Monitro a chynnal ansawdd asesiadau yn fewnol
Trosolwg
Mae'r safon hon yn ymwneud â monitro prosesau asesu a phenderfyniadau mewn sefydliad, yn ogystal â helpu i gynnal ansawdd yr asesu a'i wella.
Meini prawf perfformiad
Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:
- paratoi ar gyfer y broses ddilysu fewnol drwy sicrhau bod yr holl wybodaeth berthnasol wedi'i nodi, ei chasglu a'i defnyddio.
- sefydlu strategaeth samplu briodol i fodloni gofynion y broses asesu a sicrhau ansawdd
- cadarnhau bod asesydd/aseswyr yn bodloni gofynion strategaeth asesu berthnasol a bod cynlluniau asesu yn briodol
- cynllunio'r gwaith o weithredu strategaeth samplu a gweithgareddau monitro
- paratoi gweithgareddau monitro yn unol â gofynion y strategaeth samplu
- penderfynu a yw prosesau a systemau asesu yn bodloni ac yn gweithredu yn unol â gofynion perthnasol o ran sicrhau ansawdd a rheoleiddio
- gwirio bod asesiadau'n cael eu cynllunio, eu paratoi a'u cynnal yn unol ag egwyddorion gweithdrefnau asesu y cytunwyd arnynt
- gwneud yn siŵr bod dulliau asesu yn ddilys, yn ddibynadwy, yn gadarn ac yn gyfredol
- samplu penderfyniadau aseswyr i sicrhau eu bod yn gyson, yn ddibynadwy ac yn ddilys ac yn bodloni'r gofynion asesu
- rhoi adborth, cyngor a chymorth i aseswyr i'w helpu i gynnal eu harferion asesu a'u gwella
- gweithio gydag aseswyr ac eraill i sicrhau bod arferion a deilliannau asesu wedi'u safoni
- dilyn gweithdrefnau y cytunwyd arnynt pan fo pryderon o bwys ynghylch ansawdd yr asesiad
- dilyn gweithdrefnau y cytunwyd arnynt ar gyfer cofnodi, storio ac adrodd gwybodaeth a'i chadw'n gyfrinachol
- Cymryd rhan mewn gweithgareddau sicrhau ansawdd ehangach sy'n cyfrannu at ansawdd asesu ac sy'n cefnogi eich datblygiad eich hun
- myfyrio ar eich arferion a nodi anghenion datblygiad proffesiynol
Gwybodaeth a Dealltwriaeth
You need to know and understand:
- y gofynion sefydliadol, cyfreithiol a phroffesiynol y dylid eu dilyn wrth gynllunio rhaglenni dysgu a datblygu
- y gofynion ansawdd cyfredol ar gyfer prosesau a systemau asesu ym maes eich cyfrifoldeb
- y cysyniadau a'r egwyddorion allweddol sy'n gysylltiedig â sicrhau ansawdd
- y cysyniadau a'r egwyddorion allweddol sy'n gysylltiedig ag asesu
- rôl yr aseswr a gofynion perthnasol y rôl
- rolau'r rhai sy'n ymwneud â chynnal ansawdd asesu a gofynion perthnasol y rolau hyn
- y gweithdrefnau y cytunwyd arnynt ar gyfer cynllunio asesiadau, paratoi ar eu cyfer a'u cynnal
- technegau ar gyfer samplu tystiolaeth o asesu, gan gynnwys defnyddio technoleg yn briodol
- meini prawf priodol ar gyfer asesu ansawdd y broses asesu
- sut i sicrhau bod iechyd a diogelwch y dysgwr yn cael ei gynnal yn ystod yr asesiad
- defnyddiau, manteision ac anfanteision gwahanol ddulliau asesu
- y mathau o adborth, cymorth a chyngor sydd eu hangen ar aseswyr a sut i ddiwallu'r anghenion hyn
- materion sy'n ymwneud â chydraddoldeb ac amrywiaeth a allai effeithio ar asesu a sicrhau ansawdd, a sut i fynd i'r afael â'r rhain
- gweithdrefnau i'w dilyn pan fydd pryderon am ansawdd yr asesiad: pryd a sut i'w defnyddio
- prosesau safoni a sut i gydlynu a chyfrannu at y rhain
- y gweithdrefnau i'w dilyn pan fydd anghydfodau ynghylch asesu a sicrhau ansawdd
- y gweithdrefnau i'w dilyn wrth gynllunio a pharatoi ar gyfer, cyflawni a chofnodi gweithgarwch monitro
- y gofynion ar gyfer rheoli gwybodaeth, diogelu data a chyfrinachedd mewn perthynas ag asesu a sicrhau ansawdd
- gwerth a diben datblygiad proffesiynol parhaus i ymarferwyr asesu a sicrhau ansawdd
Cwmpas/ystod
Cwmpas Perfformiad
Gwybodaeth Cwmpas
Gwerthoedd
Ymddygiadau
Sgiliau
Geirfa
Dull asesu
Ffordd o gynhyrchu tystiolaeth o wybodaeth a/neu sgiliau ymgeisydd. Ffyrdd o fesur dysgu a datblygu, er enghraifft, arsylwi, cwestiynu, gwirio cynhyrchion gwaith, gosod aseiniadau.
