Rheoli dysgu a datblygu mewn grwpiau

URN: CLDLD06
Sectorau Busnes (Suites): Dysgu a Datblygu
Datblygwyd gan: CLD Standards Council Scotland
Cymeradwy ar: 28 Meh 2021

Trosolwg

Mae'r safon hon yn ymwneud â defnyddio ystod o ddulliau i alluogi aelodau o grŵp i ddysgu a datblygu mewn amgylchedd dysgu diogel a chefnogol.


Meini prawf perfformiad

Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:

  1. paratoi amgylchedd sy'n hwyluso dysgu effeithiol sy'n berthnasol i'r dulliau cyflwyno
  2. rheoli amgylchedd grŵp lle mae unigolion yn teimlo eu bod yn cael eu gwerthfawrogi, eu cefnogi, yn hyderus ac yn gallu dysgu
  3. cyfathrebu â dysgwyr mewn ffordd sy'n diwallu anghenion unigolion a grwpiau
  4. gwneud yn siŵr bod dysgwyr yn ymwybodol o'r deilliannau y disgwylir iddynt eu cyflawni a sut y bydd y gweithgareddau arfaethedig yn cefnogi'r rhain
  5. defnyddio ystod o ddulliau cyflawni, gweithgareddau ac adnoddau i ddiwallu anghenion holl aelodau'r grŵp, yn unol â'r hyn sy'n briodol i'r deilliannau a gynlluniwyd
  6. cydbwyso ac addasu'r dull cyflwyno i ddiwallu anghenion unigol yn ogystal â chyflawni deilliannau a chytundebau grŵp a gynlluniwyd
  7. monitro ymateb dysgwyr a defnyddio strategaethau priodol i ysgogi dysgwyr yn unigol ac ar y cyd
  8. annog cyfathrebu effeithiol o fewn y grŵp
  9. cynnal iechyd a diogelwch dysgwyr, eu hunain a phobl eraill

Gwybodaeth a Dealltwriaeth

You need to know and understand:

  1. y gofynion sefydliadol, cyfreithiol a phroffesiynol y dylid eu dilyn wrth gynllunio rhaglenni dysgu a datblygu
  2. egwyddorion, defnyddiau a gwerth dysgu a datblygu ar sail grwpiau
  3. anghenion y dysgwyr, eu gofynion a'r deilliannau a gynllunnir sy'n berthnasol i'w meysydd gwaith eu hunain
  4. y mathau o adnoddau dysgu sydd ar gael, gan gynnwys y rhai a gyfoethogir gan dechnoleg, a allai gefnogi dysgu a datblygu mewn grwpiau
  5. y ffactorau i'w hystyried wrth ddewis a defnyddio adnoddau dysgu a datblygu i hwyluso dysgu a datblygu mewn grwpiau
  6. nodweddion amgylchedd grŵp sy'n meithrin dysgu a datblygu i bawb sy'n gysylltiedig
  7. gwahanol dechnegau i reoli deinameg grŵp
  8. agweddau ar gydraddoldeb ac amrywiaeth i'w hystyried wrth hwyluso dysgu a datblygu mewn grwpiau
  9. gwahanol ffyrdd o annog ymddygiad a gwerthoedd sy'n meithrin parch rhwng pobl ac sy'n cefnogi'r broses ddysgu a datblygu
  10. pwysigrwydd eu sgiliau cyfathrebu eu hunain a gwahanol ffyrdd o gyfathrebu'n effeithiol â grwpiau, ac unigolion o fewn grwpiau
  11. yr ystod o ddulliau cyflwyno sy'n briodol i ddysgu mewn grwpiau
  12. sut i gydlynu gweithgareddau dysgu a datblygu i ddiwallu anghenion unigolion a grwpiau
  13. y mathau o strategaethau ysgogol a fyddai'n cefnogi dysgu mewn grwpiau ac ymysg unigolion a sut i ddewis y rhain yn ôl anghenion a nodwyd
  14. technegau y gellir eu defnyddio i fonitro ymateb dysgwyr
  15. gwahanol ffyrdd o addasu'r ddarpariaeth yn ôl ymateb dysgwyr wrth barhau i gyflawni deilliannau a chytundebau a gynlluniwyd
  16. sut i asesu a rheoli risg wrth hwyluso dysgu a datblygu mewn grwpiau
  17. sut i asesu a rheoli risg ym maes eich gwaith wrth hwyluso dysgu a datblygu ar gyfer grwpiau

Cwmpas/ystod


Cwmpas Perfformiad


Gwybodaeth Cwmpas


Gwerthoedd


Ymddygiadau


Sgiliau


Geirfa

Asesu a rheoli risgiau

Gallai hyn fod yn asesiad risg ffurfiol ac ysgrifenedig ond gallai hefyd fod yn anffurfiol ac yn ddeinamig — yn monitro ac yn rheoli risg yn barhaus.

