Dynodi ardaloedd gwaith i’w rheoli

URN: COGN 216
Sectorau Busnes (Suites): Diogelu rhag Ymbelydredd
Datblygwyd gan: Cogent
Cymeradwy ar: 2008

Trosolwg

Prif ganlyniad y gweithgaredd hwn yw dynodi ardaloedd gwaith yn ardaloedd rheoledig at ddibenion diogelu rhag ymbelydredd.

Mae’r gweithgaredd hwn yn cynnwys cael gwybodaeth a thystiolaeth am beryglon a risgiau ymbelydredd mewn ardaloedd gwaith penodol; penderfynu pa ardaloedd y mae angen eu rheoli, a sut dylai hyn ddigwydd; penderfynu ar reolau a gweithdrefnau ar gyfer cael mynediad i’r ardal reoledig a gweithgarwch yn yr ardal honno; nodi’r ardaloedd yn glir a rhoi gwybod i’r holl bobl berthnasol amdanynt; monitro cydymffurfedd â’r rheolaethau; dad-ddynodi ardaloedd pan nad oes angen y rheolaethau mwyach.

Mae’r gweithgaredd hwn yn debygol o gael ei wneud gan rywun y mae ei swydd yn canolbwyntio ar ddiogelu rhag ymbelydredd.

Mae’r uned hon yn rhoi sylw i’r canlynol:

1 Dynodi ardaloedd gwaith i’w rheoli

Yn ystod y gwaith hwn, rhaid i chi ystyried arferion gweithio diogel, gweithdrefnau a gofynion gweithredol perthnasol y man gwaith FEL Y MAEN NHW’N BERTHNASOL I CHI.

Fersiwn Flaenorol:

Addaswyd o Uned N216 y Safonau Galwedigaethol Cenedlaethol ar gyfer Diogelu rhag Ymbelydredd – fersiwn Chwefror 2006.


Meini prawf perfformiad

Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:

P1 nodi ardaloedd y gallai fod angen eu rheoli neu eu goruchwylio
P2 cael yr holl wybodaeth berthnasol a’r asesiadau risg ar y peryglon a’r gweithgareddau ymbelydredd sy’n digwydd yn yr ardal
P3 penderfynu a oes angen dynodi’r ardal yn ardal reoledig
P4 ymgynghori â’r holl randdeiliaid perthnasol ynghylch dynodi’r ardal
P5 pennu’r ffiniau a’r pwyntiau mynediad ar gyfer yr ardal reoledig
P6 pennu’r rheolau a’r gweithdrefnau ar gyfer cael mynediad i’r ardal reoledig a’r gweithgarwch o fewn yr ardal honno
P7 sicrhau bod y bobl sy’n gweithio yn yr ardal reoledig yn ymwybodol o’i statws a’i holl reolau a gweithdrefnau perthnasol
P8 sicrhau bod yr holl beryglon ymbelydredd yn cael eu nodi'n glir, a bod systemau diogelu rhag ymbelydredd yn cael eu rhoi ar waith yn gywir
P9 monitro cydymffurfedd defnyddwyr yr ardal ymbelydredd
P10 dad-ddynodi’r ardal a chael gwared ar y rheolaethau pan nad yw’n cael ei defnyddio mwyach ar gyfer gweithgareddau a allai fod yn beryglus
P11 cydymffurfio â’r holl reoliadau a safonau perthnasol, a chofnodi pob cam gweithredu a chanlyniad perthnasol yn y systemau gwybodaeth priodol


Gwybodaeth a Dealltwriaeth

You need to know and understand:

K1 dulliau cyfathrebu a chyflwyno
K2 gofynion a materion iechyd a diogelwch
K3 y diwydiant niwclear: mathau o gyfleusterau, deunyddiau a phrosesau
K4 strwythurau a gweithdrefnau'r sefydliad
K5 cyfarpar monitro ymbelydredd
K6 materion diogelu rhag ymbelydredd
K7 systemau diogelu rhag ymbelydredd
K8 ymbelydredd: mathau, ffynonellau a pheryglon
K9 dulliau o adnabod peryglon ac asesu risg
K10 ffynonellau o wybodaeth ddibynadwy am ddiogelu rhag ymbelydredd
K11 safonau, rheoliadau a gofynion statudol, gan gynnwys rhai rhyngwladol, cenedlaethol a lleol


Cwmpas/ystod


Cwmpas Perfformiad


Gwybodaeth Cwmpas


Gwerthoedd


Ymddygiadau


Sgiliau


Geirfa


Dolenni I NOS Eraill


Cysylltiadau Allanol


Fersiwn rhif


Dyddiad Adolygu Dangosol

2010

Dilysrwydd

Ar hyn o bryd

Statws

Gwreiddiol

Sefydliad Cychwynnol

Cogent

URN gwreiddiol

N216

Galwedigaethau Perthnasol

Technoleg gweithgynhyrchu a pheirianneg, Gweithwyr Proffesiynol ym maes Peirianneg

Cod SOC

3111

Geiriau Allweddol

Iechyd, ïoneiddio, niwclear, radiolegol, diogelwch, peryglon