Gofynion Asesu
Term eang a ddefnyddir i gynnwys meini prawf asesu, strategaethau asesu, tasgau asesu.
Strategaeth Asesu
Dull rheoli ansawdd ar gyfer cymwysterau galwedigaethol a allai gynnwys gwybodaeth fel cwmpas cyffredinol y strategaeth, cymwysterau cysylltiedig, gwybodaeth am sicrhau ansawdd, meini prawf tystiolaeth, a gofynion o ran cymwysterau i aseswyr a dilyswyr ym maes y pwnc. Mae strategaethau asesu ar gael ar wefannau cyrff dyfarnu neu sefydliadau sgiliau sector perthnasol.
Dilys
Gwaith yr ymgeisydd ei hun.
Ymgeisydd
Y dysgwr yn cael ei asesu.
Cyfredol
Dylai'r dystiolaeth gyfredol ganiatáu i benderfyniadau gael eu gwneud yn hyderus ynghylch pa mor gyfredol yw'r sgiliau a gwybodaeth a honnir, a bod yr ymgeisydd yn gymwys ar y pwynt asesu.
Cydraddoldeb
Triniaeth deg sy'n hawl i bawb waeth beth fo'r gwahaniaethau o ran diwylliant, gallu, hil, rhyw, crefydd, cyfoeth, cyfeiriadedd rhywiol, neu unrhyw nodwedd grŵp arall.
Tystiolaeth
Gallai hyn, er enghraifft, fod yn gynnydd dysgwyr, cyrhaeddiad dysgwyr, boddhad dysgwyr, ymgysylltu â staff, yn unol â'r hyn sy'n briodol i'r dangosyddion ansawdd.
Amrywiaeth
Cydnabod bod pob unigolyn yn unigryw, a chydnabod ein gwahaniaethau unigol o ran diwylliant, gallu, rhyw, hil, crefydd, cyfoeth, cyfeiriadedd rhywiol, neu unrhyw nodwedd unigol arall.
Iechyd a diogelwch
Mae hyn yn cynnwys iechyd a diogelwch corfforol yn ogystal â lles emosiynol.
Sefydliad
Er enghraifft, sefydliad dyfarnu, adran fewnol neu unrhyw sefydliad arall sy'n ymwneud ag asesu.
Deilliannau
Gallai'r rhain fod yn ddeilliannau i'r grŵp cyfan - er enghraifft galluogi effeithiolrwydd tîm - a/neu ddeilliannau i'r unigolion sy'n ffurfio'r grŵp — er enghraifft caffael sgiliau unigol.
Arferion
Mae hyn yn cyfeirio at y 'ffordd' rydych chi'n gwneud eich gwaith ac mae'n ystyried ffactorau fel eich dull o weithio.
Gofynion ansawdd
Gallai'r rhain fod, er enghraifft, yn ofynion sefydliadol, cyfreithiol/statudol, gofynion o ran cyllid neu'n ofynion gan sefydliadau dyfarnu.
Dibynadwy
Yn cyflawni'r un canlyniadau yn gyson gyda'r un grŵp (neu grŵp tebyg) o ddysgwyr.
Gofynion ar gyfer eu rôl
Gallai hyn gynnwys meddu ar gymhwyster asesydd a/neu fod yn arbenigwr yn y pwnc sy'n cael ei asesu.
Cadarn
Mae tystiolaeth gadarn yn gallu gwrthsefyll beirniadaeth ac mae modd cyfiawnhau ei defnydd yn hawdd.
Rôl
Defnyddir hwn i ddisgrifio'r swydd yr ydych wedi eich contractio i'w chyflawni a'r gwaith y mae'n rhaid i chi ei wneud.
Digonol
Digon o dystiolaeth fel y nodir yn y Gofynion o ran Tystiolaeth neu'r Strategaeth Asesu.
Cywir
Yn berthnasol i'r meini prawf y mae'r ymgeisydd yn cael ei asesu yn eu herbyn.