Cynhyrchu Model Costau ar gyfer Proses Bioweithgynhyrchu
Trosolwg
Mae’r uned hon yn disgrifio’r cymwyseddau sydd eu hangen i ddatblygu ac yna i weithredu egwyddorion a phrosesau modelu costau yn achos biobroses. Bydd disgwyl i chi ddeall elfennau cost allweddol biobroses, a phennu amcanion a thargedau mesuradwy i wella’r broses weithgynhyrchu.
Bydd angen i chi allu dadansoddi gwahanol gamau biobrosesau, nodi a dyrannu costau pob un o’r camau hyn, a nodi’r gweithgarwch sydd ac sydd ddim yn ychwanegu gwerth at y biobroses. Bydd disgwyl i chi nodi gwelliannau priodol, blaenoriaethau a sgorio’r opsiynau amgen, a disgrifio’r buddiannau disgwyliedig. Bydd angen i chi ddatblygu’r opsiynau amgen hyn ar ffurf cynigion manwl a fydd yn gwella’r biobroses, a chynnig argymhellion i gael eu cymeradwyo gan y rheolwyr.
Mae’r gweithgarwch hwn yn debygol o gael ei gyflawni gan rywun y mae ei rôl yn gyfrifol am weithgarwch gwaith peirianyddol proses mewn amgylchedd biocemegol. Gallai hyn gynnwys unigolion sy’n gweithio yn y diwydiannau canlynol: Cemegol, Fferyllol a Gwyddorau Bywyd.
Meini prawf perfformiad
Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:
P1 canfod yr hyn sydd ei angen o’r biobroses, a phennu amcanion a thargedau mesuradwy ar gyfer gwella
P2 nodi’r ffactorau sy’n rheoli costau sy’n gysylltiedig â’r biobroses
P3 dyrannu costau i wahanol weithgarwch y biobroses
P4 datblygu a chynnal model costau ar gyfer y biobroses
P5 dadansoddi perfformiad gwahanol weithgarwch y biobroses a chysoni â’r model costau cost model
P6 canfod prosesau newydd sy’n ychwanegu gwerth i wella’r biobroses
P7 canfod y gweithgarwch o fewn y broses nad ydynt yn ychwanegu gwerth, ac awgrymu gwelliannau
P8 datblygu gwelliannau a nodwyd i fod yn gynigion manwl a fydd yn gwella gwerth y cynnyrch neu’r broses
P9 meintioli cost y buddsoddiad a buddiannau disgwyliedig y gwelliannau a gwneud argymhellion priodol wedi’u costio i’r rheolwyr
Gwybodaeth a Dealltwriaeth
You need to know and understand:
K1 gwybod sut mae cynhyrchu model cyfanswm costau ar gyfer biobroses sy’n dangos sut mae costau wedi’u cysylltu â gweithgarwch proses
K2 gwybod sut mae’r model costau’n gysylltiedig â’r strategaeth fusnes gyffredinol a’r sefyllfa gystadleuol
K3 gwybod sut mae cyfrifo cost gweithgarwch biobroses
K4 effaith amgylchedd biobroses aseptig, rheoli ansawdd cynnyrch a rheoliadau ar y model costau
K5 yr hyn sy’n cyfrif fel gweithgarwch sydd ac nad yw’n ychwanegu gwerth
K6 technegau penderfynu a chreadigrwydd (sesiynau taflu syniadau) i ddatblygu opsiynau amgen ar gyfer gweithgarwch biobroses
K7 sut mae dadansoddi proffidioldeb buddsoddiad rhagamcanol i gymharu gwahanol brosesau ac i wneud penderfyniadau buddsoddi
K8 sut i flaenoriaethu a sgorio opsiynau amgen
K9 sut i ddatblygu canfyddiadau fel cynigion i’w cyflwyno i’r penderfynwyr ymhlith y rheolwyr
K10 sut mae cwblhau asesiad risg o’r opsiynau amgen
K11 sut i fonitro ac olrhain cynigion hyd eu gweithredu
K12 graddfa eich awdurdod eich hun a phwy y dylech eu hysbysu os oes gennych chi broblemau na allwch eu datrys