Gwerthuso darpariaeth dysgu a datblygu a'i gwella
Trosolwg
Mae'r safon hon yn ymwneud â gwerthuso darpariaeth dysgu a datblygu a chynllunio/gweithredu gwelliannau mewn ansawdd.
Meini prawf perfformiad
Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:
- nodi diben a chwmpas y gwerthusiad
- nodi gofynion ansawdd a dulliau priodol o fesur perfformiad
- nodi dulliau ar gyfer monitro, casglu, rheoli a dadansoddi data
- casglu a dadansoddi data yn unol â gweithdrefnau monitro a nodwyd
- nodi cryfderau a meysydd i'w gwella
- gwerthuso eich cyfraniad at weithio o fewn systemau ansawdd
- gwneud yn siŵr bod gwelliannau posibl yn realistig ac yn gyraeddadwy
- gweithio gydag eraill i gynllunio gwelliannau i ddysgu a datblygu a'u rhoi ar waith
- monitro a gwerthuso effaith gwelliannau
Gwybodaeth a Dealltwriaeth
You need to know and understand:
- y gofynion sefydliadol, cyfreithiol a phroffesiynol y dylid eu dilyn wrth gynllunio rhaglenni dysgu a datblygu
- prif gysyniadau ac egwyddorion sicrhau ansawdd a gwella'n barhaus
- y gofynion ansawdd sy'n briodol i gyd-destun eich gwaith a'ch rôl
- sut i ymchwilio a chael y wybodaeth ddiweddaraf am ofynion ansawdd sy'n berthnasol i ddysgu a datblygu
- y safonau a gydnabyddir gan y diwydiant sy'n berthnasol i ddysgu a datblygu, a'r prosesau a'r gweithgareddau sy'n cyflawni rhagoriaeth yn y cyd-destun gwaith sy'n cael ei werthuso
- sut i nodi dangosyddion perfformiad sy'n berthnasol i'r maes dysgu a datblygu sy'n cael ei werthuso
- sut i osod targedau realistig, y cyfraniad y gall targedau ei wneud i brosesau gwerthuso, a'r anfanteision sy'n gysylltiedig â gwaith a yrrir gan dargedau
- cryfderau a gwendidau gwahanol ddulliau monitro a chasglu gwybodaeth, a sut i ddatblygu a gweinyddu'r dulliau hyn
- ystod, maint ac amlder y data ansoddol a meintiol y mae angen ei gasglu a'i ddadansoddi i roi gwybodaeth ddilys am ansawdd
- y cyfraniad y gall technoleg ei wneud at y broses fonitro a gwerthuso
- egwyddorion rheoli gwybodaeth a sut i sefydlu systemau monitro a rheoli data ansoddol a meintiol
- prosesau, gweithdrefnau a dulliau sy'n gysylltiedig â dadansoddi a dehongli data
- beth i'w fonitro at ddibenion penodol a sut i'w gofnodi a'i storio
- sut i gyfrannu at brosesau hunanasesu a gwerthuso
- rôl a swyddogaethau unigolion a thimau o ran gwella ansawdd a chodi safonau
- pwysigrwydd cynnwys y dysgwr mewn gwaith gwella ansawdd
- sut i annog y dysgwr i gyfrannu at werthuso dysgu
- effaith yr amgylchedd dysgu ehangach ar brofiad y dysgwr
- sut i ddefnyddio adborth i ddatblygu eich arferion sy'n benodol i'r systemau ansawdd perthnasol
- sut i weithredu ar ddeilliannau sicrhau ansawdd, gan gynnwys gwerthuso
- sut i gyfrannu at gynlluniau gwella ansawdd
- sut i weithio gyda'r rhai sy'n ymwneud â'r broses ddysgu i ddylanwadu ar wella ansawdd a'i roi ar waith
- y ddeddfwriaeth cyfrinachedd a diogelu data sy'n berthnasol i gasglu a storio gwybodaeth ym meysydd dysgu a datblygu
- materion sy'n ymwneud â chydraddoldeb ac amrywiaeth a allai effeithio ar werthuso darpariaeth a'i gwella, a sut i fynd i'r afael â'r rhain
Cwmpas/ystod
Cwmpas Perfformiad
Gwybodaeth Cwmpas
Gwerthoedd
Ymddygiadau
Sgiliau
Geirfa
Amrywiaeth
Cydnabod bod pob unigolyn yn unigryw, a chydnabod ein gwahaniaethau unigol e.e. o ran diwylliant, gallu, rhywedd, hil, crefydd, cyfoeth, cyfeiriadedd rhywiol, neu unrhyw nodwedd unigol arall.
Amgylchedd
Mae hyn yn cynnwys yr amgylchedd ffisegol lle mae dysgu a datblygu yn digwydd ond mae hefyd yn cynnwys deinameg ac ymddygiad grwpiau.
Cydraddoldeb
Yr hawl sydd gan bawb i gael eu trin yn deg beth bynnag fo'r gwahaniaethau rhyngddynt e.e. o ran diwylliant, gallu, rhywedd, hil, crefydd, cyfoeth, cyfeiriadedd rhywiol, neu unrhyw nodwedd grŵp arall.
Tystiolaeth
Gallai hyn, er enghraifft, fod yn gynnydd dysgwyr, cyrhaeddiad dysgwyr, boddhad dysgwyr, ymgysylltu â staff, yn unol â'r hyn sy'n briodol i'r dangosyddion ansawdd.
Amgylchedd dysgu
Mae hyn yn cynnwys ystod o amgylcheddau dysgu yn ogystal â phlatfformau, dulliau ac ymagweddau cyflwyno. Gall fod ar-lein neu wyneb yn wyneb.
Proses ddysgu
Gall hyn gynnwys profiad, fel amser yn y gweithle, yn ogystal â hyfforddiant ffurfiol ac anffurfiol.
Deilliannau
Gallai'r rhain fod yn ddeilliannau i'r grŵp cyfan - er enghraifft galluogi effeithiolrwydd tîm - a/neu ddeilliannau i'r unigolion sy'n ffurfio'r grŵp — er enghraifft caffael sgiliau unigol.
Arferion
Mae hyn yn cyfeirio at y 'ffordd' rydych chi'n gwneud eich gwaith ac mae'n ystyried ffactorau fel eich dull o weithio.
Gofynion ansawdd
Gallai'r rhain fod, er enghraifft, yn ofynion sefydliadol, cyfreithiol/statudol, gofynion o ran cyllid neu'n ofynion gan sefydliadau dyfarnu.
Cwmpas y polisi
Beth fydd y gwerthusiad yn ei gynnwys.
Technoleg
Mae hyn yn cyfeirio at galedwedd ac offer/apiau ar-lein y gellir eu defnyddio wrth gyflwyno rhaglenni dysgu a'u hasesu.
Cywir
Yn berthnasol i'r meini prawf y mae'r ymgeisydd yn cael ei asesu yn eu herbyn.