Datblygu polisi diogelu rhag ymbelydredd ar gyfer sefydliad
Trosolwg
Prif ganlyniad y gweithgaredd hwn yw datblygu polisi diogelu rhag ymbelydredd
sy’n bodoli’n barod, neu ddatblygu un newydd, ar gyfer sefydliad. Gall sefydliad amrywio o gwmni cyfan sydd â mwy nag un safle, neu gwmni bach, adran neu un safle.
Mae’r gweithgaredd hwn yn cynnwys cael yr holl wybodaeth berthnasol ar gyfer y polisi diogelu rhag ymbelydredd, gan gynnwys materion a rheoliadau perthnasol; pennu i ba raddau y mae angen datblygu’r polisi; nodi unrhyw gyfyngiadau ar weithredu’r polisi; sicrhau ymrwymiad i’r polisi; rhoi cyngor ac arweiniad i randdeiliaid.
Mae’r gweithgaredd hwn yn debygol o gael ei wneud gan rywun y mae ei swydd yn canolbwyntio ar ddiogelu rhag ymbelydredd.
Mae’r uned hon yn rhoi sylw i’r canlynol:
1 Datblygu polisi ymbelydredd ar gyfer sefydliad
Yn ystod y gwaith hwn, rhaid i chi ystyried arferion gweithio diogel, gweithdrefnau a gofynion gweithredol perthnasol y man gwaith FEL Y MAEN NHW’N BERTHNASOL I CHI.
Fersiwn Flaenorol:
Addaswyd o Uned N201 y Safonau Galwedigaethol Cenedlaethol ar gyfer Diogelu rhag Ymbelydredd – fersiwn Chwefror 2006.
Meini prawf perfformiad
Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:
P1 nodi gweithgareddau a phrosesau’r sefydliad y mae angen eu cynnwys yn y polisi diogelu rhag ymbelydredd
P2 cael gafael ar yr holl ffynonellau perthnasol o wybodaeth sy’n gallu cyfrannu at y gwaith o ddatblygu’r polisi diogelu rhag ymbelydredd
P3 ymgynghori â’r holl randdeiliaid perthnasol ynghylch eu barn am y polisi diogelu rhag ymbelydredd
P4 nodi’r safonau, y rheoliadau a’r materion diogelu rhag ymbelydredd sy’n berthnasol i’r sefydliad
P5 gwerthuso diogelwch ac effeithiolrwydd y polisi diogelu rhag ymbelydredd
P6 penderfynu ar yr elfennau lle mae angen datblygu’r polisi diogelu rhag ymbelydredd
P7 nodi unrhyw gyfyngiadau posibl a allai effeithio ar y broses o weithredu'r
newidiadau i’r polisi diogelu rhag ymbelydredd, ac ystyried ffyrdd o’u goresgyn
P8 sicrhau bod rhanddeiliaid perthnasol yn ymrwymo i weithredu’r newidiadau
i'r polisi diogelu rhag ymbelydredd
P9 rhoi cyngor ac arweiniad i randdeiliaid ar weithredu’r polisi diogelu rhag ymbelydredd
P10 dod o hyd i gyfleoedd addas i adolygu’r polisi diogelu rhag ymbelydredd
P11 cydymffurfio â’r holl reoliadau a safonau perthnasol, a chofnodi pob cam gweithredu a chanlyniad perthnasol yn y systemau gwybodaeth priodol
Gwybodaeth a Dealltwriaeth
You need to know and understand:
K1 dulliau cyfathrebu a chyflwyno
K2 gofynion a materion iechyd a diogelwch
K3 y diwydiant niwclear: mathau o gyfleusterau, deunyddiau a phrosesau
K4 strwythurau a gweithdrefnau'r sefydliad
K5 dulliau gwerthuso polisi
K6 materion diogelu rhag ymbelydredd
K7 ymbelydredd: mathau, ffynonellau a pheryglon
K8 ffynonellau o wybodaeth ddibynadwy am ddiogelu rhag ymbelydredd
K9 gofynion rhanddeiliaid
K10 safonau, rheoliadau a gofynion statudol, gan gynnwys rhai rhyngwladol, cenedlaethol a lleol