Asesu cyflawniad dysgwyr
Trosolwg
Mae'r safon hon yn ymwneud ag asesu dysgu a datblygiad yn erbyn meini prawf y cytunwyd arnynt. Mae'n ymwneud ag ystod o wahanol asesiadau gan gynnwys cymhwysedd, gwybodaeth a dealltwriaeth a sgiliau.
Meini prawf perfformiad
Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:
- sicrhau bod dysgwyr yn deall diben, gofynion a phrosesau asesu
- cynllunio asesiadau i fodloni gofynion ac anghenion dysgwyr
- defnyddio dulliau asesu dilys, cadarn, dibynadwy, cyfredol a digonol
- nodi a chasglu tystiolaeth dilys, dibynadwy, cadarn, cyfredol a digonol
- gwneud penderfyniadau asesu yn erbyn meini prawf penodedig yn unol â'r canllawiau asesu perthnasol
- rhoi adborth i'r dysgwr sy'n cadarnhau cyflawniad ac yn nodi unrhyw ofynion ychwanegol
- cadw cofnodion gofynnol o'r broses asesu, ei deilliannau a chynnydd dysgwyr
- gweithio gydag eraill i sicrhau bod arferion a deilliannau asesu wedi'u safoni
- myfyrio ar eich arferion a nodi anghenion datblygiad proffesiynol
Gwybodaeth a Dealltwriaeth
You need to know and understand:
- y gofynion sefydliadol, cyfreithiol a phroffesiynol y dylid eu dilyn wrth gynllunio rhaglenni dysgu a datblygu
- y gofynion ansawdd cyfredol ar gyfer prosesau a systemau asesu ym maes eich cyfrifoldeb
- y cysyniadau a'r egwyddorion allweddol sy'n gysylltiedig â sicrhau ansawdd
- y cysyniadau a'r egwyddorion allweddol sy'n gysylltiedig ag asesu
- rôl yr aseswr a gofynion perthnasol y rôl
- rolau'r rhai sy'n ymwneud â chynnal ansawdd asesu a gofynion perthnasol y rolau hyn
- y gweithdrefnau y cytunwyd arnynt ar gyfer cynllunio asesiadau, paratoi ar eu cyfer a'u cynnal
- meini prawf priodol ar gyfer asesu ansawdd y broses asesu
- sut i sicrhau bod iechyd a diogelwch y dysgwr yn cael ei gynnal yn ystod yr asesiad
- yr ystod o wybodaeth a ddylai fod ar gael i ddysgwyr
- y meini prawf cyfredol y gwneir asesiadau yn eu herbyn a'r rheoliadau a'r gofynion cyfredol sy'n ymwneud â'u hasesiad
- canllawiau ar gyfer cynllunio trefniadau asesu fel y bo'n briodol i faes eich cyfrifoldeb
- sut i gynnwys dysgwyr wrth gynllunio asesiadau
- sut gellir addasu trefniadau asesu i ddiwallu anghenion dysgwyr unigol
- sut i wneud yr amgylchedd asesu yn briodol i anghenion y dysgwr a'r meini prawf sy'n cael eu hasesu.
- defnyddiau, manteision ac anfanteision gwahanol ddulliau asesu
- y mathau o risgiau a allai fod yn rhan o'r broses asesu a sut i'w rheoli
- materion sy'n ymwneud â chydraddoldeb ac amrywiaeth a allai effeithio ar y broses asesu a sut i fynd i'r afael â'r rhain
- sut i wneud yn siŵr bod penderfyniadau asesu'n cael eu gwneud yn erbyn meini prawf penodedig a'u bod yn ddilys, yn ddibynadwy, yn deg ac yn gadarn
- sut i benderfynu pryd mae tystiolaeth yn ddigonol i wneud penderfyniad asesu
- sut i asesu pa mor ddilys, dibynadwy, cadarn a chyfoes yw tystiolaeth a beth i'w wneud pan fo amheuaeth
- sut i gofnodi a storio penderfyniadau asesu, i bwy y dylent fod ar gael, a'r canllawiau diogelu data a chyfrinachedd y dylid eu dilyn
- ffactorau i'w hystyried wrth roi adborth i ddysgwyr
- y gweithdrefnau perthnasol pan fo anghydfodau ynghylch asesu
- prosesau safoni a sut i gyfrannu at y rhain
- sut i gydweithredu a gweithio'n effeithiol gydag eraill sy'n ymwneud â'r broses asesu
- gwerth a diben datblygiad proffesiynol parhaus i ymarferwyr asesu
Cwmpas/ystod
Cwmpas Perfformiad
Gwybodaeth Cwmpas
Gwerthoedd
Ymddygiadau
Sgiliau
Geirfa
Dull asesu
Ffordd o gynhyrchu tystiolaeth o wybodaeth a/neu sgiliau ymgeisydd. Ffyrdd o fesur dysgu a datblygu, er enghraifft, arsylwi, cwestiynu, gwirio cynhyrchion gwaith, gosod aseiniadau.
