Gwneud gwaith ymbelydredd
Trosolwg
Prif ganlyniad y gweithgaredd hwn yw gwneud gwaith sy’n cynnwys peryglon posibl. Mae’r gweithgaredd hwn yn cynnwys cael gwybodaeth am y gwaith y mae’n rhaid ei wneud; adnabod peryglon ymbelydredd sy’n gysylltiedig â’r gwaith; defnyddio cyfarpar diogelu personol a systemau diogelu rhag ymbelydredd; cynorthwyo cydweithwyr; gwneud y gwaith; adnabod a rhoi gwybod am unrhyw broblemau. Mae’r gweithgaredd hwn yn debygol o gael ei wneud gan rywun sy’n gweithio mewn amgylchedd lle mae diogelu rhag ymbelydredd yn bwysig.
Mae’r uned hon yn rhoi sylw i’r canlynol:
1 Gwneud gwaith ymbelydredd
Yn ystod y gwaith hwn, rhaid i chi ystyried y gofynion gweithredol perthnasol a’r arferion gweithio diogel FEL Y MAEN NHW’N BERTHNASOL I CHI.
Fersiwn flaenorol:
Uned N231 Safonau Galwedigaethol Cenedlaethol Cogent, Diogelu rhag Ymbelydredd (Cogent N231) – Medi 2008
Meini prawf perfformiad
Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:
P1 cael gwybodaeth glir am y gwaith ymbelydredd sy’n cael ei wneud
P2 nodi’r peryglon ymbelydredd sy’n rhan o’r gwaith ymbelydredd
P3 cadarnhau bod y systemau diogelu rhag ymbelydredd a ddefnyddir yn ystod y gwaith ymbelydredd yn gweithio’n iawn, a’u bod ar gael
P4 nodi a defnyddio gweithdrefnau a chyfarpar diogelu personol addas ar gyfer y peryglon ymbelydredd sy’n rhan o’r gwaith ymbelydredd
P5 helpu cydweithwyr i ddefnyddio’r gweithdrefnau a’r cyfarpar diogelu personol priodol
P6 nodi sefyllfaoedd lle na chydymffurfir â gofynion diogelwch, a rhoi gwybod i gydweithiwr priodol am hynny
P7 gwneud y gwaith ymbelydredd yn unol â’r gofynion a nodwyd
P8 glanhau’r mannau gweithio a chael gwared ar yr holl wastraff ar ôl cwblhau’r
gwaith ymbelydredd, yn unol â gweithdrefnau’r sefydliad
P9 rhoi gwybod i'r bobl briodol, yn unol â gweithdrefnau'r sefydliad,
am unrhyw broblemau gyda’r systemau diogelu rhag ymbelydredd
P10 nodi unrhyw welliannau posibl i’r ffordd y gellid gwneud y gwaith ymbelydredd
P11 cydymffurfio â’r holl reoliadau a safonau perthnasol, a chofnodi pob cam gweithredu a chanlyniad perthnasol yn y systemau gwybodaeth priodol
Gwybodaeth a Dealltwriaeth
You need to know and understand:
K1 materion a gofynion iechyd a diogelwch
K2 y diwydiant niwclear: mathau o gyfleusterau, deunyddiau a phrosesau
K3 strwythurau a gweithdrefnau'r sefydliad
K4 systemau diogelu rhag ymbelydredd
K5 ymbelydredd: mathau, ffynonellau a pheryglon
K6 ffynonellau o wybodaeth ddibynadwy am ddiogelu rhag ymbelydredd
K7 safonau, rheoliadau a gofynion statudol, gan gynnwys rhai rhyngwladol, cenedlaethol a lleol
Cwmpas/ystod
Cwmpas Perfformiad
Gwybodaeth Cwmpas
Gwerthoedd
Ymddygiadau
Sgiliau
Geirfa
Gwybodaeth Ychwanegol
Math o Gyfarpar
Llaw, mecanyddol, electronig
Mathau o Ddeunyddiau
Metel, pren, plastigion, finyl, polystyren, pren cyfansawdd ac ati.
Mathau o Offer Torri Llafnau, cyllyll, ebillion (bits)
Dulliau Gosod, Hoelio a Bolltio
Jigiau, clampiau, deunyddiau gosod
Personél Perthnasol
Rheolwr llinell, goruchwyliwr, arweinydd tîm ac ati.
Gofynion Perthnasol ym maes Iechyd a Diogelwch a’r Amgylchedd
Beth yw eich cyfrifoldebau o ran gofynion, deddfwriaethau, rheoliadau, arferion gweithio diogel, gweithdrefnau lleol, cenedlaethol a rhai’r sefydliad/sy’n benodol i safle yng nghyswllt iechyd a diogelwch a’r amgylchedd
Deunydd Templed Anhyblyg, hyblyg