Cynnal asesiadau risg ar weithgarwch gwyddonol neu dechnegol
Trosolwg
Mae'r safon hon yn ymdrin â'r cymwyseddau y bydd eu hangen arnoch i gynnal asesiadau risg ar weithgarwch gwyddonol neu dechnegol yn unol â gweithdrefnau ac arferion cymeradwy.
Bydd angen i chi ddangos eich bod yn gallu cynnal asesiadau risg, deall prosesau, offer, cyfarpar neu ddeunyddiau a all achosi niwed neu ddifrod i bobl, eiddo neu'r amgylchedd. Byddwch yn asesu lefel y risg, ac yn ystyried sut y gellir dileu, lliniaru neu reoli'r risgiau i leihau niwed yn unol â gweithdrefnau'r gweithle.
Mae'r gweithgarwch hwn yn debygol o gael ei wneud gan rywun mewn lleoliad gwaith sydd â chysylltiadau gwyddonol, gan gynnwys unigolion sy'n gweithio mewn ysbytai, labordai gwyddonol, ysgolion a phrifysgolion.
Meini prawf perfformiad
Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:
P1 sicrhau bod eich gwaith yn cael ei wneud yn unol â gweithdrefnau’r gweithle
P2 defnyddio arferion gweithio a chyfarpar diogelu personol (PPE) priodol pan fydd gweithgarwch gwyddonol neu dechnegol yn cael eu cyflawni
P3 nodi a chytuno ar ofynion busnes a gwyddonol neu dechnegol eich rôl yn y gweithle
P4 sefydlu prosesau sy’n cyflawni canlyniadau gwyddonol neu dechnegol sy’n seiliedig ar nodau ac amcanion sefydliadol
P5 diffinio’n eglur pam, pryd a ble fydd yr asesiad risg yn cael ei gynnal
P6 sicrhau bod gennych wybodaeth gywir a chyfoes ar y gweithgarwch gwyddonol neu dechnegol a fydd yn destun yr asesiad risg
P7 dewis dull i ganfod peryglon sy’n briodol i’r maes sy’n cael ei asesu
P8 nodi meysydd gwaith, prosesau, offer, cyfarpar neu ddeunyddiau sydd â’r potensial i achosi niwed neu ddifrod i bobl, eiddo neu’r amgylchedd
P9 asesu lefel y risg, ac ystyried sut y gellid dileu, lliniaru neu reoli’r risg i leihau niwed
P10 cynnig a chofnodi argymhellion ar gyfer delio â’r risgiau a nodwyd
P11 cyflwyno canlyniadau’r gwaith a wnaed i’r bobl briodol, yn unol â gweithdrefnau adrannol a sefydliadol
Gwybodaeth a Dealltwriaeth
You need to know and understand:
K1 gofynion iechyd a diogelwch y maes lle’r ydych yn ymgymryd â gweithgarwch gwyddonol neu dechnegol
K2 beth yw goblygiadau peidio ag ystyried deddfwriaeth, rheoliadau, safonau a chanllawiau pan fyddwch yn ymgymryd â gweithgarwch gwyddonol neu dechnegol
K3 y technegau a’r prosesau gwyddonol neu dechnegol sy’n rhaid i chi eu defnyddio’n gywir yn y gweithle
K4 pwysigrwydd gwisgo dillad diogelu, menig a chyfarpar diogelu’r llygaid mewn gweithgarwch gwyddonol neu dechnegol
K5 pwysigrwydd adnabyddiaeth gywir, ac unrhyw system godio unigryw yn y gweithle
K6 y gofynion sefydliadol er mwyn cynnal diogelwch y gweithle a chadw dogfennau cyfrinachol
K7 nodau ac amcanion busnes y gweithle a’r broses gynllunio
K8 strwythur sefydliadol y gweithle, ei werthoedd a’i ddiwylliant
K9 sut y gall eich gweithgarwch gwyddonol neu dechnegol ychwanegu gwerth drwy gyfrwng cynnyrch, gwasanaethau a phrosesau
K10 y sianelau cyfathrebu a’r cyfrifoldebau yn eich adran, a’r cysylltiadau â gweddill y sefydliad
K11 terfynau eich awdurdod, a phwy ddylech gysylltu â hwy os oes gennych broblemau na allwch eu datrys
Cynnal asesiadau risg ar weithgarwch gwyddonol neu dechnegol
K12 sut i nodi ac asesu gofynion gwyddonol neu dechnegol eich rolau gwaith
K13 y gwahanol ffyrdd o bennu eich amcanion gwaith personol
