Ymgysylltu â dysgwyr yn y broses ddysgu a datblygu a'u cefnogi
Trosolwg
Mae'r safon hon yn ymwneud â chefnogi dysgwyr drwy'r broses ddysgu e.e. drwy roi gwybodaeth a chyngor iddynt, eu helpu i oresgyn rhwystrau, eu helpu i gael mynediad at y dysgu a'r profiad sydd eu hangen arnynt, monitro cynnydd yn erbyn safonau disgwyliedig a rhoi adborth adeiladol.
Meini prawf perfformiad
Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:
- sefydlu a chynnal perthynas gadarnhaol â'r dysgwr sy'n annog ac yn ysgogi dysgu
- rhoi gwybodaeth a chyngor i'r dysgwr sy'n berthnasol i'w hanghenion
- galluogi'r dysgwr i ymgysylltu â'u dysgu eu hunain, a chyfrannu ato
- cynorthwyo'r dysgwr i gael gafael ar y sgiliau, y wybodaeth a'r profiad sydd eu hangen arnynt
- helpu'r dysgwr i oresgyn unrhyw rwystrau sy'n eu hatal rhag cymryd rhan yn y broses ddysgu yn llawn
- cefnogi'r dysgwr i gymryd cyfrifoldeb am ei ddatblygiad ei hun
- monitro perfformiad y dysgwr yn erbyn safonau disgwyliedig a rhoi tystiolaeth o gyflawniad i eraill yn ôl y gofyn
- rhoi adborth adeiladol i'r dysgwr
- adolygu cynnydd dysgwyr a'u helpu i addasu eu cynlluniau yn ôl yr angen
Gwybodaeth a Dealltwriaeth
You need to know and understand:
- y gofynion sefydliadol, cyfreithiol a phroffesiynol y dylid eu dilyn wrth gynllunio rhaglenni dysgu a datblygu
- nodweddion perthynas sy'n cefnogi cynnydd dysgwyr ac yn eu cymell i ddysgu
- y mathau o wybodaeth a chyngor y gallai fod eu hangen ar ddysgwyr a sut i'w rhoi iddynt a'u galluogi i gael mynediad atynt
- gwahanol strategaethau i alluogi dysgwyr i ymgysylltu â dysgu
- agweddau ar gydraddoldeb ac amrywiaeth y mae angen mynd i'r afael â nhw wrth gefnogi dysgwyr
- yr ystod o dechnegau y gall gwahanol fathau o ddysgwyr eu defnyddio i gyfrannu at eu dysgu
- y mathau o rwystrau i ddysgu a wynebir gan wahanol fathau o ddysgwr a sut i fynd i'r afael â'r rhain
- sut i helpu unigolion sydd â gwahanol fathau o anghenion dysgu i gael gafael ar y sgiliau, y wybodaeth a'r profiadau sydd eu hangen arnynt i symud ymlaen
- ffiniau eu rôl eu hunain a phryd i gyfeirio'r dysgwr at ffynonellau eraill o gymorth a chefnogaeth
- ystod yr adnoddau, gan gynnwys cymorth gan eraill ac atebion sy'n seiliedig ar dechnoleg, sydd ar gael i gefnogi dysgwyr
- pam mae'n bwysig bod dysgwyr yn cymryd cyfrifoldeb am eu dysgu eu hunain a gwahanol ddulliau o'u helpu i wneud hynny
- dulliau y gellir eu defnyddio i alluogi dysgwyr i roi adborth gonest ac adeiladol ar eu profiadau a sut i ddefnyddio'r adborth hwn pan gaiff ei gasglu
- dulliau y gellir eu defnyddio i fonitro perfformiad dysgwyr yn erbyn safonau gofynnol
- gwahanol ddulliau o gyflwyno tystiolaeth o gyflawniad dysgwyr i eraill
- gwahanol ddulliau o roi adborth adeiladol i'r dysgwr a sut i ddefnyddio'r rhain yn effeithiol
- pwysigrwydd adolygu cynnydd dysgwyr a'r amseroedd priodol i wneud hynny
- y ffactorau sy'n bwysig o ran helpu dysgwyr i adolygu eu cynnydd a, lle bo angen, addasu eu cynlluniau ar gyfer dysgu a dilyniant
Cwmpas/ystod
Cwmpas Perfformiad
Gwybodaeth Cwmpas
Gwerthoedd
Ymddygiadau
Sgiliau
Geirfa
Rhwystrau
Unrhyw beth a allai atal y dysgwr rhag cymryd rhan yn llawn. Gallai hyn gynnwys, er enghraifft, diffyg hyder neu sgiliau a gwybodaeth hanfodol.
Amrywiaeth
Cydnabod bod pob unigolyn yn unigryw, a chydnabod ein gwahaniaethau unigol e.e. o ran diwylliant, gallu, rhywedd, hil, crefydd, cyfoeth, cyfeiriadedd rhywiol, neu unrhyw nodwedd unigol arall.
Cydraddoldeb
Yr hawl sydd gan bawb i gael eu trin yn deg beth bynnag fo'r gwahaniaethau rhyngddynt e.e. o ran diwylliant, gallu, rhywedd, hil, crefydd, cyfoeth, cyfeiriadedd rhywiol, neu unrhyw nodwedd grŵp arall.
Safonau disgwyliedig
Y safonau y dylai'r dysgwr eu cyflawni yn rhan o'u rhaglen ddysgu. Gallai'r rhain gynnwys safonau galwedigaethol cenedlaethol neu safonau a bennir gan fathau eraill o gymwysterau.
Tystiolaeth
Gallai hyn, er enghraifft, fod yn gynnydd dysgwyr, cyrhaeddiad dysgwyr, boddhad dysgwyr, ymgysylltu â staff, yn unol â'r hyn sy'n briodol i'r dangosyddion ansawdd.
Proses ddysgu
Gall hyn gynnwys profiad, fel amser yn y gweithle, yn ogystal â hyfforddiant ffurfiol ac anffurfiol.
Rhoi tystiolaeth o gyflawniad
Gallai hyn gynnwys rhoi datganiadau tyst i aseswyr cymwysedig.
Adnoddau
Mae hyn yn cynnwys unrhyw adnodd ffisegol neu ddynol sy'n cefnogi'r broses ddysgu a datblygu, a gallai gynnwys offer technegol, technolegau digidol (gan gynnwys offer ac apiau ar-lein), taflenni, llyfrau gwaith, pobl — er enghraifft siaradwyr allanol — ac ymweliadau â lleoedd o ddiddordeb.
Rôl
Defnyddir hwn i ddisgrifio'r swydd yr ydych wedi eich contractio i'w chyflawni a'r gwaith y mae'n rhaid i chi ei wneud.