Adolygu systemau diogelu rhag ymbelydredd

URN: COGN203
Sectorau Busnes (Suites): Diogelu rhag Ymbelydredd
Datblygwyd gan: Cogent
Cymeradwy ar: 30 Maw 2008

Trosolwg

Prif ganlyniad y gweithgaredd hwn yw adolygu system diogelu rhag ymbelydredd.
Mae’n debygol y bydd y system yn cynnwys gweithdrefnau a chyfarpar (un darn, neu fwy nag un darn).

Mae’r gweithgaredd hwn yn cynnwys cael gwybodaeth am y ffordd mae'r system diogelu rhag ymbelydredd yn gweithio dros gyfnod o amser, gan gynnwys ymgynghori â’r holl randdeiliaid allweddol; cadarnhau bod y system yn cydymffurfio â’r holl reoliadau a safonau; asesu’r system, ac argymell newidiadau iddi.

Mae’r gweithgaredd hwn yn debygol o gael ei wneud gan rywun y mae ei swydd yn canolbwyntio ar ddiogelu rhag ymbelydredd.

Mae’r uned hon yn rhoi sylw i’r canlynol:

1 Adolygu systemau diogelu rhag ymbelydredd

Yn ystod y gwaith hwn, rhaid i chi ystyried arferion gweithio diogel, gweithdrefnau a gofynion gweithredol perthnasol y man gwaith FEL Y MAEN NHW’N BERTHNASOL I CHI.

Fersiwn Flaenorol:

Addaswyd o Uned N203 y Safonau Galwedigaethol Cenedlaethol ar gyfer Diogelu rhag Ymbelydredd – fersiwn Chwefror 2006.


Meini prawf perfformiad

Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:

P1 adolygu'r ffordd mae’r system diogelu rhag ymbelydredd yn gweithio ar adegau addas
P2 cael yr holl wybodaeth berthnasol am effeithiolrwydd y system diogelu rhag ymbelydredd
P3 ymgynghori â’r holl randdeiliaid allweddol ynghylch eu barn am y system diogelu rhag ymbelydredd
P4 asesu a yw’r system diogelu rhag ymbelydredd yn cydymffurfio â’r holl reoliadau a safonau perthnasol
P5 gwerthuso i ba raddau y mae’r system diogelu rhag ymbelydredd yn cyflawni ei hamcanion penodol
P6 argymell newidiadau i’r system diogelu rhag ymbelydredd a fydd yn gwneud y system yn fwy effeithiol
P7 cydymffurfio â’r holl reoliadau a safonau perthnasol, a chofnodi pob cam gweithredu a chanlyniad perthnasol yn y systemau gwybodaeth priodol


Gwybodaeth a Dealltwriaeth

You need to know and understand:

K1 dulliau cyfathrebu a chyflwyno
K2 dulliau gwerthuso
K3 materion a gofynion iechyd a diogelwch
K4 y diwydiant niwclear: mathau o gyfleusterau, deunyddiau a phrosesau
K5 strwythurau a gweithdrefnau'r sefydliad
K6 materion diogelu rhag ymbelydredd
K7 systemau diogelu rhag ymbelydredd
K8 ymbelydredd: mathau, ffynonellau a pheryglon
K9 ffynonellau o wybodaeth ddibynadwy am ddiogelu rhag ymbelydredd
K10 safonau, rheoliadau a gofynion statudol, gan gynnwys rhai rhyngwladol, cenedlaethol a lleol


Cwmpas/ystod


Cwmpas Perfformiad


Gwybodaeth Cwmpas


Gwerthoedd


Ymddygiadau


Sgiliau


Geirfa


Dolenni I NOS Eraill


Cysylltiadau Allanol


Fersiwn rhif


Dyddiad Adolygu Dangosol

30 Maw 2010

Dilysrwydd

Ar hyn o bryd

Statws

Gwreiddiol

Sefydliad Cychwynnol

Cogent

URN gwreiddiol

N203

Galwedigaethau Perthnasol

Gweithwyr Proffesiynol ym maes Peirianneg, Technolegau gweithgynhyrchu a pheirianneg

Cod SOC

3111

Geiriau Allweddol

Peryglon, ïoneiddio, niwclear, radiolegol, diogelwch, iechyd