Dulliau cyflwyno

Unrhyw ddull sy'n cefnogi dysgu a datblygu, er enghraifft, cyflwyniadau, cyfarwyddiadau, arddangosiadau, efelychiadau, cyfleoedd i gymhwyso gwybodaeth ac ymarfer sgiliau, dysgu drwy brofiad, prosiectau grŵp/unigol ac ymchwil. Mae hyn yn cynnwys defnyddio offer ac apiau ar-lein a/neu ddysgu cyfunol.

Amrywiaeth

Cydnabod bod pob unigolyn yn unigryw, a chydnabod ein gwahaniaethau unigol e.e. o ran diwylliant, gallu, rhywedd, hil, crefydd, cyfoeth, cyfeiriadedd rhywiol, neu unrhyw nodwedd unigol arall.

Amgylchedd

Mae hyn yn cynnwys yr amgylchedd ffisegol lle mae dysgu a datblygu yn digwydd ond mae hefyd yn cynnwys deinameg ac ymddygiad grwpiau.

Cydraddoldeb

Yr hawl sydd gan bawb i gael eu trin yn deg beth bynnag fo'r gwahaniaethau rhyngddynt e.e. o ran diwylliant, gallu, rhywedd, hil, crefydd, cyfoeth, cyfeiriadedd rhywiol, neu unrhyw nodwedd grŵp arall.

Iechyd a diogelwch

Mae hyn yn cynnwys iechyd a diogelwch corfforol yn ogystal â lles emosiynol.

Amgylchedd dysgu

Mae hyn yn cynnwys ystod o amgylcheddau dysgu yn ogystal â phlatfformau, dulliau ac ymagweddau cyflwyno. Gall fod ar-lein neu wyneb yn wyneb.

Pobl eraill

Mae hyn yn cyfeirio at eraill a allai fod yn rhan o'r gweithgareddau dysgu, neu sydd wedi'u heffeithio ganddynt, er enghraifft, aelodau staff, gwirfoddolwyr, cynorthwywyr neu bobl yn yr un maes.

Deilliannau

Gallai'r rhain fod yn ddeilliannau i'r grŵp cyfan - er enghraifft galluogi effeithiolrwydd tîm - a/neu ddeilliannau i'r unigolion sy'n ffurfio'r grŵp — er enghraifft caffael sgiliau unigol.

Gofynion

Gallai'r rhain fod yn ofynion sefydliad yr ymarferydd neu ofynion sefydliad allanol, fel corff cyllido neu sefydliad dyfarnu.

Adnoddau

Mae hyn yn cynnwys unrhyw adnodd ffisegol neu ddynol sy'n cefnogi'r broses ddysgu a datblygu, a gallai gynnwys offer technegol, technolegau digidol (gan gynnwys offer ac apiau ar-lein), taflenni, llyfrau gwaith, pobl — er enghraifft siaradwyr allanol — ac ymweliadau â lleoedd o ddiddordeb.

Risg

Mae hyn yn cynnwys risgiau iechyd a diogelwch ond gall hefyd gynnwys, er enghraifft, y risg o ddulliau cyflwyno amhriodol neu osod nodau afrealistig. Gall y risgiau amharu ar ddysgwyr unigol, grŵp o ddysgwyr neu i'r rhai sy'n hwyluso.

Diogel

Mae hyn yn cynnwys diogelwch corfforol a seicolegol. Mae hefyd yn cynnwys sicrhau bod tystiolaeth asesu yn ddiogel h.y. sy'n ddigon cadarn i lunio barn ddibynadwy bod y dysgwr yn bodloni'r safon asesu.

Technoleg

Mae hyn yn cyfeirio at galedwedd ac offer/apiau ar-lein y gellir eu defnyddio wrth gyflwyno rhaglenni dysgu a'u hasesu.


Dolenni I NOS Eraill


Cysylltiadau Allanol


Fersiwn rhif


Dyddiad Adolygu Dangosol

31 Maw 2026

Dilysrwydd

Ar hyn o bryd

Statws

Gwreiddiol

Sefydliad Cychwynnol

Lifelong Learning UK

URN gwreiddiol

LaD06

Galwedigaethau Perthnasol

Addysg a hyfforddiant, Gweithwyr Addysgu Proffesiynol, Addysgu a darlithio, Gweithiwr Gwasanaethau Cyhoeddus Proffesiynol, Cymorth dysgu uniongyrchol

Cod SOC

3574

Geiriau Allweddol

anghenion dysgu cyfunol, anghenion datblygu, ffocws dysgu, nodi anghenion dysgu, dysgu, dadansoddi anghenion dysgu, blaenoriaethu anghenion dysgu, anghenion hyfforddi, cyfrinachedd dysgwyr, ymarferwyr datblygu dysgu