Myfyrio ar eich sgiliau a'ch arferion eich hun o ran dysgu a datblygu
Trosolwg
Mae'r safon hon yn ymwneud â myfyrio ar arferion cyfredol, nodi eich anghenion dysgu a datblygu eich hunain a chymryd rhan mewn datblygiad proffesiynol parhaus.
Meini prawf perfformiad
Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:
- nodi'r gofynion perfformiad cyfredol sy'n berthnasol i'ch arferion
- nodi tueddiadau a datblygiadau sy'n berthnasol i'ch sgiliau, eich gwybodaeth a'ch arferion
- nodi sut mae eich credoau a'ch agweddau yn dylanwadu ar eich arferion a myfyrio arnynt yn feirniadol
- gofyn am adborth, casglu gwybodaeth a myfyrio'n barhaus ar eich perfformiad
- asesu i ba raddau y mae eich arferion yn gynhwysol ac yn hyrwyddo cydraddoldeb ac amrywiaeth
- adolygu a gwerthuso eich sgiliau, eich gwybodaeth a'ch arferion yn erbyn y wybodaeth sydd ar gael
- blaenoriaethu meysydd i'w datblygu a chynllunio sut y cyflawnir dysgu a datblygu
- hysbysu unigolion perthnasol a defnyddio systemau priodol i adrodd ar ffactorau sy'n effeithio'n negyddol ar eich arferion a mynd i'r afael â nhw
- cael gafael ar y cyfleodd datblygu sydd eu hangen i chi allu wneud eich gwaith yn fwy effeithiol a defnyddio ystod o adnoddau'n barhaus i gadw eich gwybodaeth, eich sgiliau a'ch arferion yn gyfredol
- cadw cofnodion o'ch gweithredoedd, eich cynlluniau datblygu a'ch cynnydd, a'u defnyddio i gefnogi arferion myfyriol parhaus a'u llywio
- cymhwyso gwybodaeth a sgiliau newydd i atgyfnerthu dysgu, gwella eich arferion, ac adolygu effeithiolrwydd gwybodaeth a sgiliau sydd newydd eu caffael
- rhannu gwybodaeth, sgiliau a gwelliannau i arferion gyda chydweithwyr
Gwybodaeth a Dealltwriaeth
You need to know and understand:
- y gofynion sefydliadol, cyfreithiol a phroffesiynol y dylid eu dilyn wrth gynllunio rhaglenni dysgu a datblygu
- maint a chyfyngiadau'r gofynion a'r cyfrifoldebau sy'n gysylltiedig â'ch rôl
- yr arferion iechyd a diogelwch a sgiliau personol a chymdeithasol sy'n berthnasol i faes eich gwaith a rheoli eich llwyth gwaith
- nodau'r tîm, y sefydliad a'ch nodau phroffesiynol eich hun
- sut i archwilio'r gofynion cyfredol o ran perfformiad sy'n berthnasol i'ch arferion, gan gynnwys disgrifiadau o'r rôl, safonau, meincnodau, codau ymarfer, a gwerthoedd ac egwyddorion sy'n berthnasol i'ch arferion
- sut i gael gwybod am dueddiadau a datblygiadau sy'n berthnasol i'ch sgiliau, eich gwybodaeth a'ch arferion, gan gynnwys y rhai sy'n ymwneud â datblygiadau technolegol a chael y wybodaeth ddiweddaraf amdanynt
- dulliau effeithiol o asesu eich gwerthoedd, eich credoau a'ch hagweddau sy'n berthnasol i'ch sgiliau a'ch arferion
- pam mae'n bwysig deall eich gwerthoedd, eich credoau a'ch agweddau a sut gall effeithio ar eich arferion gwaith yn ogystal â dysgu a datblygu eich hun
- pam mae'n bwysig gofyn am adborth ar eich perfformiad gan bawb sy'n ymwneud â'r broses ddysgu, a sut y gallwch wneud hyn
