu a chyflwyno
K3 gofynion a materion iechyd a diogelwch
K4 y diwydiant niwclear: mathau o gyfleusterau, deunyddiau a phrosesau
K5 strwythurau a gweithdrefnau'r sefydliad
K6 offer monitro ymbelydredd
K7 materion diogelu rhag ymbelydredd
K8 systemau diogelu rhag ymbelydredd
K9 ymbelydredd: mathau, ffynonellau a pheryglon
K10 dulliau o adnabod peryglon ac asesu risg
K11 ffynonellau o wybodaeth ddibynadwy am ddiogelu rhag ymbelydredd
K12 safonau, rheoliadau a gofynion statudol, gan gynnwys rhai rhyngwladol, cenedlaethol a lleol


Cwmpas/ystod


Cwmpas Perfformiad


Gwybodaeth Cwmpas


Gwerthoedd


Ymddygiadau


Sgiliau


Geirfa


Dolenni I NOS Eraill


Cysylltiadau Allanol


Fersiwn rhif


Dyddiad Adolygu Dangosol

30 Maw 2026

Dilysrwydd

Ar hyn o bryd

Statws

Gwreiddiol

Sefydliad Cychwynnol

Cogent

URN gwreiddiol

N207

Galwedigaethau Perthnasol

Galwedigaethau Proffesiynol, Peiranneg, Gweithwyr Proffesiynol ym maes Peirianneg, Technolegau gweithgynhyrchu a pheirianneg

Cod SOC

8149

Geiriau Allweddol

Iechyd, ïoneiddio, niwclear, radiolegol, diogelwch, peryglon