Cynllunio a pharatoi cyfleoedd dysgu a datblygu penodol
Trosolwg
Mae'r safon hon yn ymwneud â chynllunio a pharatoi cyfleoedd dysgu a datblygu penodol/unigol, er enghraifft sesiynau hyfforddi ffurfiol neu brofiadau anffurfiol fel cyfnodau yn y gweithle. Mae'n berthnasol wrth gynllunio ar gyfer unigolion yn ogystal â chynllunio ar gyfer grwpiau.
Meini prawf perfformiad
Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:
- nodi diben a deilliannau cyfleoedd dysgu a datblygu penodol mewn perthynas â nodau y cytunwyd arnynt
- datblygu cynlluniau sy'n briodol i anghenion dysgu a nodwyd ac sy'n bodloni gofynion sefydliadol a chyfreithiol
- cyfleu nodau ac amcanion i ddysgwyr a chytuno ar y cynllun gyda rhanddeiliaid perthnasol
- nodi sut y caiff cyfleoedd dysgu a datblygu penodol eu darparu a/neu eu hwyluso a'u rheoli
- nodi'r adnoddau sydd eu hangen i ddarparu a/neu hwyluso cyfleoedd dysgu a datblygu penodol
- gwneud paratoadau a threfniadau ar gyfer cyflawni a /neu hwyluso yn unol â'r cynllun a pholisïau/gweithdrefnau sefydliadol.
- nodi sut caiff cyfleoedd dysgu a datblygu eu monitro a'u gwerthuso
Gwybodaeth a Dealltwriaeth
You need to know and understand:
- y gofynion sefydliadol, cyfreithiol a phroffesiynol y dylid eu dilyn wrth gynllunio rhaglenni dysgu a datblygu
- pwysigrwydd cael deilliannau clir ar gyfer cyfleoedd dysgu a datblygu penodol
- gwahanol ddulliau o gyfleu nodau ac amcanion i ddysgwyr
- opsiynau ar gyfer darparu a / neu hwyluso gwahanol fathau o gyfleoedd dysgu a datblygu
- ffactorau i'w hystyried wrth ddewis dulliau addas ar gyfer cyflwyno a hwyluso
- yr ystod o ystyriaethau cynllunio sy'n berthnasol i sicrhau bod anghenion cydraddoldeb ac amrywiaeth yn cael eu diwallu
- ffactorau y mae angen eu hystyried wrth reoli gwahanol gyfleoedd dysgu a datblygu a sut i ddelio â'r ffactorau hyn
- yr adnoddau, gan gynnwys technoleg, sydd ar gael i gefnogi'r gwaith o ddarparu a / neu hwyluso a rheoli cyfleoedd dysgu a datblygu
- manteision ac anfanteision gwahanol fathau o adnoddau wrth ddiwallu anghenion dysgwyr
- y mathau o baratoadau y mae angen eu gwneud ar gyfer gwahanol gyfleoedd dysgu a pham mae pob un o'r rhain yn bwysig
- sut i gynnal asesiad risg mewn perthynas â chynllunio ar gyfer cyfleoedd dysgu a datblygu penodol, a'r cynlluniau wrth gefn y dylid eu rhoi ar waith mewn ymateb i asesiadau risg
- y gofynion gweithredol y dylid eu hystyried wrth gynllunio cyfleoedd dysgu a datblygu penodol, gan gynnwys canllawiau sefydliadol, iechyd a diogelwch, cyllidebol a deddfwriaethol
Cwmpas/ystod
Cwmpas Perfformiad
Gwybodaeth Cwmpas
Gwerthoedd
Ymddygiadau
Sgiliau
Geirfa
Dulliau cyflwyno
Unrhyw ddull sy'n cefnogi dysgu a datblygu, er enghraifft, cyflwyniadau, cyfarwyddiadau, arddangosiadau, cyfleoedd i gymhwyso gwybodaeth ac ymarfer sgiliau, dysgu drwy brofiad, prosiectau grŵp ac unigol ac ymchwil.
Amrywiaeth
Cydnabod bod pob unigolyn yn unigryw, a chydnabod ein gwahaniaethau unigol e.e. o ran diwylliant, gallu, rhywedd, hil, crefydd, cyfoeth, cyfeiriadedd rhywiol, neu unrhyw nodwedd unigol arall.
Cydraddoldeb
Yr hawl sydd gan bawb i gael eu trin yn deg beth bynnag fo'r gwahaniaethau rhyngddynt e.e. o ran diwylliant, gallu, rhywedd, hil, crefydd, cyfoeth, cyfeiriadedd rhywiol, neu unrhyw nodwedd grŵp arall.
Iechyd a diogelwch
Mae hyn yn cynnwys iechyd a diogelwch corfforol yn ogystal â lles emosiynol.
Cyfleoedd dysgu a datblygu
Unrhyw ddigwyddiad sy'n helpu i gaffael sgiliau a gwybodaeth. Mae hyn yn cynnwys sesiynau ffurfiol yn ogystal â phrofiadau fel ymweliadau, amser a dreulir yn y gweithle, ymchwil bersonol ac ati.
Sefydliad
Er enghraifft, sefydliad dyfarnu, adran fewnol neu unrhyw sefydliad arall sy'n ymwneud â chyflwyno a/neu asesu dysgu a datblygu.
Deilliannau
Gallai'r rhain fod yn ddeilliannau i'r grŵp cyfan - er enghraifft galluogi effeithiolrwydd tîm - a/neu ddeilliannau i'r unigolion sy'n ffurfio'r grŵp — er enghraifft caffael sgiliau unigol.
Adnoddau
Mae hyn yn cynnwys unrhyw adnodd ffisegol neu ddynol sy'n cefnogi'r broses ddysgu a datblygu a gallai gynnwys offer technegol, dysgu sy'n seiliedig ar TG, taflenni, llyfrau gwaith, pobl – er enghraifft siaradwyr allanol – ac ymweliadau â lleoedd o ddiddordeb.
Asesiadau risg
Gallai hyn fod yn asesiad risg ffurfiol ac ysgrifenedig ond gallai fod yn anffurfiol ac yn ddeinamig — yn monitro ac yn rheoli risg yn barhaus. Mae risg yn cynnwys iechyd a diogelwch ond gall hefyd gynnwys e.e. cyllid, pa adnoddau sydd ar gael, ac ati.
Rhanddeiliaid
Pawb sydd â diddordeb yn y dadansoddiad o anghenion hyfforddi/dysgu, er enghraifft, rheolwyr, staff Adnoddau Dynol, y dysgwyr eu hunain.
Technoleg
Mae hyn yn cyfeirio at galedwedd ac offer/apiau ar-lein y gellir eu defnyddio wrth gyflwyno rhaglenni dysgu a'u hasesu.