- y math o wybodaeth y dylid ei chasglu i lywio adolygiad o'ch sgiliau, eich gwybodaeth a'ch arferion
- ffyrdd o fyfyrio'n barhaus ar eich effeithlonrwydd a'ch effeithiolrwydd a'u gwerthuso, a pham mae hyn yn bwysig
- y dulliau y gellir eu defnyddio i asesu i ba raddau y mae eich arferion yn gynhwysol ac yn hyrwyddo cydraddoldeb ac amrywiaeth
- dulliau y gellir eu defnyddio i werthuso eich gwybodaeth, eich arferion, a'ch sgiliau, a'r ystod o wybodaeth y dylid ei defnyddio i lywio'r broses hon
- y wybodaeth y dylid ei hystyried wrth flaenoriaethu eich anghenion dysgu a datblygu
- ffynonellau a dulliau datblygiad parhaus a phroffesiynol perthnasol i hwyluso eich dysgu
- sut gall ymchwil helpu i ddiweddaru arferion
- dulliau, systemau a phrosesau ar gyfer rhannu gwybodaeth gwerthuso ac awgrymu gwelliannau
- sut i gynnig beirniadaeth adeiladol wrth awgrymu gwelliannau i gydweithwyr
- pam mae'n bwysig cadw cofnodion o'ch gweithredoedd, eich cynlluniau datblygu a'ch cynnydd a sut gellir eu defnyddio i lywio arferion myfyriol parhaus
- pam mae'n bwysig gwerthuso effeithiolrwydd adnoddau dysgu a'r ddarpariaeth ddysgu a ddefnyddir ar gyfer eich dysgu a datblygu ac â phwy y dylid rhannu'r wybodaeth hon
- sut gall rhannu arferion da ag eraill helpu i ddatblygu eich arferion
- pwysigrwydd datblygiad proffesiynol parhaus a myfyrio cydweithredol ar arferion datblygu dysgu
Cwmpas/ystod
Cwmpas Perfformiad
Gwybodaeth Cwmpas
Gwerthoedd
Ymddygiadau
Sgiliau
Geirfa
Cyfredol
Dylai'r dystiolaeth gyfredol ganiatáu i benderfyniadau gael eu gwneud yn hyderus ynghylch pa mor gyfredol yw'r sgiliau a gwybodaeth a honnir, a bod yr ymgeisydd yn gymwys ar y pwynt asesu.
Amrywiaeth
Cydnabod bod pob unigolyn yn unigryw, a chydnabod ein gwahaniaethau unigol e.e. o ran diwylliant, gallu, rhywedd, hil, crefydd, cyfoeth, cyfeiriadedd rhywiol, neu unrhyw nodwedd unigol arall.
Cydraddoldeb
Yr hawl sydd gan bawb i gael eu trin yn deg beth bynnag fo'r gwahaniaethau rhyngddynt e.e. o ran diwylliant, gallu, rhywedd, hil, crefydd, cyfoeth, cyfeiriadedd rhywiol, neu unrhyw nodwedd grŵp arall.
Nodau
Mae hyn yn cyfeirio at dargedau dros dro neu gamau tuag at helpu dysgwyr i gyflawni deilliannau ac amcanion cyffredinol.
Iechyd a diogelwch
Mae hyn yn cynnwys iechyd a diogelwch corfforol yn ogystal â lles emosiynol.
Proses ddysgu
Gall hyn gynnwys profiad, fel amser yn y gweithle, yn ogystal â hyfforddiant ffurfiol ac anffurfiol.
Arferion
Mae hyn yn cyfeirio at y 'ffordd' rydych chi'n gwneud eich gwaith ac mae'n ystyried ffactorau fel eich dull o weithio.
Adnoddau
Mae hyn yn cynnwys unrhyw adnodd ffisegol neu ddynol sy'n cefnogi'r broses ddysgu a datblygu, a gallai gynnwys offer technegol, technolegau digidol (gan gynnwys offer ac apiau ar-lein), taflenni, llyfrau gwaith, pobl — er enghraifft siaradwyr allanol — ac ymweliadau â lleoedd o ddiddordeb.
Rôl
Defnyddir hwn i ddisgrifio'r swydd yr ydych wedi eich contractio i'w chyflawni a'r gwaith y mae'n rhaid i chi ei wneud.