K14 y gwahanol safbwyntiau a dulliau sy’n bwysig wrth ddefnyddio hunaniaeth neu grebwyll o ran y defnydd o weithgarwch gwyddonol neu dechnegol
K15 y gwahanol fathau o ymchwiliadau yr ymgymerir â hwy ac a ddefnyddir i adolygu effeithiolrwydd neu briodoldeb dulliau, camau a chanlyniadau eich gwaith gwyddonol neu dechnegol
K16 gweithgarwch gwyddonol neu dechnegol penodol y bobl lle’r ydych yn cynnal yr asesiad risg
K17 sut i gael gwybodaeth am y gweithgarwch gwyddonol neu dechnegol, a’r rheoliadau a’r gofynion iechyd a diogelwch sydd i’w dilyn
K18 y risgiau iechyd a diogelwch penodol a all godi yn sgil y gwahanol weithgareddau yr ymgymerir â hwy, a’r rhagofalon y gellir eu cymryd
K19 y gwahanol ddulliau a’r technegau y gellir eu defnyddio i weld peryglon ac asesu diogelwch
K20 gwybod sut i ganfod peryglon a all godi yn sgil newidiadau mewn arferion gweithio
K21 sut i sicrhau bod canfod achos peryglon yn amharu ac yn achosi cyn lleied â phosibl o bryder i bobl eraill
K22 goblygiadau posibl y risgiau
K23 dulliau o ganfod peryglon ac i asesu’r tebygolrwydd y bydd y risg yn codi
K24 gwybod sut i flaenoriaethu a rheoli peryglon
K25 y mathau o ddulliau asesu risg sy’n briodol i wahanol fathau o risg
K26 dulliau o gasglu a gwerthuso gwybodaeth ar weithgarwch asesu risg
K27 technegau i ddiffinio a rheoli risgiau a ganfuwyd
K28 problemau a all ddigwydd yn ystod asesiadau risg, a sut y gellir osgoi neu gywiro’r risgiau hyn
K29 ffynonellau arbenigedd technegol a all gynghori ar asesiadau risg iechyd a diogelwch
Cwmpas/ystod
1. gwneud pob un o’r canlynol yn ystod y gweithgarwch asesu risg:
1.1 glynu wrth weithdrefnau neu systemau sydd ar waith ar gyfer COSHH, cyfarpar diogelu personol a rheoliadau diogelwch perthnasol eraill
1.2 cael y ddogfennaeth asesu risg ofynnol
1.3 sicrhau bod diben a chwmpas yr asesiad risg yn cael eu cyflawni
1.4 cael cymeradwyaeth i gynnal y gweithgarwch asesu risg gan y bobl briodol
1.5 sicrhau bod yr holl bersonél priodol yn cael gwybod am y gweithgarwch rydych yn bwriadu ei wneud
1.6 sicrhau bod cofnodion o asesiadau risg yn cael eu storio mewn ffordd sy’n addas ar gyfer archwiliadau neu ymchwiliadau yn y dyfodol
cynnal asesiad risg ar dri o’r gweithgareddau labordy canlynol:
2.1 cael samplau
2.2 defnydd o bobl ar gyfer gweithgarwch penodol
2.3 paratoi samplau
2.4 defnyddio cyfarpar ar gyfer gweithgarwch penodol
2.5 profi samplau
2.6 defnyddio deunyddiau ar gyfer gweithgarwch penodol
2.7 cael adnoddau neu gemegau
2.8 risgiau i’r amgylchedd
2.9 paratoi adnoddau neu gemegau
2.10 arall (rhowch fanylion)
2.11 profi deunyddiau neu gyfarparcynnal asesiad risg gan ddefnyddio:
3.1 arsylwi uniongyrchol ynghyd â dau o’r canlynol
3.2 rheoliadau cyflogaeth
3.3 cyfweld pobl
3.4 adroddiadau am ddamweiniau
3.5 cyngor technegol arbenigol
3.6 safonau ansawdd
3.7 gwybodaeth dechnegol gweithgynhyrchwyr /cyflenwyr
- cynnig argymhellion i ddelio â’r categorïau risg canlynol:
4.1 y rhai y mae modd eu dileu
4.2 y rhai y mae modd eu lleihau
4.3 y rhai sy’n ddigyfnewid
5. cofnodi a chyflwyno manylion am waith wedi’i wneud, i’r bobl briodol, gan ddefnyddio:
5.1 adroddiad llafar ynghyd ag un o’r canlynol:
5.2 adroddiad ysgrifenedig neu wedi’i deipio
5.3 cofnod ar gyfrifiadur
5.4 dogfennaeth sy’n benodol i’r gweithle
5.5 e-bost