Dilys
Gwaith yr ymgeisydd ei hun.
Ymgeisydd
Yr unigolyn a gyflwynwyd ar gyfer cymhwyster. Yn aml yn cael ei ddefnyddio yn yr un modd â 'dysgwr' a gellir ei ddefnyddio i gyfeirio at ddysgwr sydd ar y pwynt asesu.
Cyfredol
Dylai'r dystiolaeth gyfredol ganiatáu i benderfyniadau gael eu gwneud yn hyderus ynghylch pa mor gyfredol yw'r sgiliau a gwybodaeth a honnir, a bod yr ymgeisydd yn gymwys ar y pwynt asesu.
Cydraddoldeb
Yr hawl sydd gan bawb i gael eu trin yn deg beth bynnag fo'r gwahaniaethau rhyngddynt e.e. o ran diwylliant, gallu, rhywedd, hil, crefydd, cyfoeth, cyfeiriadedd rhywiol, neu unrhyw nodwedd grŵp arall.
Tystiolaeth
Gallai hyn, er enghraifft, fod yn gynnydd dysgwyr, cyrhaeddiad dysgwyr, boddhad dysgwyr, ymgysylltu â staff, yn unol â'r hyn sy'n briodol i'r dangosyddion ansawdd.
Amrywiaeth
Cydnabod bod pob unigolyn yn unigryw, a chydnabod ein gwahaniaethau unigol e.e. o ran diwylliant, gallu, rhywedd, hil, crefydd, cyfoeth, cyfeiriadedd rhywiol, neu unrhyw nodwedd unigol arall.
Amgylchedd
Mae hyn yn cynnwys yr amgylchedd ffisegol lle mae dysgu a datblygu yn digwydd ond mae hefyd yn cynnwys deinameg ac ymddygiad grwpiau.
Gweddol
Gwneud yn siŵr bod gan bawb yr un cyfle i gael asesiad cywir.
Iechyd a diogelwch
Mae hyn yn cynnwys iechyd a diogelwch corfforol yn ogystal â lles emosiynol.
Nodi tystiolaeth a'i chasglu
Gwneir hyn trwy'r broses asesu, er enghraifft trwy arsylwadau aseswyr, gwirio cynnyrch gwaith, gofyn cwestiynau, gosod aseiniadau ac ati.
Deilliannau
Gallai'r rhain fod yn ddeilliannau i'r grŵp cyfan - er enghraifft galluogi effeithiolrwydd tîm - a/neu ddeilliannau i'r unigolion sy'n ffurfio'r grŵp — er enghraifft caffael sgiliau unigol.
Arferion
Mae hyn yn cyfeirio at y 'ffordd' rydych chi'n gwneud eich gwaith ac mae'n ystyried ffactorau fel eich dull o weithio.
Gofynion ansawdd
Gallai'r rhain fod, er enghraifft, yn ofynion sefydliadol, cyfreithiol/statudol, gofynion o ran cyllid neu'n ofynion gan sefydliadau dyfarnu.
Dibynadwy
Yn cyflawni'r un canlyniadau yn gyson gyda'r un grŵp (neu grŵp tebyg) o ddysgwyr.
Gofynion
Gallai'r rhain fod yn ofynion gan sefydliad yr ymarferydd ei hun neu sefydliad allanol, megis sefydliad dyfarnu.
Asesiad risg
Gallai hyn fod yn asesiad risg ffurfiol ac ysgrifenedig ond gallai fod yn anffurfiol ac yn ddeinamig — yn monitro ac yn rheoli risg yn barhaus. Mae risg yn cynnwys iechyd a diogelwch ond gall hefyd gwmpasu mathau eraill o risg, er enghraifft y risg o broblemau'n codi sy'n ymyrryd â'r broses asesu, neu'r risg o ddefnyddio dulliau asesu amhriodol.
Cadarn
Mae tystiolaeth gadarn yn gallu gwrthsefyll beirniadaeth ac mae modd cyfiawnhau ei defnydd yn hawdd.
Rôl
Defnyddir hwn i ddisgrifio'r swydd yr ydych wedi eich contractio i'w chyflawni a'r gwaith y mae'n rhaid i chi ei wneud.
Diogel
Mae hyn yn cynnwys diogelwch corfforol a seicolegol. Mae hefyd yn cynnwys sicrhau bod tystiolaeth asesu yn ddiogel h.y. sy'n ddigon cadarn i lunio barn ddibynadwy bod y dysgwr yn bodloni'r safon asesu.
Digonol
Digon o dystiolaeth fel y nodir yn y Gofynion o ran Tystiolaeth neu'r Strategaeth Asesu.
Technoleg
Mae hyn yn cyfeirio at galedwedd ac offer/apiau ar-lein y gellir eu defnyddio wrth gyflwyno rhaglenni dysgu a'u hasesu.
Cywir
Yn berthnasol i'r meini prawf y mae'r ymgeisydd yn cael ei asesu yn eu herbyn.