Gwneud Gwaith Modelu ac Efelychu Cyfrifiadurol o Broses Fioweithgynhyrchu
Trosolwg
Mae’r safon hon yn nodi’r cymwyseddau y dydd eu hangen arnoch er mwyn defnyddio modelau cyfrifiadurol i ddatblygu biobrosesau newydd ac i optimeiddio rhai presennol.
Bydd disgwyl i chi adnabod neu ddatblygu modelau cyfrifiadurol priodol i efelychu gweithgynhyrchu cynnyrch biolegol presennol/newydd, yn unol â gweithdrefnau ac arferion cymeradwy. Bydd angen i chi redeg modelau cyfrifiadurol i ddatblygu proses newydd neu i uwchraddio proses bresennol. Pan fydd hynny'n gymwys byddwch yn cymharu allbynnau’r model â data proses wirioneddol ac yn addasu’r model fel sy’n briodol. Bydd disgwyl i chi hefyd gyflwyno cofnodion a manylion am eich gwaith modelu i’r bobl briodol.
Byddwch yn deall sut mae proses fioweithgynhrychu yn gweithredu ynghyd â’r dyluniad, y gweithrediadau a’r prosesau rheoli penodol sy’n gymwys. Byddwch hefyd yn deall egwyddorion gweithrediad y cyfarpar a ddefnyddir, y defnydd a fwriadwyd ar ei gyfer, ei alluoedd a’r cyfyngiadau. Bydd hyn yn eich galluogi i fabwysiadu dull sy’n seiliedig ar wybodaeth i ddefnyddio technegau modelu mewn amgylchedd biobroses.
Mae’r gweithgarwch hwn yn debygol o gael ei gyflawni gan rywun â chefndir o beirianneg proses mewn amgylchedd bioweithgynhyrchu ac sy’n gyfarwydd â modelu cyfrifiadurol. Gallai hyn gynnwys unigolion sy’n gweithio yn y diwydiannau canlynol, Cemegol, Fferyllol a Gwyddorau Bywyd.
Meini prawf perfformiad
Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:
P1 cael gwybodaeth gywir ar ofynion proses fioweithgynhrychu newydd neu un sydd wedi’i gwella
P2 nodi unrhyw nodweddion unigryw neu benodol o’r broses fioweithgynhyrchu y mae angen eu hystyried i sicrhau ei bod yn cydymffurfio â’r holl reoliadau, cyfarwyddebau safonau neu godau ymarfer perthnasol
P3 nodi unrhyw becynnau meddalwedd addas y gellir eu defnyddio i fodelu’r fiobroses
P4 cael cyngor ac arweiniad addas i helpu gyda’r gwaith modelu
P5 defnyddio’r cyfarpar, caledwedd a’r meddalwedd priodol i fodelu’r broses fioweithgynhyrchu
P6 penderfynu gyda’r busnes ar y prif allbynnau gofynnol o’r ymarferiad modelu a chadarnhau a chytuno gyda'r ddealltwriaeth o’r gofynion â’r sawl sy’n gyfrifol am y broses fiobroses
P7 rhedeg y model cyfrifiadurol a gwerthuso’r canlyniadau yn erbyn y prif allbynnau gofynnol y cytunwyd arnynt
P8 gwneud addasiadau i’r model yn seiliedig ar ddata proses wirioneddol
P9 defnyddio gwybodaeth y gwaith modelu i helpu i ddylunio, uwchraddio, rheoli neu wella’r broses fiogemegol
P10 canfod unrhyw risgiau posibl drwy’r ymarferiad modelu cyfrifiadurol
P11 rhannu canlyniadau’r ymarferiad modelu â phobl berthnasol yn unol â gweithdrefnau sefydliadol
P12 cofnodi’r holl wybodaeth berthnasol yn y systemau gwybodaeth priodol i’w defnyddio yn y dyfodol
Gwybodaeth a Dealltwriaeth
You need to know and understand:
K1 y rhagofalon diogelwch penodol sydd angen eu cymryd wrth weithio â systemau cyfrifiadurol
K2 egwyddorion cyffredinol y broses fioweithgynhyrchu gan gynnwys rheoliadau, cyfarwyddebau safonau neu godau ymarfer perthnasol
K3 egwyddorion modelu cyfrifiadurol, y pecynnau meddalwedd sydd ar gael a’r defnydd ohonynt i fodelu prosesau gweithgynhyrchu
K4 y safonau a’r confensiynau cenedlaethol, rhyngwladol a sefydliadol a ddefnyddir ar gyfer modelau cyfrifiadurol
K5 dyluniad, gweithrediad a rheolaeth proses fioweithgynhyrchu a sut y gall modelu cyfrifiadurol helpu â dealltwriaeth a datblygiad y broses weithgynhyrchu
K6 nodweddion unigryw neu benodol proses fioweithgynhyrchu a pham mae’n bwysig cadw’r rhain mewn cof
K7 gwybod sut i gael gafael ar y meddalwedd cyfrifiadurol penodol a ddefnyddir, a’r defnydd o lawlyfrau a dogfennau cysylltiedig meddalwedd i helpu i weithredu’r system berthnasol yn effeithlon
K8 y cyfarpar a’r dulliau a ddefnyddir i gynhyrchu modelau cyfrifiadurol
K9 y dulliau a’r technegau a ddefnyddir i ddilysu dyluniadau, gweithrediadau a phrosesau rheoli biobroses gan ddefnyddio modelau cyfrifiadurol
K10 y defnydd o efelychiad prosesau yn natblygiad biobroses newydd neu i uwchraddio proses newydd
K11 pwysigrwydd cymharu data proses ag allbynnau model cyfrifiadurol a’r technegau i ailgalibradu’r model i ddilysu gweithrediadau a phrosesau rheoli biobroses
K12 sut i gynnal asesiad risg o’r allbynnau amrywiol o ymarferiad modelu, a nodi cynlluniau wrth gefn cysylltiedig i leihau eu heffaith
K13 sut i ddelio â phroblemau systemau cyfrifiadurol
K14 pwy i droi atynt am gyngor, a beth yw natur eu diddordeb
K15 systemau gwybodaeth a dogfennau a’r angen i reoli dogfennau a data’n effeithiol
K16 y sianelau cyfathrebu a’r cyfrifoldebau yn eich adran, a’u cysylltiadau â gweddill y sefydliad
K17 cyfyngiadau eich awdurdod chi, a phwy ddylech chi gysylltu â hwy os oes gennych broblemau na allwch eu datrys