Monitro a chynnal ansawdd yr asesiad yn allanol

URN: CLDLD12
Sectorau Busnes (Cyfresi): Dysgu a Datblygu
Datblygwyd gan: CLD Standards Council Scotland
Cymeradwy ar: 2021

Trosolwg

Mae'r safon hon yn ymwneud â monitro prosesau asesu a phenderfyniadau o'r tu allan i sefydliad, a helpu i gynnal systemau sicrhau ansawdd perthnasol a'u gwella.


Meini prawf perfformiad

Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:

  1. paratoi ar gyfer y broses ddilysu allanol drwy sicrhau bod yr holl wybodaeth berthnasol wedi'i nodi, ei chasglu a'i defnyddio
  2. sefydlu strategaeth samplu briodol i fodloni gofynion y broses asesu allanol a sicrhau ansawdd.
  3. cytuno ar y cynllun ar gyfer sicrhau ansawdd allanol gyda phartïon perthnasol.
  4. cadarnhau bod aseswyr a staff sicrhau ansawdd mewnol yn bodloni gofynion galwedigaethol a chymwysterau cyfredol
  5. cadarnhau bod cynlluniau sicrhau ansawdd mewnol a threfniadau gweinyddol yn bodloni'r gofynion cyfredol
  6. cadarnhau bod trefniadau asesu, dulliau a phenderfyniadau yn bodloni gofynion
  7. samplu asesiadau a gweithgarwch sicrhau ansawdd mewnol
  8. rhoi cyngor a chymorth i helpu i wella trefniadau ac arferion sicrhau ansawdd ac asesu mewnol
  9. gweithio gyda'r rhai sy'n sicrhau ansawdd yn fewnol ac eraill i gefnogi'r gwaith o safoni arferion asesu a deilliannau
  10. dilyn y gweithdrefnau y cytunwyd arnynt pan nad yw trefniadau ac arferion sicrhau ansawdd ac asesu mewnol yn bodloni gofynion
  11. dilyn gweithdrefnau y cytunwyd arnynt ar gyfer cofnodi, storio ac adrodd gwybodaeth a'i chadw'n gyfrinachol
  12. cymryd rhan mewn gweithgareddau sicrhau ansawdd ehangach sy'n cyfrannu at ansawdd asesu ac sy'n cefnogi eich datblygiad eich hun
  13. myfyrio ar eich arferion a nodi anghenion datblygiad proffesiynol

Gwybodaeth a Dealltwriaeth

You need to know and understand:

  1. y gofynion sefydliadol, cyfreithiol a phroffesiynol y dylid eu dilyn wrth gynllunio rhaglenni/asesiadau dysgu a datblygu
  2. y cysyniadau a'r egwyddorion allweddol sy'n gysylltiedig ag asesu
  3. y cysyniadau a'r egwyddorion allweddol sy'n gysylltiedig â sicrhau ansawdd
  4. rôl yr asesydd a'r staff sicrhau ansawdd mewnol a'r gofynion perthnasol cyfredol i ymgymryd â'r rolau hyn
  5. y safonau galwedigaethol cenedlaethol ar gyfer asesu yn y gweithle a dilysu mewnol
  6. egwyddorion a thechnegau samplu wrth fonitro asesiadau a phenderfyniadau mewnol ynghylch sicrhau ansawdd
  7. y gofynion y mae'n rhaid eu bodloni ar hyn o bryd ar gyfer sicrhau ansawdd mewnol ac allanol
  8. y gofynion y mae'n rhaid eu bodloni ar hyn o bryd ar gyfer trefniadau ac arferion asesu mewnol
  9. sut i fonitro a gwerthuso trefniadau ac arferion sicrhau ansawdd mewnol, gan gynnwys defnyddio technoleg
  10. sut i fonitro a gwerthuso trefniadau ac arferion asesu mewnol, gan gynnwys defnyddio technoleg
  11. y gweithdrefnau i'w dilyn pan nad yw trefniadau sicrhau ansawdd ac asesu mewnol yn bodloni gofynion
  12. y mathau o gymorth a chyngor sydd eu hangen ar sefydliadau ynghylch trefniadau ac arferion sicrhau ansawdd ac asesu mewnol
  13. pwysigrwydd rhoi cymorth a chyngor cyson sy'n dilyn canllawiau a gofynion y cytunwyd arnynt
  14. sut i addasu dulliau monitro a gwerthuso pan fo angen heb effeithio ar safonau
  15. materion sy'n ymwneud â chydraddoldeb ac amrywiaeth a allai effeithio ar asesu a sicrhau ansawdd a sut i fynd i'r afael â'r rhain
  16. gwahanol ddulliau o roi cymorth a chyngor priodol yn unol â chanllawiau'r sefydliad
  17. gweithdrefnau cadw cofnodion sy'n ymwneud â sicrhau ansawdd allanol
  18. y gofynion ar gyfer rheoli gwybodaeth sy'n ymwneud â sicrhau ansawdd allanol
  19. y gofynion ar gyfer diogelu data a chyfrinachedd mewn perthynas â sicrhau ansawdd allanol
  20. gwerth a diben datblygiad proffesiynol parhaus i ymarferwyr asesu a sicrhau ansawdd

Cwmpas/ystod


Cwmpas Perfformiad


Gwybodaeth Cwmpas


Gwerthoedd


Ymddygiadau


Sgiliau


Geirfa

Dull asesu

Ffyrdd o fesur dysgu a datblygu, er enghraifft, arsylwi, cwestiynu, gwirio cynhyrchion gwaith, gosod aseiniadau.

Cyfredol

Dylai'r dystiolaeth gyfredol ganiatáu i benderfyniadau gael eu gwneud yn hyderus ynghylch pa mor gyfredol yw'r sgiliau a gwybodaeth a honnir, a bod yr ymgeisydd yn gymwys ar y pwynt asesu.

Amrywiaeth

Cydnabod bod pob unigolyn yn unigryw, a chydnabod ein gwahaniaethau unigol e.e. o ran diwylliant, gallu, rhywedd, hil, crefydd, cyfoeth, cyfeiriadedd rhywiol, neu unrhyw nodwedd unigol arall.

Cydraddoldeb

Yr hawl sydd gan bawb i gael eu trin yn deg beth bynnag fo'r gwahaniaethau rhyngddynt e.e. o ran diwylliant, gallu, rhywedd, hil, crefydd, cyfoeth, cyfeiriadedd rhywiol, neu unrhyw nodwedd grŵp arall.

Sefydliad

Er enghraifft, sefydliad dyfarnu, adran fewnol neu unrhyw sefydliad arall sy'n ymwneud â chyflwyno a/neu asesu dysgu a datblygu.

Deilliannau

Gallai'r rhain fod yn ddeilliannau i'r grŵp cyfan - er enghraifft galluogi effeithiolrwydd tîm - a/neu ddeilliannau i'r unigolion sy'n ffurfio'r grŵp — er enghraifft caffael sgiliau unigol.

Arferion

Mae hyn yn cyfeirio at y 'ffordd' rydych chi'n gwneud eich gwaith ac mae'n ystyried ffactorau fel eich dull o weithio.

Rôl

Defnyddir hwn i ddisgrifio'r swydd yr ydych wedi eich contractio i'w chyflawni a'r gwaith y mae'n rhaid i chi ei wneud.

Cymhwysedd staff

Gallai hyn gynnwys meddu ar gymhwyster asesydd a/neu fod yn arbenigwr yn y pwnc sy'n cael ei asesu.

Technoleg

Mae hyn yn cyfeirio at galedwedd ac offer/apiau ar-lein y gellir eu defnyddio wrth gyflwyno rhaglenni dysgu a'u hasesu.


Dolenni I NOS Eraill


Cysylltiadau Allanol


Fersiwn rhif


Dyddiad Adolygu Dangosol

2026

Dilysrwydd

Ar hyn o bryd

Statws

Gwreiddiol

Sefydliad Cychwynnol

Lifelong Learning UK

URN gwreiddiol

LaD12

Galwedigaethau Perthnasol

Addysg a hyfforddiant, Gweithwyr Addysgu Proffesiynol, Addysgu a darlithio, Gweithiwr Gwasanaethau Cyhoeddus Proffesiynol, Cymorth dysgu uniongyrchol

Cod SOC

3574

Geiriau Allweddol

anghenion dysgu cyfunol, anghenion datblygu, ffocws dysgu, nodi anghenion dysgu, dysgu, dadansoddi anghenion dysgu, blaenoriaethu anghenion dysgu, anghenion hyfforddi, cyfrinachedd dysgwyr, ymarferwyr datblygu dysgu